Tudalen 1 o 1

Blunkett a safon iaith mewnfudwyr

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2004 12:53 pm
gan Gruff Goch
Mae Blunkett am i fewnfudwyr basio prawf iaith cyn cael ymgartrefu yn y wlad. Bydd disgwyl i bobl feddu ar sgiliau sylfaenol mewn darllen, ysgrifennu a siarad yn yr iaith yn ogystal â gallu deall prif bwyntiau sgyrsiau a delio gyda sefyllfaoedd y byddan nhw'n dod ar eu traws yn yr ysgol, y gweithle ac yn eu amser hamdden.

Wrth gwrs, am y Saesneg mae Blunkett yn sôn.

Diolch byth nad ydi'r Gymraeg o dan gymaint o fygythiad a hi...

Erthygl yn Y Guardian

Mae'n hawdd gorfodi'r math yma o reolau pan fo'r rhai fyddai'n cael eu heffeithio yn y lleiafrif.

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2004 1:35 pm
gan Llefenni
"Not everyone can attain fluency. But at the very least we can ask people to make an effort and to enhance their existing knowledge of [English] to a workable level and to know what it means to be a [British] citizen," said Mr Blunkett

Mor hawdd fydde rhoi'r Gymraeg yn y cromfachau...

A dim bo fi am gychwyn dadl mawr lled theolegol - ond os ydem ni i fod yn 'Brydeinwyr', ers pryd Saesneg yw 'what it means to be a British citizen?'

Oce, oce - peidiwch gwaeddi arnai am fod yn slo!

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2004 5:08 pm
gan garynysmon
Mae hyn y fath o ymddygiad bydden yn ei ddisgwyl gan Ysgrifenydd Cartref o'r adain Dde......hold on, Mae Llafur yn adain dde dydyn :rolio:

Mae Blunkett wedi gwneud datganiadau a dilyn polisiau hynod 'wahanol' a hurt, yn enwedig ar fewnfudo.

PostioPostiwyd: Gwe 09 Gor 2004 9:01 pm
gan Realydd
Dwi'n cytuno a Blunkett. Os ydych chi'n anghytuno a fo yna rhyfedd iawn gan mae'r rhelyw ohonoch am weld y fath ofynion ar fewnfudwyr i Gymru...

PostioPostiwyd: Sad 10 Gor 2004 3:00 pm
gan Dylan
Ti'n methu'r pwynt yn llwyr.

Y pwynt ydi bod y Cymry yn cael eu galw'n hiliol ac eithafol bob tro maent yn crybwyll syniadau ar gyfer amddiffyn y Gymraeg, ond mae hwn gan Blunckett yn llawer iawn mwy eithafol nag unrhyw beth mae CyI na Chymuned, heb sôn am Blaid Cymru, erioed wedi'i argymell.

PostioPostiwyd: Sad 10 Gor 2004 5:02 pm
gan Realydd
Wel os yw'r rheiny sydd am weld mewnfudwyr i Gymru yn gorfod dysgu'r Gymraeg a dysgu am Gymru yna siawns fod y pobl yma yn cytuno 100% hefo beth mae Blunkett yn ddweud? Os ddim, pam ddim?

PostioPostiwyd: Sad 10 Gor 2004 5:26 pm
gan Dylan
Wnest di fethu'r darn yma felly?:

Mae Blunkett am i fewnfudwyr basio prawf iaith cyn cael ymgartrefu yn y wlad.


'Dw i ddim yn cofio yr un o'r mudiadau iaith Gymraeg yn sôn am y fath beth.

Ond ti dal yn methu'r pwynt. Rhagrith y blaid Lafur sydd o dan sylw fan hyn. Os wyt ti'n cytuno â Blunkett neu beidio, elli di ddim gwadu mai safonnau dwbl ydi cynnig y fath syniad tra yn ymosod ar y Cymry am ddweud pethau tebyg (a llai eithafol)

PostioPostiwyd: Sad 10 Gor 2004 6:05 pm
gan Realydd
Dylan a ddywedodd:Wnest di fethu'r darn yma felly?:

Mae Blunkett am i fewnfudwyr basio prawf iaith cyn cael ymgartrefu yn y wlad.


'Dw i ddim yn cofio yr un o'r mudiadau iaith Gymraeg yn sôn am y fath beth.

