Mr Gasyth a ddywedodd:Tydi ambell slap fach pan fo angen i ddysgu gwers yn genud dim drwg i neb, cyn belled nad yw'n troi'n beth rheolaidd.
Felly os oes genti hen nain, sydd chdig bach yn senile, yn piso ei thrwsys neu rhegi ar ymwelwyr, gei di roid slap iddi? jusd i ddysgu gwers lly.
Neu be am frawd efo problemau meddyliol? Os dio'n torri dy cheina gora di, gei di roid chwip din iddo fo? Jusd i ddysgu gwers lly.
rachub a ddywedodd:Ond mae'r llywodraeth yn trio neud allan bod rhoi slap i blentyn er mwyn dysgu gwers iddo/iddi ar yr un lefel a chamdrin plant, sy'n chwerthinllyd.
Dim ar yr un lefal a camdrin plant ddylsa fo fod, ond ar yr un lefal a rhoi slap i berson ar y stryd. "Assault" ydi "Assault", slap ydi slap.
Mr Gasyth a ddywedodd:Ma sawl cyfraith sy'n trin plant ac oedolion yn whanol: addysg orfodol nes yn 16; oedranau ysmygu, yfed a gyrru; oedran cyfathrach rhywiol ac ati ac ati.
Gwir, ond dwi'm yn meddwl fod na unrhywu gyfraith arall sy'n amddiffyn oedolyn fwy na plentyn, yn enwedig pan ma trais ydi'r matar.