Gwyddelod wrth-Gymraeg
Postiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:26 pm
Argh! Allai ddim dioddef clywed pobl yn dweud fod yr iaith gymraeg yn 'dying language' yn enwedig pan mai gwyddel syn ei ddweud o - ac am ryw reswm, nhw sy' ati gan amlaf dyddiau hyn! mae'r eironi yn ormod i mi!
Dwi newydd buttio ar draws gwyddel yn dweud wrth un o hogiaur office (syn gymro) fod yr iaith gymraeg yn 'dying language' a doedd e ddim yn daell paham oedd cymraeg yn cael ei gwarchod tra oedd gwyddeleg yn cael ei hanwybyddu - er ei fod mor poblogaeidd!! na! na! a mwy o na. Di gwyddeleg ddim just yn marw - mae e wedi marw ac mae'n rhaid iddyn nhw ei hatgyfodi, tra bod y gymraeg wedi parhau fel rhan hanfodol o 'welsh national identity' (gweler Tom Nairn, the break up of Britain). Mae'n eironic hefyd, bo raid i mi ddod oddi ar maes-e i ddweud wrtho...arol gorffen darllen golwg amser cinio!
Hefyd, ai fi yw hi - neu ydi'r honiad fod yr iaith gymraeg yn marw wedi chael ei ailadrodd ers 1588?