Ta Ta Mwyafrif Blair?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Be' fydd yn digwydd?

Blair efo mwyafrif seddi San Steffan
10
67%
Blair mewn clymblaid efo pleidiau bach
2
13%
Blair efo Kennedy
0
Dim pleidleisiau
Gordon Brown yn Brif Weinidog
3
20%
Brown efo Kennedy
0
Dim pleidleisiau
Howard efo Kennedy
0
Dim pleidleisiau
Llafur efo Ceidwadyr
0
Dim pleidleisiau
arall
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 15

Ta Ta Mwyafrif Blair?

Postiogan sanddef » Gwe 19 Tach 2004 4:26 pm

sut bydd "fallout" gwleidyddol y rhyfel a popeth arall sy wedi digwydd yn effeithio canlyniadau'r etholiadau cyffredin nesaf?Blair yn cael ei ddisodli cyn mis Mai? clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid?Y ceidwadwyr yn ennill(ha-ha)?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 20 Tach 2004 3:43 pm

A dweud y gwir, dw i'n gweld Llafur yn cadw mwyafrif eitha mawr :(
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan sanddef » Llun 22 Tach 2004 11:53 am

Pwy a wyr? sefyllfa ddiddorol fyddai Llafur yn colli seddi heb i'r ceidwadwyr eu hennill oddi wrthynt.Petai Llafur yn gorfod neud clymblaid efo'r Democratiaid byddai posibilrwydd o newid yn y sustem etholi(PR),a byddai hynny yn newid enfawr yng ngwleidyddiaeth Prydain.Hefyd,o safbwynt hanesyddol (rhyfel y Suez) mae bob amser posibilrwydd o brif weinidog yn cael ei ddisodli ar ol neud rhyfel amhoblogaidd.Mi gawn ni weld.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cardi Bach » Llun 22 Tach 2004 12:12 pm

Wy'n credu y bydd mwyafrif Blair yn disgyn yn sylweddol, ond Llafur fydd mewn grym gyda mwyafrif o lan hyd hanner cant.

Sai'n credu y gwneith y Rhyddrydwyr gystal a beth ma'r polau piniwn yn awgrymu ar y foment, wy'n credu mai'r Ceidwadwyr fydd yn ennill fwya, a hynny heb gynyddu eu pleidlais rhyw lawer - cyfuniad o apathi, a 'anyone but Labour', fydd yn golygu mai'r Libs fydd yn colli mas.

Bydd Plaid a'r SNP yn cipio bobi un, ac yn gwthio yn agos mewn dwy neu dair arall.

Bydd UKIP yn non-event, gan y bydd y ceidwadwyr traddodiadol yn mynd yn ol i'r Blaid Geidwadol o'r Rhyddfrydwyr a Ukip a gadw Llafur mas.

Ond, hei, pwy a wyr :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Cymro13 » Maw 23 Tach 2004 4:49 pm

Mi neith pobl aros gyda Llafur achos nhw ydi'r unig blaid a bod yn onest allen nhw bleidleisio amdano
Ddim eisiau gweld y Ceidwadwyr yn ol. Cof cryf o Thatcher yn enwedig yng Nghymru
Rhyddfrydwyr ddim yn mynd i ennill mwyafrif, a heblaw am Plaid Cymru does neb arall allen nhw bleidleisio amdano.
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Cwlcymro » Iau 25 Tach 2004 12:02 pm

Llafur yn colli seti i'r Toriaid a'r Lib Dems. Llafur yn cael ei ail ethol efo mwyafrif llai, ond dal yn weddol fawr. Plaid a SNP yn enill set yr un, UKIP yn enill dim.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cymro13 » Gwe 26 Tach 2004 1:11 pm

Gobeithio neith Plaid Cymru gipio Ynys Mon yn ol a chadw Caerfyrddin- yn ogystal a'i seddai eraill wrth gwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 26 Tach 2004 1:33 pm

Dylai fod gan Blaid Cymru bum sedd ar ol yr etholiad nesaf ... ond beth am Lanelli? Swing o 8%? Dw i'n eitha hyderus am y sedd yn bersonol!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan sanddef » Gwe 26 Tach 2004 3:06 pm

Beth byddai'n digwydd petai Llafur angen cefnogaeth PC a SNP yn San Steffan,a hynny'n groes i'r sefyllfa yn y Cynulliad a Senedd Yr Alban?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai