Ni chaniateir ysmygu yn y dafarn hon...

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydy hi'n iawn i wahardd ysmygu yn y dafarn?

Ydy,yn gyfan gwbl
29
73%
Ydy,i raddau
5
13%
Nac ydy
6
15%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 40

Postiogan Corpsyn » Sad 20 Tach 2004 12:28 am

Well said Chwads, :) Dyna yn union be o nisio ddeud!. Ma tafarnau yn lefydd i rhydd i BAWB (deunaw+), ac yn lefydd lle dylsa pawb gal mynd i joio heb orfod poeni am lle i ista gan bo'r person ar y bwrdd agosa yn 'smygu!
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 9:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan Cwlcymro » Llun 22 Tach 2004 1:09 pm

Di-Angen a ddywedodd:Felly dwyt ti ddim yn credu y dylai unrhyw landlord gael yr hawl i ddewis os dylai adael pobl i ysmygu yn EI DAFARN EI HUN. Nid tafarn y llywodraeth, nid dy dafarn di.


Pa fath o ddadl ydi honna? Dwi'm yn cal lladd, treisio, saethu M16, rhoi alcohol i fabi, slapio dynas, smocio pot na copio Cd's yn fy nhy preifat fy hun chwaith.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Di-Angen » Llun 22 Tach 2004 1:21 pm

Cwlcymro a ddywedodd:
Di-Angen a ddywedodd:Felly dwyt ti ddim yn credu y dylai unrhyw landlord gael yr hawl i ddewis os dylai adael pobl i ysmygu yn EI DAFARN EI HUN. Nid tafarn y llywodraeth, nid dy dafarn di.


Pa fath o ddadl ydi honna? Dwi'm yn cal lladd, treisio, saethu M16, rhoi alcohol i fabi, slapio dynas, smocio pot na copio Cd's yn fy nhy preifat fy hun chwaith.


Dydy lladd, treisio, saethu M16 ddim yn weithgareddau hollol gyfreithlon, sy'n eitha amlwg i bawb. Doeddet ti ddim mor ffycin dwp i actually gredu'r ddadl yna oeddet ti?

Ma tafarnau yn lefydd i rhydd i BAWB (deunaw+), ac yn lefydd lle dylsa pawb gal mynd i joio heb orfod poeni am lle i ista gan bo'r person ar y bwrdd agosa yn 'smygu!


Wel, na, dydyn nhw ddim i gyd yn rhydd i bawb dros ddeunaw, beth am dress codes? Does gan neb dros 18 "hawl" i fynd mewn i unrhyw dafarn mae eisiau.

Dwi jyst ddim yn deall pam ydych chi gyd yn erbyn DEWIS. Beth ffyc sy'n wrong gyda rhoi'r dewis i landlord adael i bobl ysmygu yn y dafarn? Beth ffyc sy'n stopio rhywun rhag arwyddo contract cyn dechrau gweithio mewn tafarn lle gadewir i bobl ysmygu? Beth ffyc sy'n wrong mewn unrhyw flexibility?

Hyd yn oed os mai dim ond un boi sy'n gweithio mewn tafarn, a fe'n smocio 20+ a day ei hun, mae'n ymddangos bod chi'n credu nad oes hawl ganddo i smocio yno, ac yn barod i gefnogi cyfraith sy'n dweud hyn.
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Cwlcymro » Llun 22 Tach 2004 1:33 pm

Di-Angen a ddywedodd:Dydy lladd, treisio, saethu M16 ddim yn weithgareddau hollol gyfreithlon, sy'n eitha amlwg i bawb. Doeddet ti ddim mor ffycin dwp i actually gredu'r ddadl yna oeddet ti?

Canfymeriad fi sori, dwi di bod yn dadla am y busnas smocio a hela llwynogod gymaint yn ddiweddar dwi'n mynd yn conffiwsd ar ffeithia (fel pa un sy'n anghyfreithlon wan!)

Dwi jyst ddim yn deall pam ydych chi gyd yn erbyn DEWIS. Beth ffyc sy'n wrong gyda rhoi'r dewis i landlord adael i bobl ysmygu yn y dafarn?

