Beth ddylai rol system addysg fod mewn cymdeithas?
Addysgu 'ideals' mae'r system bresennol yn ol beth welaf i a drwy system arholiadau ac ati mae o'n annog gwaith swmpus o safon dda. Yn y byd go iawn ychydig iawn mae hyn o fudd i'r unigolyn yn ol beth dwi wedi ei weld. Yn aml mae bosys yn rhy ddiog i ddarllen unrhywbeth mwy na cwpl o ochrau A4 ac yn aml mae cael gwaith wedi ei wneud ar amser o fewn amserlen yn bwysicach na'i safon.
Felly yw'r system addysg yn paratoi pobl ar gyfer y byd tu allan? Neu yw addysg fod i ddysgu'r 'ideals' i bobl yn y gobaith y bydd pobl yn mynd i'r byd go iawn a gwthio pethau tuag at yr ideals hyn?