Ni chaniateir ysmygu yn y dafarn hon...

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydy hi'n iawn i wahardd ysmygu yn y dafarn?

Ydy,yn gyfan gwbl
29
73%
Ydy,i raddau
5
13%
Nac ydy
6
15%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 40

Ni chaniateir ysmygu yn y dafarn hon...

Postiogan sanddef » Mer 17 Tach 2004 11:18 am

Ysmygwr ydw i ond,fel 70% ohonom,hoffwn i roi'r gorau iddi,felly dw i'n cytuno efo gwahardd ysmygu mewn cymaint o lefydd a phosib,hyd yn oed y dafarn sanctaidd.Peth arall: mae sawl un yn siarad am y rhyddid i ddewis,ond gan nad ydy hyn yn cynnwys pethau afiachus eraill fel Heroin ac yn y blaen,a gan fod y llywodraeth yn cyfaddef fod baco yn peth peryglus iawn i iechyd,pam mae ysmygu baco yn gyfreithiol o gwbl?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Ni chaniateir ysmygu yn y dafarn hon...

Postiogan Corpsyn » Mer 17 Tach 2004 1:25 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:pam mae ysmygu baco yn gyfreithiol o gwbl?


Dwim yn dallt hyn chwaith! man lladd miloedd o fobol pob blwyddyn ac yn achosi llawer iawn o broblemau iechyd eraill, dwim yn dallt be mar llywodraeth yn aros am, dylsa fo di cael ei fanio mewn llefydd cyhoeddys blynyddoedd yn ol. Ond sai bron yn amhosib iw neud on anghyfreithlon (gwaethar modd).
Yngyn ar dewis personol. Dydi pobol sydd ddim yn ysmygu im yn cael dewis i beidio anadlu mwg rhywyn arall mewn tafarn, os nad ydyn nhw am aros adra!

Dwin gwbod fysa llawer om ffrindia yn stopio 'smygu yn gyfan os sa nhw ddim yn cael gneud ar noson allan, gan mai dyna'r unig amser ma nhwn ysmygu.
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 9:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan Di-Angen » Mer 17 Tach 2004 1:30 pm

Dwi'n credu ei fod yn warth hollol bod y Cynulliad (apparently) am wahardd ysmygu mewn POB tafarn. Pa hawl sydd ganddynt ddweud wrth landlord y byddai'n gallu cael ei gyhuddo am adael i rywun wneud rhywbeth hollol gyfreithlon o fewn ei dafarn? Dim o gwbl.

Beth sydd o le gyda gadael i dafarnau sydd ddim yn gwerthu bwyd rhoi sign mawr "Smoking allowed" tu allan, gorfodi staff i arwyddo contracts yn derbyn y risg, a just gadael i nhw fod? Byddai'n dod yn amlwg yn eithaf cyflym pa fath o dafarnau mae'r cyhoedd am fynd i.

Wankers.
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan eusebio » Mer 17 Tach 2004 1:52 pm

Pan yn San Fransisco i wylio gêm Cymru ag America roedd nifer o'r bois sydd yn ysmugu yn meddwl ei fod yn syniad gwych nad oeddent yn cael smocio yn y pubs.

Roedd nhw'n dweud eu bod wedi smocio lot fawr yn llai o smôcs na'r arfer.

Gyda llaw Di-Angen, sa'in gallu bod yn waeth, 'sa ti'n gallu byw yn Bhutan!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Di-Angen » Mer 17 Tach 2004 1:54 pm

eusebio a ddywedodd:Pan yn San Fransisco i wylio gêm Cymru ag America roedd nifer o'r bois sydd yn ysmugu yn meddwl ei fod yn syniad gwych nad oeddent yn cael smocio yn y pubs.


Dwi'm yn erbyn cael tafarnau di-ysmygu. Bydden i probably ddim am fynd i'r rhai "smoking allowed" gormod beth bynnag, achos byddai'r lle yn drewi.

Ond mae cymryd y penderfyniad allan o ddwylo y landlords yn hollol afresymol.
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Chwadan » Mer 17 Tach 2004 3:06 pm

Di-Angen a ddywedodd:Ond mae cymryd y penderfyniad allan o ddwylo y landlords yn hollol afresymol.

Ond nid landlords yn unig sy'n gorfod gwahardd smygu, ond perchnogion busnesa lle ma gweithwyr yn gorfod anadlu mwg pobl eraill. Dwi wir yn meddwl fod angen amddiffyn gweithwyr sy'n gweithio yn y fath lefydd - ma gennai ffrind yn gweithio mewn clwb ac wedi dechra smygu ers iddi ddechra gweithio yna achos ma hi'n deud waeth iddi hi neud ddim gan ei bod hi'n anadlu cymaint o fwg beth bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 17 Tach 2004 3:14 pm

Chwadan a ddywedodd:ma gennai ffrind yn gweithio mewn clwb ac wedi dechra smygu ers iddi ddechra gweithio yna achos ma hi'n deud waeth iddi hi neud ddim gan ei bod hi'n anadlu cymaint o fwg beth bynnag.


Mae hynna braidd yn dwp os ti'n gofyn i fi. Mae fel doctor yn chwistrellu'i hun â rhyw glefyd neu'i gilydd am ei fod e/hi wedi amgylchynu a chlefydau drwy'r amser...
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Chwadan » Mer 17 Tach 2004 3:29 pm

Yndi mae o braidd yn dwp, ond mi oedd hi'n smygu'n gymdeithasol cynt, a dwi'n meddwl mai gweithio mewn lle myglyd nath ei gyrru hi o fod yn smociwr cymdeithasol i fod yn un go iawn yn anffodus. Beth bynnag, hyd yn oed tasa hi rioed di smocio, mi fasa gweithio yno dal yn afiach.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Mr Gasyth » Mer 17 Tach 2004 4:04 pm

Dwi bellach ar fy nhrydydd ymgais i stopio smygu mewn blwyddyn. Unwaith eto ma hi'n mynd yn dda ers pythefnos, a dwi'n rhagweld llwyddiant. Dim ond un peth all fy nghuro sef mynd i'r pub penwythnos nesa, ble bydd pawb arall yn smygu, ac efo ambell i beint dwi'n siwr o ildio.

Felly, er fod fy nhueddiadau rhyddfrydol yn deud wrthai fod gwahardd pethau yn anghywir, am resymau hollol hunanol (h.y ddim isho marw) dwi'n edrych ymlaen at y gwaharddiad yma, a dwi'n gobeithio bydd o'n effeithio pob tafarn a nid dim ond y rhai sy'n gneud bwyd :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan lleufer » Iau 18 Tach 2004 1:27 am

Bendigedig fyddai cael pob tafarn yn ddi fwg.

Peth diawledig yw dod adref ar ddiwedd noson gyda gwallt a dillad yn drewi, llygaid yn goch ac yn llosgi, a'r frest yn dun oherwydd bod yna lond llaw o bobl yn dewis llygru eu hunain.

Buasai'r dafarn lleol, sydd yn ganolfan gymdeithasol mewn llawer i bentref a thref bychan, yn agored i bawb.

Pob lwc sanddef rhyferys a phawb arall sydd yn credu gwnaiff hyn rhoi fwy o hwb iddynt rhoi'r gorrau iddi :winc:
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai