Tudalen 1 o 1

Derbyn cyfrifoldeb a bod yn atebol

PostioPostiwyd: Mer 14 Gor 2004 10:48 pm
gan Realydd
Rydw i'n siomedig iawn hefo beth dwi'n ei weld yn ein cymdeithas pan yn ystyried cymryd cyfrifoldeb a bod yn atebol. Mae'n ymddangos i fi fod mwy a mwy o bobl yn llwyddo i beidio bod yn atebol am eu methianau. Mewn nifer o achosion mae'r bobl hynny hyd yn oed hefo'r wyneb i wobrwyo'u hunain os yw'r gallu ganddynt. Edrychwch ar y straeon yma byth a beunydd am gyfarwyddwyr cwmniau yn rhoi bonws anferth i'w hunain hyd yn oed pan mae'r cwmniau mae nhw'n rhedeg wedi bod yn perfformio'n wael. Nid dyma'n syniad i o beth ddylai cymdeithas feritocrataidd fod!

Fe welwch chi'r patrwm o ddiffyg atebolrwydd a cymryd cyfrifoldeb ar lefelau is hefyd. Mae'n hen dric i guddio pethau dan y carped ac anghofio'n gyfleus am addewidion a gafodd eu gwneud. Wedyn mae nhw'n dod i fyny hefo syniadau newydd, strwythurau newydd fel fod addewidion a thargedau'r gorffenol yn anghof.

Esiampl dda yw'r sefyllfa pensiynau. Mae miliynau o bobl wedi derbyn newydd drwg fod eu pensiwn werth dim byd yn debyg i beth roedden nhw wedi cael eu gaddo. Nid oes neb yn cymryd cyfrifoldeb am hyn. Mae pobl yn beio cwymp y farchnad stoc, cyfraddau llog isel, pobl yn byw'n hirach... ond ychydig iawn o gysur yw'r rhain pan mae'ch pensiwn chi yn siomedig uffernol o'i gymharu a beth roedd pobl yn ei addo pan gytunodd chi i dalu mewn i'r system.

Esiampl arall: ysgolion. Rydw i yn gwybod am ambell athro sydd wedi bod yn cael adroddiadau HMI gwael ers blynyddoedd ond mae nhw dal i fod yn dysgu a tynnu cyflog athro tra'n cario mlaen i fethu plant. Mae'r peth yn warthus a beth yw pwrpas cael HMI os nad yw athrawon crap yn cael eu chwynnu o'r ysgolion? Yn amlwg mae problem yn ein cymdeithas os yw pobl sydd methu dygymod a'u swyddi yn cael aros yno am flynyddoedd fel hyn.

I gloi, rydym wastad yn cwyno am wleidyddion ddim yn perfformio a dylifro ac yn gweiddi allan am iddyn nhw ymddiswyddo. Wel beth am yr holl bobl eraill yma mewn cymdeithas sydd yn cael getawe am berfformio'n ddiawledig yn eu swyddi am flynyddoedd lawer wedyn yn cael cynnig pecynnau ymddeoliad cynnar hynod o neis er mwyn cael eu gwthio allan am eu bod mor shite? Yn fy marn i mae'n wendid mawr ar ein cymdeithas fod ni'n methu gwaredu a'r parasites hyn yn lawer cynt.

PostioPostiwyd: Mer 14 Gor 2004 11:23 pm
gan bartiddu
Mae’n dechre ar y top,a dyle cymdeithas cymeryd esiampl o’i arweinwyr, ac os hyn yw esiampl ein arweinwyr, wel……..dyw hi ddim yn hawdd fod yn brif weinidog dwi’n siwr! Ond ar ol adroddiad Butler heddi,mae’n amlwg fod Pennaeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud ‘moch’ a mynd a’r wlad i rhyfel ar dadleuon amheus iawn.
Ac o blegyd hyn mae miloedd yn ei beddau.
Mae camgymeriad o’r fath yn haeddu i “rhywun” fod yn atebol am ei gwendidau, felly o wneud y fath benderfyniad sydd nawr yn edrych yn un ffol iawn, onid dyler rhywyn ymddiswyddo a cymerud y bai? Odi mae'n gymdeithas o “Dim bai fi wedd e..honest!”
:?

PostioPostiwyd: Mer 14 Gor 2004 11:39 pm
gan Realydd
Hefyd dwi'n amau fod gonestrwydd yn sgil sydd yn mynd i fod o dy blaid os ti am wneud dy ffordd fyny yn y byd. Gall pobl sy'n 'rhy onest' gael eu gweld fel liability yn y byd spin sydd ohoni. Mae'n llawer haws penodi rhywun sydd hefo'r gallu i falu cachu ac yn llwyddo i ffeindio'i ffordd allan o unrhyw gachu yn drewi o rosod fel dwed y sais. Ymddengys fod y gallu i wneud esgusion a malu cachu i bapuro dros y craciau yn sgil eith a chdi lawer pellach yn y byd ma na'r gallu i wneud y job gydwybodol a safonol yn y lle cyntaf!

PostioPostiwyd: Iau 15 Gor 2004 10:49 am
gan Macsen
Realydd a ddywedodd:Mewn nifer o achosion mae'r bobl hynny hyd yn oed hefo'r wyneb i wobrwyo'u hunain os yw'r gallu ganddynt. Edrychwch ar y straeon yma byth a beunydd am gyfarwyddwyr cwmniau yn rhoi bonws anferth i'w hunain hyd yn oed pan mae'r cwmniau mae nhw'n rhedeg wedi bod yn perfformio'n wael.


Wel, dyna gyfalafiaeth i ti. Oni fysai system comiwnyddol lle mae pawb yn cael ei wobrwyo oherwydd ei gallu, dim oherwydd ei trachwant, yn un gwell? :)

PostioPostiwyd: Iau 15 Gor 2004 8:09 pm
gan Realydd
Macsen a ddywedodd:Wel, dyna gyfalafiaeth i ti. Oni fysai system comiwnyddol lle mae pawb yn cael ei wobrwyo oherwydd ei gallu, dim oherwydd ei trachwant, yn un gwell? :)


Dwi'n amau buasai Comiwyniaeth yn ateb ein holl broblemau Macsen. Beth bynnag, ddim cyfalafiaeth vs comiwnyddiaeth yw'r pwnc yma.