Gwyddelod wrth-Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwyddelod wrth-Gymraeg

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau 21 Ebr 2005 12:26 pm

:crechwen:
Argh! Allai ddim dioddef clywed pobl yn dweud fod yr iaith gymraeg yn 'dying language' yn enwedig pan mai gwyddel syn ei ddweud o - ac am ryw reswm, nhw sy' ati gan amlaf dyddiau hyn! :x mae'r eironi yn ormod i mi!

Dwi newydd buttio ar draws gwyddel yn dweud wrth un o hogiaur office (syn gymro) fod yr iaith gymraeg yn 'dying language' a doedd e ddim yn daell paham oedd cymraeg yn cael ei gwarchod tra oedd gwyddeleg yn cael ei hanwybyddu - er ei fod mor poblogaeidd!! :drwg: :drwg: :drwg: na! na! a mwy o na. Di gwyddeleg ddim just yn marw - mae e wedi marw ac mae'n rhaid iddyn nhw ei hatgyfodi, tra bod y gymraeg wedi parhau fel rhan hanfodol o 'welsh national identity' (gweler Tom Nairn, the break up of Britain). Mae'n eironic hefyd, bo raid i mi ddod oddi ar maes-e i ddweud wrtho...arol gorffen darllen golwg amser cinio!

Hefyd, ai fi yw hi - neu ydi'r honiad fod yr iaith gymraeg yn marw wedi chael ei ailadrodd ers 1588?
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Mr Gasyth » Iau 21 Ebr 2005 12:53 pm

Tydi'r Gymraeg heb farw, ond tydi'r Wyddeleg ddim ychwaith felly bu'n olfalus Seren!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau 21 Ebr 2005 12:59 pm

:D
Do mi wnath e, mewn termau defydd pob dydd fuodd pob un or ieuthoedd marw - dwi'n gwerthfawrogi'r cyngor ond dwi wedi gwqneud llawer o waith ar hyn ym mhrif ysgol. Er ei bod nhw wedi llwyddo cael ei rhyddid mewn termau gwleidyddol, fe collon nhw ei hiaith, ac dim ond mewn ysgolion a llefydd fellu y wnaeth e parhau (gweler Nairn). Yr un stori a fu yn yr Alban cw', roedd mwy o pwysigrwydd ar gwleidyddiaeth nac ac 'identity' ond ddim gyda'r iaith fel rhan ohonno. Mae'nt eisioes wedi gwneud yndrechion mawr iw hatgyfodi, ac maent wedi bod yn eithaf llwyddiannus, ond nid yw hi'n iaith gyntaf neb - hidio befo be mae rhai ohonnynhwn ei honi (wnaeth un foi drio honni mai ei hiaith cyntaf oedd e...a mi droedd allan iddo mond allu siarad chydig ohonno)
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan S.W. » Iau 21 Ebr 2005 1:04 pm

SerenSiwenna a ddywedodd::D

Ti ychydig yn anghytiwr mae arnai ofn Seren. Do mi farwodd y ieithoedd yn y mwyafrfi o ardaloedd, ond cer di i'r Geltacht (sydd o dan straen aruthrol ) neu i Ynysoedd Gorllewinol yr Alban a mi ddoi di ar draws pobl yno sydd yn parhau i siarad y ieithoedd hyn fel eu iaith gyntaf. Dwin siarad o brofiad yn Ynysoedd yr Alban oherwydd fy mod yn ymweld a'r ardal bron yn fisol ac yn cwrdd a'r bobl hyn bob dydd dwi yno.

Maent yn cael eu gwthio mwy a mwy gan ddylanwad Saesneg ond mi allai rhoi fy llaw ar fy nghalon a dweud bod nifer o bobl yn siarad hwn fel eu iaith gyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau 21 Ebr 2005 1:17 pm

Ti ychydig yn anghytiwr mae arnai ofn Seren. Do mi farwodd y ieithoedd yn y mwyafrfi o ardaloedd, ond cer di i'r Geltacht (sydd o dan straen aruthrol ) neu i Ynysoedd Gorllewinol yr Alban a mi ddoi di ar draws pobl yno sydd yn parhau i siarad y ieithoedd hyn fel eu iaith gyntaf. Dwin siarad o brofiad yn Ynysoedd yr Alban oherwydd fy mod yn ymweld a'r ardal bron yn fisol ac yn cwrdd a'r bobl hyn bob dydd dwi yno.

Maent yn cael eu gwthio mwy a mwy gan ddylanwad Saesneg ond mi allai rhoi fy llaw ar fy nghalon a dweud bod nifer o bobl yn siarad hwn fel eu iaith gyntaf.[/quote]

Beth yw anghytiwr? ac, ok ta 'I stand corrected' ar yr Alban - ond o ni'n siarad o ddarllen llwythi o waith acadamaidd ar y mater - a honi'r fod yr iaith wedi marw allan yn hollol.....a trwy siarad hefo llawer o trigolion Aberdeen pan o ni ene, a oedd yn cytuno'n drist hefo'r barn drist yma.

