Tudalen 1 o 1

Pwy sy'n dlawd go iawn?

PostioPostiwyd: Iau 15 Gor 2004 9:29 pm
gan Realydd
Erthygl ddifyr yma

http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/3894011.stm

Many skilled workers 'in poverty'

Pride is said to get in the way of many seeking help
Nearly four million professional workers are living in poverty and the problem is worsening, a charity warns

PostioPostiwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:46 am
gan Chris Castle
Pwy sy'n Tlawd?-
Pawb sydd ddim yn cael ddigon i fyw bywyd tebyg i'r un y byddai eraill yn ei gweld yn dderbynniol iddyn nhw eu hunain.

Does lot o dostur 'da fi tuag at y ddyn sy'n dweud "dwi yn yr un sefyllfa nawr dwi wedi colli fy swydd fel faswn i wedi ddim gweithio".
-Dyna'r rheswm i weithio, sef cael mwy na'r basics. Pam ddylwn i, gweithiwr cyffredin, cynnal cyfoeth y sawl anlwcus sy'n colli eu swyddi? Yn y bôn mae fe'n dweud "fi'n spesial yntydwi? Dyw bywyd ddim yn deg - mae pawb arall yn ddiog dy nhw ddim EISIAU gweithio" sdim tostur 'da fe tuag at eraill sydd yn yr un sefyllfa ag ef.

Wir, wrth gwrs, yw e nad oes "grinding poverty" y dyddiau 'ma. Ond braidd yn amhosib yw byw bywyd braidd yn Normal heb gar, ffon symudol, peiriant golchi ddillad ac ati.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Gor 2004 10:30 am
gan GT
Mae ffon symudol yn un diddorol. Gall ddynodi cyfoeth neu dlodi. Mae rhai o'r teclynau yn ddrud iawn, ac mae contractau yn aml yn ddrud, ond ffon symudol 'top up' ydi'r unig ffordd i bobl efo 'credit rating' isel gael ffon.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Gor 2004 6:10 pm
gan Realydd
Chris Castle a ddywedodd: Pam ddylwn i, gweithiwr cyffredin, cynnal cyfoeth y sawl anlwcus sy'n colli eu swyddi? .


Dwi'n gweld beth ti'n ddweud ond ti'n anghofio fod nhw wedi talu trethi mawr i mewn i'r system pan roedden nhw'n gweithio a pan mae nhw'n colli eu swyddi neu beth bynnag yna does dim cymorth gan y wlad o gwbl.

Mae'n ddealladwy fod pobl yn gweld hwnna fel pisstake gan fod nhw yn gorfod mynd trwy'r profiad annifyr o golli eu gwaith a chwilio am rywbeth arall a gorfod byw yn y cyfamser ar pa bynnag arian mae nhw wedi trio ei safio - tra fod eraill sydd erioed wedi codi bys bach i wneud dim yn cael y cyfan ar blat a byth yn gorfod poeni am golli incwm.