Chwip din

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan S.W. » Mer 07 Gor 2004 6:27 am

Mae deud bod plant yn camfihafio oherwydd bod eu rhieni neu eu athrawon heb rhoi cweir i nhw iw disgyblu yn gorsymleiddio'r sefyllfa. Ges i erioed cansen yn yr ysgol a dydy o heb fy ngwneud i ymddwyn yn wrthgymdeithasol o gwbl. Diflasdod ac ati sydd yn gyfrifol am hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dylan » Mer 07 Gor 2004 12:01 pm

Realydd a ddywedodd:Wel roedd yr un teip o bobl o blaid cael gwared a'r gansen o'r ysgolion. Fuasech chi'n dweud fod disgyblaeth wedi gwella neu gwaethygu ers i hynna ddigwydd?


'Dydi'r ddadl yna ddim yn gweithio, achos os oes "dirywiad cymdeithasol" wedi digwydd ers gwahardd y gansen, 'does dim tystiolaeth o gwbl i awgrymu bod y naill wedi digwydd oherwydd y llall. Mae ffactorau eraill (a llawer pwysicach) mae'n rhaid eu hystyried hefyd. Y cynnydd anferth yn y gwahaniaeth rhwng y tlawd a'r cyfoethog, er enghraifft.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Iesu Nicky Grist » Mer 07 Gor 2004 2:19 pm

Ce's i chwip tin yn blentyn, a wnes i ddim d-d-d-d-d-d-d-d-dio-dio-dio-dio-diodd-dio-d-d-d-d-d-d-dio-d-d, ca'l niwed. :?

Eto'i gyd, pan ma Duw'n rhoi slap, 'sdim whare :!: :!:
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Realydd » Mer 07 Gor 2004 5:39 pm

Dylan a ddywedodd:'Dydi'r ddadl yna ddim yn gweithio, achos os oes "dirywiad cymdeithasol" wedi digwydd ers gwahardd y gansen, 'does dim tystiolaeth o gwbl i awgrymu bod y naill wedi digwydd oherwydd y llall. Mae ffactorau eraill (a llawer pwysicach) mae'n rhaid eu hystyried hefyd. Y cynnydd anferth yn y gwahaniaeth rhwng y tlawd a'r cyfoethog, er enghraifft.


Nid dileu'r gansen yw'r eglurhad am yr holl ddiffyg disgyblaeth ond mae'n ddigon rhesymol i gynnig fod o'n un rheswm ddigon posib.

Nid yw'r gwahaniaeth rhwng y tlawd a'r cyfoethog yn egluo'r ffaith fod pobl methu byhafio. Dyna esgus gachu!
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan ceribethlem » Mer 07 Gor 2004 6:11 pm

realydd a ddywedodd:Nid dileu'r gansen yw'r eglurhad am yr holl ddiffyg disgyblaeth ond mae'n ddigon rhesymol i gynnig fod o'n un rheswm ddigon posib.


Roedd fy nhad yn yr ysgol pan oedd y gansen yn cael ei ddefnyddio'n gyson. Mynte fe mai'r un disgyblion gafodd y gansen yn rheolaidd. Mae hyn yn awgrymu i fi fod y gansen yn aneffeithiol. Pe bai'n effeithiol ni fyddai'r disgyblion hynny a gafodd y gansen yn ei chael hi'r eildro!

Mae fwy o wybadaeth am aneffeithlonrwydd taro plant ar y wefan yma
Mae'n cynnwys y brawddegau:
Children need discipline, and particularly need to learn self-discipline. But corporal punishment is a very ineffective form of discipline. Research has consistently shown that it rarely motivates children to act differently, because it does not bring an understanding of what they ought to be doing nor does it offer any kind of reward for being good. The fact that parents, teachers and others often have to repeat corporal punishment for the same misbehaviour by the same child testifies to its ineffectiveness. Smacking, spanking and beating are a poor substitute for more positive forms of discipline which, far from spoiling children, ensure that they learn to think about others and about the consequences of their actions. In the countries where corporal punishment is banned there is no evidence to show that disruption of schools or homes by unruly children has increased: the sky does not fall if children cannot be hit.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Dylan » Mer 07 Gor 2004 6:41 pm

Realydd a ddywedodd:Nid yw'r gwahaniaeth rhwng y tlawd a'r cyfoethog yn egluo'r ffaith fod pobl methu byhafio. Dyna esgus gachu!