Ma'r broblam efo dewis yn syml Di-Angen. Dydi Landlord ddim yn mynd i wneud ei benderfyniad ar resymeg iechyd, ond ar resymeg marchnata.
Os ydi'r Llew Coch a'r Llew Du yn ddwy dafarn drws nesa, a'r Coch yn banio smocio tra fod y Du yn ei adael o. Mae'r Llew Coch yn dweud wrth ysmygwyr y pentra "Ffyc Off, cerwch i'r Llew Du". Pa landlord fysa isho neud hunna?
Ond efo cyfraith mi fysa'r Coch a'r Du yn ei wahardd, felly mi fysa'r un dafarn yn colli allan, gan y bysa'r ysmygwyr dal yn mynd i'r ddau, ond yn goro picio allan am ffag.

Beth ffyc sy'n stopio rhywun rhag arwyddo contract cyn dechrau gweithio mewn tafarn lle gadewir i bobl ysmygu?

Pam ellith perchenog ffactri ddim cael ei weithwyr i arwyddo contract i anwybyddu iechyd a diogelwch?
Achos dydi hunna ddim yn gwella iechyd neb. Heb gyfraith i'w amddiffyn mi gymerith bobl swydd efo'r 'conditions' gwaetha, gan ei bod nhw angen y pres.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Ni chaniateir ysmygu yn y dafarn hon...

Postiogan aLexus » Llun 22 Tach 2004 1:41 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:pam mae ysmygu baco yn gyfreithiol o gwbl?


ma'r wlad yn neud miliynnau o bunnoedd y flwyddyn ar dreth sigarets, dyna pam... llywodraeth yn meddwl mwy am arian nac am iechyd.

Dwi'm yn ysmygwr, a sa'n neis mynd i dafarn lle nad o's mwg, ond sai'n gwbod pa mor dda fydde'n gweithio gwahardd smygu mewn tafarndai.
we must memorise nine numbers and deny we have a soul
Rhithffurf defnyddiwr
aLexus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 394
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2004 11:34 am
Lleoliad: rhywle rhwng bae a bro

Re: Ni chaniateir ysmygu yn y dafarn hon...

Postiogan sanddef » Llun 22 Tach 2004 2:16 pm

aLexus a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:pam mae ysmygu baco yn gyfreithiol o gwbl?


ma'r wlad yn neud miliynnau o bunnoedd y flwyddyn ar dreth sigarets, dyna pam... llywodraeth yn meddwl mwy am arian nac am iechyd.



Rhetorical Question oedd hynny,a chyfeirio at anghysondeb llywodraethau ynglyn a gwahardd ysmygu yn nhafarndai ond peidio a gwahardd gwerthu baco.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Ni chaniateir ysmygu yn y dafarn hon...

Postiogan Chwadan » Llun 22 Tach 2004 2:18 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:
aLexus a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:pam mae ysmygu baco yn gyfreithiol o gwbl?


ma'r wlad yn neud miliynnau o bunnoedd y flwyddyn ar dreth sigarets, dyna pam... llywodraeth yn meddwl mwy am arian nac am iechyd.



Rhetorical Question oedd hynny,a chyfeirio at anghysondeb llywodraethau ynglyn a gwahardd ysmygu yn nhafarndai ond peidio a gwahardd gwerthu baco.

Lle ma'r anghysondeb?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Ni chaniateir ysmygu yn y dafarn hon...

Postiogan sanddef » Llun 22 Tach 2004 2:25 pm

Chwadan a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:
aLexus a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:pam mae ysmygu baco yn gyfreithiol o gwbl?


ma'r wlad yn neud miliynnau o bunnoedd y flwyddyn ar dreth sigarets, dyna pam... llywodraeth yn meddwl mwy am arian nac am iechyd.



Rhetorical Question oedd hynny,a chyfeirio at anghysondeb llywodraethau ynglyn a gwahardd ysmygu yn nhafarndai ond peidio a gwahardd gwerthu baco.

Lle ma'r anghysondeb?


darllen y neges ar ddechrau'r edefyn 'ma.(mae'n anghyson o safbwynt iechyd)
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Mali » Llun 29 Tach 2004 12:34 am

lleufer a ddywedodd:Bendigedig fyddai cael pob tafarn yn ddi fwg.


Yma yn nhalaith B.C. mae pob tafarn a phob adeilad arall cyhoeddus yn ddi fwg, a diolch am hynny :) Hyn oherwydd pwysau gan y WCB , sef y Workers Compensation Board .
Mae hi mor braf medru mynd allan i fwyta heb orfod rhoi i fyny efo drewdod mwg sigarets.
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai