Dyfodol y Blaid Geidwadol.

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sanddef » Maw 30 Tach 2004 12:39 pm

Cyn i'r Rhyddfrydwyr cael eu disodli gan y Blaid Lafur canrif yn ol roeddent yn neud yr hyn y mae Llafur yn ei neud ar hyn o bryd,sef efelychu gwleidyddiaeth y Toriaid,cefnu ar wleidyddiaeth sosialaidd(neu "rhyddfrydol"),a rhyfela.Felly pa blaid sydd mewn peryg yn y tymor hir?
Efallai bydd rhaid i'r Toriaid dorri'n ddau (pro-european vs anti-european) cyn iddynt golli eu safle fel prif wrthblaid y DU.

Hefyd:Er llwyddiant Llafur ers 1997,gwlad geidwadol ydy Lloegr.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Ffinc Ffloyd » Maw 30 Tach 2004 1:19 pm

Realydd a ddywedodd:Peidiwch a phoeni...yna buan iawn wneith pobl ddod yn nol i'r Toriaid.


Sori, nes i greu'r argraff mod i'n poeni?

Don i'm yn trio.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Realydd » Maw 30 Tach 2004 6:40 pm

Mae Llafur wedi cael 7 mlynedd wrth y llyw. Dwi'n amau y gwneith y Toriaid eu disodli flwyddyn nesaf ond bydd rhaid i'r Toriaid ddwyn seddi i dorri'r mwyafrif anferthol yma lawr er mwyn cael cyfle realistig tro nesaf. Anodd yw gwneud hyn pan mae Llafur yn dwyn eu polisiau!

Gan fod Llafur wedi dwyn maesydd y Toriaid, gall y Toriaid ond cynnig rhywbeth yn wahanol (sydd ddim yn hawdd, a byddai symud i'r dde yn troi ffwrdd rhai o'r swing voters mae nhw ei angen) neu wrth gwrs ymosod ar record Llafur mewn pwer- dyna yn y diwedd fydd cwymp Llafur newydd.

Nid yw ethol llywodraeth Lafur yn golygu llywodraeth sosialaidd a gwrthod agenda geidwadol, dyma'r pwynt sydd rhaid i amryw ddelio hefo.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Ray Diota » Iau 09 Rhag 2004 2:37 pm

Realydd a ddywedodd: buan iawn wneith pobl ddod yn nol i'r Toriaid. Plaid brotest yw'r Lib dems mae gen i ofn.


Dod yn ôl? :? Atgoffa fi pryd odd y tro dwethaf odd mwyafrif da'r Toris yng Nghymru?

Dwi'n edrych mlan at gael gwared o lywodraeth Llafur yn Llundain...tam bach o wrthgyferbyniad da'r hyn sy'n digwydd fan hyn Prif Weinidog na fydd fel petai'n fòs ar Brif Weinidog Cymru ... ond sai'n gweld e'n digwydd am sbel eto...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan sanddef » Maw 14 Rhag 2004 1:37 pm

2DTV neithiwr yn awgrymu fod rhaid i'r ceidwadwyr godi pleidleiswyr o blith y meirw (fel mewn nofel Stephen King-the pet cemetary) er mwyn ennill yr etholiadau nesa' :lol:
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cwlcymro » Mer 15 Rhag 2004 1:39 pm

a hyd yn oed wedyn mi wnaeth y meirw bledleisio i UKIP :P
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai