Chwip din

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 06 Gor 2004 1:19 pm

Faswn i'n synnu os oes fawr o bobol yn rhoi chwip din i blentyn am fod nhw'n crio?!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Ray Diota » Maw 06 Gor 2004 1:40 pm

O'n i'n ca'l chwip dîn go iawn gan mam pan o'n i'n fach. Yn ganol Gateways aberystwyth unwaith. Odd fy nhintws bach i'n goch! Ond o'n in fsdad bach so o'n i'n haeddu fe. Bydd fy mhlant i'n cal chwip dîn. Ffaith. Pwy bynnag ddwedodd mai anwybyddu ymddygiad drwg yw'r ffordd ymlaen naill ai'n hipi neu'n 3 mlwydd oed.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Meiji Tomimoto » Maw 06 Gor 2004 1:44 pm

Bler - amhosib i'w ddiffinio fel ma' nhw 'di gadal petha.
Un ai ti'n cael neu ti ddim.
Sgen i ddim barn am fod gen i ddim plantos (Dwi'm yn meddwl) :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Dylan » Maw 06 Gor 2004 1:51 pm

Ray Diota a ddywedodd:Pwy bynnag ddwedodd mai anwybyddu ymddygiad drwg yw'r ffordd ymlaen naill ai'n hipi neu'n 3 mlwydd oed.


Pwy yn union sydd wedi argymell mai anwybyddu'r fath ymddygiad sydd orau? Yr unig ddewis felly ydi i'w anwybyddu'n llwyr neu i lunio llun o gledr eich llaw ar din y plentyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ffinc Ffloyd » Maw 06 Gor 2004 2:31 pm

Realydd a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Duw a wyr sut ddiawl mae'r fath waharddiad am gael ei weithredu, serch hynny.


Falle dyna pam na ddylid gwastraffu arian ac amser trethdalwyr yn malu cachu hefo'r pwnc.


Be ydi'r obsesiwn ma efo arian trethdalwyr, RET? Dwi'm yn dallt - mae hwn YN bwnc pwysig, a wedi darllen y drafodaeth dwi'n ama mod i o blaid y gwaharddiad.

Mi o'n i'n arfer cael ambell i slap pan on i'n fach - ond gan eu bod nhw'n ddigwyddiad anaml, mi o'n i'n dallt mod i wedi gwneud rwbath o'i le. Dwi'm yn meddwl y gwnaeth o ddim drwg i mi. Wedi dweud hynny, mi stopiodd yn rhieni i hyn ar ol i fi basio tua 7 oed a dechra nghwahardd i oddi ar y cyfrifiadur a ngyrru i i'n llofft ac ati. Mae yna ffyrdd eraill o ddisgyblu.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan ceribethlem » Maw 06 Gor 2004 7:11 pm

Fel athro, rhaid dweud fy mod yn chwyrn yn erbyn rhoi "slap" neu rhywbeth cyffelyb i'r plant. Rhaid dweud yn anaml mae'r diawled yn llwyddo i fy nghynddeiriogi, a theimlaf eu bod yn haeddu slap, ond pan fod y tymer yn mynd, yna teimlaf nid slap yw'r ateb.
Cytuno gyda'r ddamcaniaeth mai gwobrwyo ymddygiad da yw'r ateb, nid rhoi slap. Mae 'na nifer o ddisgyblion dwi wedi dysgu sy'n cael slap adre (ond ni fedraf brofi'r peth) ac ymddygiad surbwch a gwael sydd ganddynt. Pe baent wedi cael eu gwobrwyo am ymddwyn yn dda bydde'r ymddygiad cyffredinol yn well.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Macsen » Maw 06 Gor 2004 7:35 pm

Chi bobl sydd o blaid rhoi slap i blant- pam ddim estyn yr un pwerau i roi slap i oedolion? Dw i'n nabod lot o dwats a abell goc oen sy'n haeddu trawiad go iawn i ddysgu gwers iddynt yn union ru'n faint ag y plant drwg rheini. Mae'n hawdd i ni drafod taro plant yn gwybod na dim ni fydd yn cael slaes ar draws y pen bod tro da ni'n cambihafio.

Realydd a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Duw a wyr sut ddiawl mae'r fath waharddiad am gael ei weithredu, serch hynny.


Falle dyna pam na ddylid gwastraffu arian ac amser trethdalwyr yn malu cachu hefo'r pwnc.


Mae pasio deddf, hyd yn oed un sydd bron yn amhosib iw weithredu, yn gyrru neges i'r gymdeithas bod y math yma o beth yn anghywir. Bydd pobl ddim yn rhoi'r gorau i waldio plant, ond yn sicr mi fyddan nhw'n meddwl dwywaith cyn gwneud am ddim rheswm am ei bod dan bwysau neu yn flin.

Mae yna lawer o ffyrdd lot gwell o ddelio gyda plant drwg. Tynnu'r Playstation o'r wal a'i guddio yn y cwpwrdd mwyaf uchel yn y ty yw'r ateb.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Maw 06 Gor 2004 7:52 pm

Y peth 'dw i ddim yn ei ddallt ydi bod y rhan fwyaf o bobl sydd o blaid chwipio tinau yn defnyddio "dirywiad ein cymdeithas" fel rheswm. Mae plant yn camymddwyn ymhob man, felly mae'n rhaid nad ydynt yn cael eu disgyblu ddigon. h.y. eu taro. Diffyg chwipio tin ydi'r broblem, chwedl hwythau.

Ond 'dydi'r canran o blant sy'n cael eu taro heb ostwng o gwbl. Yn wir, mae 80% o blant ifanc Prydain yn dal yn cael eu smacio gan eu rhieni, yn ôl un seicolegydd plant ar Newsnight neithiwr. Mae'n rhaid felly bod rhesymau eraill am "ddirywiad ein cymdeithas". Sut felly gellid cynnig taro plant fel ffordd o ddatrys y "broblem cymdeithasol" os oes 80% ohonynt yn ei chael hi'n barod?

Mae Prydain rwan 25 mlynedd tu ôl Sweden. Ym 1979, gwaharddwyd smacio yno. 'Roedd 60% o'r boblogaeth yn erbyn y gwaharddiad. Gyda'r "dirywiad cymdeithasol" anochel a fyddai'n dilyn y fath beth, chwedl y chwipwyr, mi fyddech yn disgwyl i'r ganran yna fod wedi cynyddu eto. Ond gostyngodd gydag amser, ac erbyn heddiw dim ond 6% o boblogaeth Sweden sydd o blaid caniatáu chwipio unwaith eto.

Fel o'n i'n dweud: 10 mlynedd wedi gwaharddiad cyfan gwbl, byddem yn edrych yn ôl mewn syndod bod y fath ffys wedi cael ei wneud am y peth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Maw 06 Gor 2004 7:59 pm

Heh. Rhyfedd hefyd bod Realydd wedi dod i'r casgliad 'mod i'n "hoff o'r nanny state" ar ôl llai na mis ar y Maes. Yn enwedig o ystyried nad ydw i'n meddwl 'mod i wedi trafod materion cartref/mewnwladol efo fo o'r blaen. Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Realydd » Maw 06 Gor 2004 9:30 pm

Wel roedd yr un teip o bobl o blaid cael gwared a'r gansen o'r ysgolion. Fuasech chi'n dweud fod disgyblaeth wedi gwella neu gwaethygu ers i hynna ddigwydd?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai