BNP yn y cach gobeithio

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Lowri Fflur » Mer 21 Gor 2004 1:47 am

Realydd wy ti yn honni bod Mwslemiaid yn fwy treisiol na Crisnogion?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan eusebio » Mer 21 Gor 2004 10:15 am

Realydd a ddywedodd:Eto ti'n osgoi'r cwestiwn. Fyddet ti'n cytuno a'r syniad fod pobl o rai crefydd/hil/cenedl sy'n symud fewn i Brydain yn integreiddio'n well na'u gilydd? Os felly, pwy ti'n feddwl ar y cyfan sydd yn integreiddio salaf?


Blydi Hell!!
RET, tydw i wir ddim yn deall dy bwynt - dwi'n gwybod yn union beth wyt ti'n chwilio amdano - ti am i mi ddweud bod pobl sydd yn defnyddio eu crefydd a'u iaith eu hunain yn gwrthod integreiddio, ond tydw i ddim yn credu hynny gan nad wyf â syniad beth yw cymdeithas Brydeinig.

I mi mae bod yn rhan o'r gymdeithas leol yn bwysig, felly o fy mhrofiad i, Saeson sydd yn gwrthod derbyn bod fath beth â chymuned Gymraeg yn bodoli sydd yn integreiddio salaf.

O fy holl ffrindiau aml-hil mae pawb wedi integreiddio i fewn i'r gymdeithas leol yn eu ffordd eu hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Mr Gasyth » Mer 21 Gor 2004 10:31 am

Ydi hyn yn ateb dy gwestiwn Realydd?

Mae pawb ar Maes-e, gan gynnwys ti Realydd yn gwrthod integreiddio mewn i'r Gymdeithas Brydeinig drwy siarad Cymraeg. Hefyd, yn draddodiadol rydym wedi gwrthod mynd i'r Eglwys Anglicanidd gan addoli yn hytrach mewn enwadau Anghydffurfiol (gair da yng ngyy-destun y drafodaeth ddwedwn i). Hefyd, yn whanol i fwslemiaid, rydym wedi mynnu sefydlu ein Plaid wleidyddol ein hunain, ac mae CYiG, Cymuned, Adfer i gyd yn esiamplau o ymgeision i stopio Cymru rhag integreiddio a'r gymdeithas Brydeinig. Mae gennym hyd yn oed sianel deledu ein hunain sydd yn wahanol i weddill Prydain.

Felly, pwy wyt ti'n meddwl sydd yn integreiddio waethaf?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dielw » Mer 21 Gor 2004 10:54 am

Aled a ddywedodd:Mae pawb ar Maes-e, gan gynnwys ti Realydd yn gwrthod integreiddio mewn i'r Gymdeithas Brydeinig drwy siarad Cymraeg.

Saeson sy ddim yn integreiddio efo ni, ddim ffor arall rownd. Cymru ydi'r wlad yma Aled, rhag ofn bod ti'n cymysgu... :rolio:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Mr Gasyth » Mer 21 Gor 2004 11:04 am

Dielw a ddywedodd:
Aled a ddywedodd:Mae pawb ar Maes-e, gan gynnwys ti Realydd yn gwrthod integreiddio mewn i'r Gymdeithas Brydeinig drwy siarad Cymraeg.

Saeson sy ddim yn integreiddio efo ni, ddim ffor arall rownd. Cymru ydi'r wlad yma Aled, rhag ofn bod ti'n cymysgu... :rolio:


Gwneud pwynt oeddwn i Dielw :rolio: ynglyn a phwy sydd ddim yn integreiddio mewn i'r gymdeithas Brydeinig
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dielw » Mer 21 Gor 2004 11:21 am

Pam ddylswn i integreiddio i fewn i'r gymdeithas Brydeinig? Yng Nghymru dan ni. :rolio: . Dydi dy bwynt ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan eusebio » Mer 21 Gor 2004 11:30 am

Tydi Aled ddim yn awgrymu y dylwn ni, dangos i RET mae Aled fod ei bwynt yn un hurt!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Mr Gasyth » Mer 21 Gor 2004 11:32 am

eusebio a ddywedodd:Tydi Aled ddim yn awgrymu y dylwn ni, dangos i RET mae Aled fod ei bwynt yn un hurt!


Diolch Eusebio.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dielw » Mer 21 Gor 2004 12:08 pm

eusebio a ddywedodd:Tydi Aled ddim yn awgrymu y dylwn ni, dangos i RET mae Aled fod ei bwynt yn un hurt!

Ydi Aled yn credu go iawn mai ni fel Cymry sy'n integreiddio waethaf?! Go brin. Dwi ddim yn ymwybodol o ghettos Cymraeg yn bodoli yn Llunden (wel falle SWS), Caerlyr ayb?

Yng Nghymru mae gennom ni berffaith hawl i neud be bynnag dan ni di bod yn neud ers oes pys, dydi hynny dim i'w wneud efo ni yn "integreiddio waethaf" - ein gwlad ni yw hi. Dyna pam dwyt ti ddim yn ateb cwestiwn RET79. Dwi ddim yn hoff o'r cwestiwn chwaith, gormod o gyffredinoli yn mynd mlaen fan hyn.... Efallai bod problem pan dydi mewnfudwyr ddim yn gweld yr angen i integreiddio, neu ddim yn derbyn addysg addas cyn mewnfudo.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Mr Gasyth » Mer 21 Gor 2004 12:55 pm

Dielw a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Tydi Aled ddim yn awgrymu y dylwn ni, dangos i RET mae Aled fod ei bwynt yn un hurt!

Ydi Aled yn credu go iawn mai ni fel Cymry sy'n integreiddio waethaf?! Go brin. Dwi ddim yn ymwybodol o ghettos Cymraeg yn bodoli yn Llunden (wel falle SWS), Caerlyr ayb?

Yng Nghymru mae gennom ni berffaith hawl i neud be bynnag dan ni di bod yn neud ers oes pys, dydi hynny dim i'w wneud efo ni yn "integreiddio waethaf" - ein gwlad ni yw hi. Dyna pam dwyt ti ddim yn ateb cwestiwn RET79. Dwi ddim yn hoff o'r cwestiwn chwaith, gormod o gyffredinoli yn mynd mlaen fan hyn.... Efallai bod problem pan dydi mewnfudwyr ddim yn gweld yr angen i integreiddio, neu ddim yn derbyn addysg addas cyn mewnfudo.


Fy mhwynt i Dielw oedd pa wor ffol ydi trio diffinio rhywbeth mor eang ei ystyr a 'chymdeithas Brydeinig' heb son am ddweud y dylai pawb 'integreiddio' i mewn iddi. Wrth gwrs nad ydw i'n awgrymu y dylai Cymry stopio siarad Cymraeg neu ail-sefydlu' Eglwys Lloegr fel crefydd swyddogol ein gwald, ond tydw i ddim yn dadlau ychwaith y dylai Mwslemiaid (term eang ei sytyr arall) roi fyny eu crefydd a'u traddodiadau pan maent yn symyd i Brydain er bydd hynny yn digwydd yn naturiol dros genhedlaethau, yn syml gan fod cyn lleied ohonynt i gymharu a niferoedd y Prydeinwyr 'cynhenid'.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron