Realydd a ddywedodd:1. Ers pryd mae'r BNP wedi honni fod nhw o blaid teroristiaeth yn erbyn mwslims yn enw cristnogaeth?
'Dydi nhw ddim yn ddigon twp i gyhoeddi'r peth yn gyhoeddus. Ond fel y dywedais i gynna', pam casáu Mwslemiaid? (pob un Mwslem, cofia. 'Dw i'n cyfeirio'n benodol at yr unigolion o'r rhaglen ddogfen a oedd yn breuddwydio a hel atgofion o weithredoedd treisgar yn erbyn Mwslemiaid) Hil a chrefydd?
Hwyrach bod y KKK yn enghraifft well. Fersiwn doji uffernol o'u crefydd mae hwythau yn ei ddefnyddio i gyfiawnhau eu hunain hefyd, yn union fel al-Qaeda.
2. Ers pryd mae network byd-eang o bobl fel Tim McVeigh yn creu dinistr yn enw cristnogaeth?
Heh, byth ers i Reagan ddod i rym? (ti-hi ";)")
Gweithio ar ei liwt ei hun fwy neu lai oedd McVeigh - wrth gwrs hynny - ond yn enw Duw ddaru o weithredu. Hynny ydi, ei fersiwn doji yntau o'r ysgrythur. Felly a ddylai arweinwyr Cristnogol ei gondemnio?
(ateb: wrth gwrs ddim)
Y pwynt hynod hynod syml 'dw i yn ei wneud ydi mai nid cyfrifoldeb dilynwyr eraill ffydd ydi'r idiots eithafol sydd yn gwneud pethau erchyll a'i gyfiawnhau trwy ddehongli'r crefydd mewn ffordd hurt er mwyn ffitio'u hagenda'u hunain.
Mae dadlau hefo ti yn wastraff llwyr o amser gan ti'n gwneud honiadau/sylwadau/cymariaethau hynod o hurt byth a beunydd. Wnaf adael ti fod rwan i ti gael meddwl dy fod di'n genius, neu beth bynnag.
"Pwy yn union sydd wedi bod mor anaeddfed a thwp yn yr edefyn yma felly?"
dy dacteg pennaf ydi galw pobl eraill yn anaeddfed heb unrhyw gyfiawnhad. Heb hyd yn oed manylu a dweud
pwy a
sut.