Roeddwn i'n sgwennu pwt heddiw am ymgais heddlu Gogledd Cymru i dorri'r nifer o bobl sy'n ffonio 999 heb fod argyfwng. Roedd rhaid i mi ffonio'r heddlu (dim ar 999, mi fysai hynny wedi bod yn eironig) am gyfweliad. Gofynais i Mr Heddlu am esiamplau o bobl yn ffonio 999 am resymau eithriadol o dwp. Roeddwn i'n meddwl y bysai hynny'n ychwanegu ychydig o hiwmor i'r erthygl.
Dywedodd o bod dyn wedi ffonio 999 i gwyno bod dau wiwer yn cwffio'n ei ardd. Roeddwn i'n piso chwerthin gymaint bu bron i fi beidio medru cario 'mlaen gyda'r cyfweliad.
Sori- dw i dal i chwerthin rwan. Mi wnes i ddwyn ychydig mwy o esiamplau oddiar wefan y BBC, un am ddyn oedd wedi ffonio 999 am fod o methu gwylio rhaglen Talu-i-Wylio ar Sky, a dynes a ffoniodd 999 am fod ei theledu wedi torri.
Dau bwrpas i'r edefyn hwn- y cyntaf, i drafod pa mor gall yw hi i'r heddlu lawnsio ymgais i ddweud wrth bobl beidio ffonio 999 pam bo nhw angen cymorth, a'r llall i drafod storiau doniol am bobl yn deialu 999 am resymau twp.