Ddim dim ond "cambyhafio" plentynaidd yn yr achos yma, ond plant yn eu harddegau sydd yn torri'r gyfraith a ballu. Diddorol nodi mai "rheswm" ydi gwaharddiad y gansen ond mai "esgus" ydi edrych ar y peth ar lefel sosio-economaidd.

'Swn i'n gwerthfawrogi ymateb i fy neges 8:52pm neithiwr os yn bosibl.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Realydd » Mer 07 Gor 2004 9:32 pm

Wel Dylan ti'n ymddangos braidd fel un o'r bobl ma sydd wastad yn meddwl fod pethau'n cael eu gwneud yn well dramor. Ychydig iawn o frolio pethau rydym yn wneud ym Mhrydain yr wyt. Sgen i fawr o ddiddordeb yn y pwnc yma ond dirywio mae ymddygiad a disgyblaeth mewn cymdeithas a ti'n trio gwneud ffwrdd hefo rhywbeth sydd wedi gweithio ers cenhedlaethau. Beth am adael i rieni ddewis y modd o geryddu eu plant does dim o'i le hefo chwip din bach weithiau.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Chwadan » Iau 08 Gor 2004 7:37 am

Dwi'm yn gweld fawr o broblem efo rhoi chwip-din. I mi, roedd cal dad yn bygwth dod ar fy ol efo'i slipar yn datrys y broblem yn amlach na pheidio. O fewn awyrgylch eitha teg lle mae'r plentyn yn gwybod mai'r rhieni di'r bos ond eu bo nhw'n ei garu, dwi'n meddwl fod slap fach achlysurol yn well cosb na gwneud i'r plentyn feddwl mai cosb ydi ei wahardd rhag cael gneud petha materol a di-bwrpas fel chwara ar y PlayStation.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Dylan » Iau 08 Gor 2004 1:14 pm

Realydd a ddywedodd:Wel Dylan ti'n ymddangos braidd fel un o'r bobl ma sydd wastad yn meddwl fod pethau'n cael eu gwneud yn well dramor. Ychydig iawn o frolio pethau rydym yn wneud ym Mhrydain yr wyt.


Amherthnasol

Sgen i fawr o ddiddordeb yn y pwnc yma ond dirywio mae ymddygiad a disgyblaeth mewn cymdeithas a ti'n trio gwneud ffwrdd hefo rhywbeth sydd wedi gweithio ers cenhedlaethau.


Beth, chwipio? Ond mae 80% o blant y wlad 'ma dal yn cael eu taro, felly wyt ti ddim yn meddwl ei bod yn debygol mai rhywbeth arall ydi'r broblem?

Beth am adael i rieni ddewis y modd o geryddu eu plant does dim o'i le hefo chwip din bach weithiau.


Wrth daro plant 'dach chi'n dangos iddyn nhw bod grym corfforol yn ffordd deg o ddatrys problemau. 'Dach chi'n gwneud i'r bychan fyhafio oherwydd ofn yn hytrach na deallusrwydd. Ti'n sôn am hawl y rhieni i ddisgyblu eu plant fel y mynnont ac am ryw reswm ymddengys mai dyna'r ffordd 'libertarian' o edrych ar y pwnc. Ond mae hynny'n amharu ar hawl y plentyn i beidio cael ei daro.

Y broblem pennaf mewn achosion o gamdrin plant ydi'r 'ardal lwyd' rhwng 'disgybliaeth resymol' a 'niwed corfforol'. Yn rhy aml mae rhieni sy'n euog o gamdrin eu plant yn cael eu harbed oherwydd y fath ansicrwydd (ac mae llawer wedi dysgu sut i daro heb adael marciau amlwg hefyd). Byddai gwaharddiad llwyr yn ddiddymu'r goddrychedd yma aac yn eu gwneud hi'n anos i rieni niweidio'u plant heb gael eu dal.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron