Dielw a ddywedodd:eusebio a ddywedodd:Tydi Aled ddim yn awgrymu y dylwn ni, dangos i RET mae Aled fod ei bwynt yn un hurt!
Ydi Aled yn credu go iawn mai ni fel Cymry sy'n integreiddio waethaf?! Go brin. Dwi ddim yn ymwybodol o ghettos Cymraeg yn bodoli yn Llunden (wel falle SWS), Caerlyr ayb?
Yng Nghymru mae gennom ni berffaith hawl i neud be bynnag dan ni di bod yn neud ers oes pys, dydi hynny dim i'w wneud efo ni yn "integreiddio waethaf" - ein gwlad ni yw hi. Dyna pam dwyt ti ddim yn ateb cwestiwn RET79. Dwi ddim yn hoff o'r cwestiwn chwaith, gormod o gyffredinoli yn mynd mlaen fan hyn.... Efallai bod problem pan dydi mewnfudwyr ddim yn gweld yr angen i integreiddio, neu ddim yn derbyn addysg addas cyn mewnfudo.
A phob parch Dielw, ond mae'n ymddangos fel nad wyt ti wedi darllen yr edefyn yma i gyd, ac felly wedi colli'r pwynt.
Mae beth mae Aled yn ddweud yn gwneud synnwyr llwyr yng nghyd-destun cwestiynnau (hurt) Realydd.
Realydd, mae cwestiwn Eusebio yn fwy na theg, mae'n rhaid i TI ddiffinio beth yw 'cymdeithas brydeinig' ermwyn i Eusebio allu 'formulato' ateb.
Mae Dylan wedi bod yn fwy na theg (yn ormodol) yn y drafodaeth yma a chaniatau i'r drafodaeth fynd ymhell oddi ar y pwnc gwreiddiol ermwyn cael ateb syml wrthyt ti Realydd. Roe't ti'n condemnio 'arweinwyr' Mwslemaidd am beidio a beirniadu gweithrediadau terfysgol yn enw Mwslemiaeth. Profodd Dylan nad yw 'arweinwyr' cristnogol yn condemnio gweithrediadau terfysgol yn enw Cristnogaeth. Dywedest ti Realydd dy fod yn credu y dyali arweinwyr Cristnogol wneud hynny. iawn. mae'n siwr fod yna aml i Fwslem sy'n credu y dylai arweinwyr Mwslemaidd wneud hyn, ond does dim posib i ti feirnidau pawb sy'n Fwslim am nad yw eu arweinwyr crefyddol yn beirniadu yn yr un modd a beirniadu Cristnogion oll am fethiannau arweinwyr Cristnogol.
Mae rhan helath yr edefyn felly jyst yn rwtsh ermwyn ceisio cael atebion call gan yr unig aelod (hyd yma) sydd wedi dangos unrhyw gydymdeimlad a'r BNP a Nick Griffin. Ti Realydd, yn anad neb arall, sydd yn rhwystro trafodaethau rhag datblygu felly. ond ta waeth am hynny.
Un peth mae'r edefyn yma yn profi os nad unrhywbeth arall yw dy fod ti Realydd yn benodol, ond pawb arall gan fy nghynnwys i, yn mynnu edrych ar Fwslemiaeth trwy lygaid 'Gorllewinwyr/Cristnogion' etc. Mae safbwynt Mwslemiaid ar y byd yn dra wahanol i'r un yr ydym ni yn gymryd, ac yn amlach na pheidio nid oes 'exclusivity' i 'genedl' neu 'grefydd' ayb. dyw hyn ddim i ddweud ei fod yn iawn neu anghywir, ond mae'n rhaid ceisio deall meddwl a'r ffordd Fwslemaidd o feddwl a edrych ar y byd yn lle eu beriniadu nhw am ein twpdra ni - sef beth wyt ti Realydd yn wneud.
Weles i ddim o'r rhaglen, ond o'r hyn wy wedi glywed mae e ond yn profi mai ffordd ffiaidd o feddwl sy'n perthyn i'r BNP sydd angen ei ddifa.