Ond mae hyn i gyd yn colli'r pwynt braidd. Dwi'n edmygu'r ffaith fod y gwyddelod wedi gweithio mor galad i atgyfodi ei hiaith....ond dwi'n teimlo ei fod hi'n eironig fellu fod gwyddel mor adamant fod y gymraeg yn marw, ac yn flin bo nin cael pres i addysg gymraeg - pan fo gwyddeleg mor poblogaidd :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Mr Gasyth » Iau 21 Ebr 2005 1:18 pm

Mae'r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban yn dal i gael eu siarad fel iaith gyntaf gan bobl yn y gwleydydd hyn, er nid i'r graddau yng Nghymru ella. Mae Nairn yn gywir hefyd nad ydynt yn ran mor ganolog o'r hunaniaeth genedlaethol ag ydyw'r Gymraeg yng Nghymru. Nes i astudio Nairn hefyd, ac yn wir dwi wedi ei gyfarfod, ac er fod ei syniadau'n ddiddorol - ni ddylid eu derbyn fel ffaith!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Mr Gasyth » Iau 21 Ebr 2005 1:21 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Beth yw anghytiwr? ac, ok ta 'I stand corrected' ar yr Alban - ond o ni'n siarad o ddarllen llwythi o waith acadamaidd ar y mater - a honi'r fod yr iaith wedi marw allan yn hollol.....a trwy siarad hefo llawer o trigolion Aberdeen pan o ni ene, a oedd yn cytuno'n drist hefo'r barn drist yma.

Debyg iawn fod yr aeleg wdi mawr allan yn Baerdeen, ond mae'n anghywir ei disgrifio fel iaith farw pan mae'n dal i gael ei siarasd fel iaith gyntaf yn Ynysoedd y Gorllewin. Petai rhyyn yn Mynwy yn dweud wrthot fod y Gymraeg yn iaith farw, fyddet ti'n eu coelio nhw?

Ydi, mae agwedd ac anwybodaeth y Gwyddel yn drist, ond hyd yn hyn dwyt ti ond wedi dangos yn union yr un agwedd ffeithiol anghywir tuag at y Wyddeleg!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau 21 Ebr 2005 1:34 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Mae'r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban yn dal i gael eu siarad fel iaith gyntaf gan bobl yn y gwleydydd hyn, er nid i'r graddau yng Nghymru ella. Mae Nairn yn gywir hefyd nad ydynt yn ran mor ganolog o'r hunaniaeth genedlaethol ag ydyw'r Gymraeg yng Nghymru. Nes i astudio Nairn hefyd, ac yn wir dwi wedi ei gyfarfod, ac er fod ei syniadau'n ddiddorol - ni ddylid eu derbyn fel ffaith!

wow, cymdeithaseg nes ti astudio? ddim yn unig Nairn sy'n dweud hyn, fel dwi'n siwr wyt ti yn ei wybod (jest mai ef yw un or rhai llai obscure). Dwi heb ddod ar draw gwaith academiaidd arall sy'n credu fod yr ieuthoedd yma'n fyw.

Hefyd, yn dod o wrecsam, dwi wedi cyfarfod llond gwlad o gwyddelod ac er ei bod nhw'n son am yr iaith, dwi erioed wedi cyfarfod un wan jac oedd yn ei siarad yn rhygl - er oedd cydymdeimlad gen i hefo rhai gan oeddynt eisiau i hyn fod yn wir cymaint, a ddim bai arnynhw oedd hyn.

Yn gwbl whannol i hyn, mae yna o leia dau ohonnym yn siarad cymraeg yn rhyglyn yr office fan hyn ac dwi'n eithaf siwr ei fod e'n digon craff i wybod fod yr hyn a ddwedodd yn propeganda.

Dwi erioed wedi clywed neb or alban yn honi fod nhw'n siarad yr iaith - ofwy nag un gair, heb son am yn rhygl, fellu roedd hi'n resymmol i mi gredu, ar sail y tystiolaeth enfawr, fod yr iaeuthoedd ddim yn bod. Ac er i mi rwan wybod fod na pocedi bach yn dal iw siarad - nid yw hyn yn newid y ffaith ei bod nhw'n fwy debygol i farw allan na'r cymraeg - sef holl bwynt i mi hyd ynoed dweud dim am gwydeleg yn y lle cyntaf
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Mr Gasyth » Iau 21 Ebr 2005 2:14 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:wow, cymdeithaseg nes ti astudio? ddim yn unig Nairn sy'n dweud hyn, fel dwi'n siwr wyt ti yn ei wybod (jest mai ef yw un or rhai llai obscure). Dwi heb ddod ar draw gwaith academiaidd arall sy'n credu fod yr ieuthoedd yma'n fyw.