Ond ti dal yn methu'r pwynt. Rhagrith y blaid Lafur sydd o dan sylw fan hyn. Os wyt ti'n cytuno â Blunkett neu beidio, elli di ddim gwadu mai safonnau dwbl ydi cynnig y fath syniad tra yn ymosod ar y Cymry am ddweud pethau tebyg (a llai eithafol)


Wrth gwrs dwi'n deall y pwynt mae pobl yn ei wneud ond ar yr un pryd mae'n ryfedd gweld pobl yn ymosod ar beth mae Blunkett yn ei ddweud pan fuasai nhw yn ddigon hapus o weld yr un math o beth yn gwynebu mewnfudwyr mewn i Gymru.

Os eiff rhywbeth fel hyn drwodd ar lefel Brydeinig yna gall hwn agor y drws tuag at ddarparu rhywbeth tebyg i Gymru? Rhyfedd fod pobl methu gweld hyn. Dwi'n meddwl ar adegau fod nifer o Gymry Cymraeg yn eitha hapus gweld rhannau o Loegr yn cael eu coloneiddio ond eto ddim am weld coloneiddio yn digwydd yma yng Nghymru.

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2004 4:23 pm
gan Cwlcymro
Sbia ar be ma pobl yn ddeud RET a mi sylwi di ma dim ond garynysmon sydd wedi dweud ei fod yn anghytuno a Blunkett.
Ma pawb arall yn cwyno am pa mor hypocrytical ydi Llafur o alw ni'n hiliol am gwyno am bobl sydd yn dod yma heb siarad Cymraeg, ond yn mynd mor bell a gofyn am BRAWF saesneg i'r rheini sydd yn symyd mewn i Loegr.

PostioPostiwyd: Iau 15 Gor 2004 9:37 am
gan Chris Castle
Rhaid imi gytuno â realydd yma. Nid hawl i fyw ym Mhrydain sydd yma ond yr hawl i fod yn frodor. Gall rhywun gwneud wlpan Cymraeg a phasio'r test yma. Mae Blunkett wedi derbyn mae'r Gymraeg yn dderbyniol ar gyfer y prawf iaith, ond, Does fawr o fewnfudwyr o dramor yn y Fro Gymraeg. Mae'n nhw'n byw yng Nghaerdydd Casnewydd ag Abertawe fel arfer - trefi lle mae Saesneg ydy'r iaith Cymuned. Ymarferol yw'r rheol yma. Er dwi ddim yn hoffi bod y prawf gan safon mor uwch ag yw e.

Yr un mor cîn ydw i ag unrhywun yma i weld y Gymraeg fel Iaith Cymuned Cymru. Mae rheolau ar fewnfudwyr yn deillio o broblemau go iawn sydd gan y pobl 'na wrth ymwneud a'u gwlad newydd. Mater o'u diogelwch nhw eu hunain yw e'n aml iawn. Felly iaith y Cymuned o'u gwmpas y dylen nhw dysgu.

Cytunaf yn llwyr am y 60% o fewnfudwyr o siaradwyr Saenseg sy'n gwrthod y Gymraeg. Ond rhaid inni ystyried yn fanwl pam mae rhan fwyaf y 40% sy'n trio dysgu Cymraeg yn methu. Dim ond rhyw 7% o fewnfudwyr yn Cymhathu yn ieithyddol â'u cymuned newydd.

Mae diffyg dosbarthau uwch yn un rheswm, ond mae Parodrwydd Cymry Tatws i wrthod siarad Cymraeg Glir a Syml 'da dysgwyr yn reswm arall. Mae'n WELL 'da nhw siarad Saesneg â dieithryn fel arfer. Mae resymau dwys am hyn ond mae'n ddinistriol iawn. Ond yn y bôn mae'r Cymry (hyd yn oed y Tatws) yn derbyn y mae Saesneg yn bwysicach.

Tan gweld gwahaniaeth yn agweddau'r Cymry Cymraeg byddaf yn wastad clymu at fy marn yma.

nawr am y taniau gwyllt :winc: - trio cofio fy mod i'n trafod nid ymosod.

Jyst i fod yn glirach:

dwi'n dadlau y mae'n hollol anghywir i drio defnyddio'r iaith i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Dyw Blunkett erioed wedi awgrymu y mae Cymru Ymwybodol yn Hiliol hyd y gwn i.

Nid Plaid Llafur sy'n llad ar syniadau Cymuned a CYIG. Aelodau amlwg, uchel eu bri a phwerus sy'n ei wneud.