Rhaid imi gytuno â realydd yma. Nid hawl i fyw ym Mhrydain sydd yma ond yr hawl i fod yn frodor. Gall rhywun gwneud wlpan Cymraeg a phasio'r test yma. Mae Blunkett wedi derbyn mae'r Gymraeg yn dderbyniol ar gyfer y prawf iaith, ond, Does fawr o fewnfudwyr o dramor yn y Fro Gymraeg. Mae'n nhw'n byw yng Nghaerdydd Casnewydd ag Abertawe fel arfer - trefi lle mae Saesneg ydy'r iaith Cymuned. Ymarferol yw'r rheol yma. Er dwi ddim yn hoffi bod y prawf gan safon mor uwch ag yw e.
Yr un mor cîn ydw i ag unrhywun yma i weld y Gymraeg fel Iaith Cymuned Cymru. Mae rheolau ar fewnfudwyr yn deillio o broblemau go iawn sydd gan y pobl 'na wrth ymwneud a'u gwlad newydd. Mater o'u diogelwch nhw eu hunain yw e'n aml iawn. Felly iaith y Cymuned o'u gwmpas y dylen nhw dysgu.
Cytunaf yn llwyr am y 60% o fewnfudwyr o siaradwyr Saenseg sy'n gwrthod y Gymraeg. Ond rhaid inni ystyried yn fanwl pam mae rhan fwyaf y 40% sy'n trio dysgu Cymraeg yn methu. Dim ond rhyw 7% o fewnfudwyr yn Cymhathu yn ieithyddol â'u cymuned newydd.
Mae diffyg dosbarthau uwch yn un rheswm, ond mae Parodrwydd Cymry Tatws i wrthod siarad Cymraeg Glir a Syml 'da dysgwyr yn reswm arall. Mae'n
WELL 'da nhw siarad Saesneg â dieithryn fel arfer. Mae resymau dwys am hyn ond mae'n ddinistriol iawn. Ond yn y bôn mae'r Cymry (hyd yn oed y Tatws) yn derbyn y mae Saesneg yn bwysicach.
Tan gweld gwahaniaeth yn agweddau'r Cymry Cymraeg byddaf yn wastad clymu at fy marn yma.
nawr am y taniau gwyllt
- trio cofio fy mod i'n trafod nid ymosod.
Jyst i fod yn glirach:
dwi'n dadlau y mae'n hollol anghywir i drio defnyddio'r iaith i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Dyw Blunkett erioed wedi awgrymu y mae Cymru Ymwybodol yn Hiliol hyd y gwn i.
Nid Plaid Llafur sy'n llad ar
syniadau Cymuned a CYIG. Aelodau amlwg, uchel eu bri a phwerus sy'n ei wneud.