Na, gwleidyddiaeth.

Nid mater o 'gredu' ydi os ydi iaith yn fyw newu beidio ond mater o ffaith. Mi ydw i yn adnabod dau berson sydd wedi eu magu yn y Wyddeleg yn union fel yr wyt tio a mi wedi ein magu yn y gymraeg - un o Cork a'r llall o Ddulyn. Ma S.W yn dod ar draws pobl sy'n siarad Gaeleg yr Alban fel iaith gyntaf pan mae o'n mynd i ymweld a teulu'i gariad bob mis. Mi fedra i a S.W ardystio felly fod y rhain yn iethoedd byw. Iawn, mae yna lai o siaradwyr na'r Gymraeg, ac ella fod y perygl i'w parhad yn fwy - ond mae lot o hynny'n dibynnu ar sut wyt ti'n mesur iechyd iaith - mae' Wyddeleg yn iaith swyddogol yn Iwerddon - ydi hyn yn ei gwneud yn fwy 'byw' na'r Gymraeg?

Eniwe, y pwynt ydi nad ydi rhein yn ieithoedd marw, ma nhw'n fyw. Felly rwyt ti a'r Gwyddel mor euog a'ch gilydd o wneud datganiadau ysgubol heb wybod eich ffeithiau yn iawn gynta.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau 21 Ebr 2005 3:02 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:wow, cymdeithaseg nes ti astudio? ddim yn unig Nairn sy'n dweud hyn, fel dwi'n siwr wyt ti yn ei wybod (jest mai ef yw un or rhai llai obscure). Dwi heb ddod ar draw gwaith academiaidd arall sy'n credu fod yr ieuthoedd yma'n fyw.

Na, gwleidyddiaeth.

Nid mater o 'gredu' ydi os ydi iaith yn fyw newu beidio ond mater o ffaith. Mi ydw i yn adnabod dau berson sydd wedi eu magu yn y Wyddeleg yn union fel yr wyt tio a mi wedi ein magu yn y gymraeg - un o Cork a'r llall o Ddulyn. Ma S.W yn dod ar draws pobl sy'n siarad Gaeleg yr Alban fel iaith gyntaf pan mae o'n mynd i ymweld a teulu'i gariad bob mis. Mi fedra i a S.W ardystio felly fod y rhain yn iethoedd byw. Iawn, mae yna lai o siaradwyr na'r Gymraeg, ac ella fod y perygl i'w parhad yn fwy - ond mae lot o hynny'n dibynnu ar sut wyt ti'n mesur iechyd iaith - mae' Wyddeleg yn iaith swyddogol yn Iwerddon - ydi hyn yn ei gwneud yn fwy 'byw' na'r Gymraeg?

Eniwe, y pwynt ydi nad ydi rhein yn ieithoedd marw, ma nhw'n fyw. Felly rwyt ti a'r Gwyddel mor euog a'ch gilydd o wneud datganiadau ysgubol heb wybod eich ffeithiau yn iawn gynta.

O mi god, dwi'n dyfaru ddwed dim - wnes i ddechrau'r hedyn gan bo fi'n reilio o orfod dioddef rhywun yn dweud y fath beth mewn ffordd mor smug - rhywbeth fuaswn ddim yn ei wneud.

Dwi ddim y dweud bo fi ddim yn credu yr hyn fo chi yn ei ddweud - defnyddior gair anghywir wnes i mae rhaid - cofnodi'n gywir oeddwn yn ei feddwl mae'n siwr. Nid jest dweud heb feddwl o ni - dwi di bod yn darllen a chymryd diddordeb yn yr ieuthoedd ar sefyllfaeodd yma ers 7 mlynedd - a dwi erioed wedi ddod ar draw neb oedd yn actiwli yn siarad gwyddeleg. Os yw hyn yn anghywir, digon teg - dwi wedi dweud bo fi'n derbyn hyn yn barod (sawl neges ynol) fellu does dim sense i ti cario mlaen yn dweud wrthai.

I ddweud y gwir, does dim pwynt trafod o o gwbl - achos does dim i drafod. Dweud o ni fod yn eironig bod gwyddel yn trio hioni bod ei hiaith nhw yn fyw tra bod y gymraeg yn marw - ac y gwir yw ei fod wedi cymysgu y sefyllfa gan mae'r gymraeg syn fwy cruf - dana'r unig pwynt (hynna ar ffaith bo fi wedi fyn upsettio gan hyn) ond dwi'n fwy upset rwan nag o ni yn y lle cychwyn. Plis, gad i hyn fynd rwan achos ti'n 'preaching to the converted'.
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai