BBC Ar-Lein a ddywedodd:Arglwyddi'n trafod cynlluniau i wahardd taro plant
Bydd cynlluniau i wahardd taro plant yn cael eu trafod yn Nhŷ'r Arglwyddi brynhawn dydd Llun.
Bydd aelodau'r Tŷ yn pleidleisio ar gyfaddawd ble fydd taro plant yn cael ei wahardd yng Nghymru a Lloegr os yw'n achosi niwed corfforol.
Dyw'r llywodraeth ddim o blaid gwaharddiad llwyr.
Anhebygol y bydd gwaharddiad cyfan gwbl yn cael ei dderbyn, ond mi ddaw hwnnw gydag amser. Wir, rhyw ddeng mlynedd wedi'r fath waharddiad mi fydden ni'n edrych nôl mewn pembleth ar y ffaith bod cymaint o ddadlau wedi bod am y peth. Mae'r fath ddull o "ddisgyblu" yn perthyn i ryw oes arall. Hen bryd i ni symud ymlaen - mae 12 gwlad arall wedi gwneud yn barod.