Cymedrolwr: gronw
SerenSiwenna a ddywedodd::D
Do mi wnath e, mewn termau defydd pob dydd fuodd pob un or ieuthoedd marw - dwi'n gwerthfawrogi'r cyngor ond dwi wedi gwqneud llawer o waith ar hyn ym mhrif ysgol. Er ei bod nhw wedi llwyddo cael ei rhyddid mewn termau gwleidyddol, fe collon nhw ei hiaith, ac dim ond mewn ysgolion a llefydd fellu y wnaeth e parhau (gweler Nairn). Yr un stori a fu yn yr Alban cw', roedd mwy o pwysigrwydd ar gwleidyddiaeth nac ac 'identity' ond ddim gyda'r iaith fel rhan ohonno. Mae'nt eisioes wedi gwneud yndrechion mawr iw hatgyfodi, ac maent wedi bod yn eithaf llwyddiannus, ond nid yw hi'n iaith gyntaf neb - hidio befo be mae rhai ohonnynhwn ei honi (wnaeth un foi drio honni mai ei hiaith cyntaf oedd e...a mi droedd allan iddo mond allu siarad chydig ohonno)
SerenSiwenna a ddywedodd:Beth yw anghytiwr? ac, ok ta 'I stand corrected' ar yr Alban - ond o ni'n siarad o ddarllen llwythi o waith acadamaidd ar y mater - a honi'r fod yr iaith wedi marw allan yn hollol.....a trwy siarad hefo llawer o trigolion Aberdeen pan o ni ene, a oedd yn cytuno'n drist hefo'r barn drist yma.
Mr Gasyth a ddywedodd:Mae'r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban yn dal i gael eu siarad fel iaith gyntaf gan bobl yn y gwleydydd hyn, er nid i'r graddau yng Nghymru ella. Mae Nairn yn gywir hefyd nad ydynt yn ran mor ganolog o'r hunaniaeth genedlaethol ag ydyw'r Gymraeg yng Nghymru. Nes i astudio Nairn hefyd, ac yn wir dwi wedi ei gyfarfod, ac er fod ei syniadau'n ddiddorol - ni ddylid eu derbyn fel ffaith!
SerenSiwenna a ddywedodd:wow, cymdeithaseg nes ti astudio? ddim yn unig Nairn sy'n dweud hyn, fel dwi'n siwr wyt ti yn ei wybod (jest mai ef yw un or rhai llai obscure). Dwi heb ddod ar draw gwaith academiaidd arall sy'n credu fod yr ieuthoedd yma'n fyw.
Mr Gasyth a ddywedodd:SerenSiwenna a ddywedodd:wow, cymdeithaseg nes ti astudio? ddim yn unig Nairn sy'n dweud hyn, fel dwi'n siwr wyt ti yn ei wybod (jest mai ef yw un or rhai llai obscure). Dwi heb ddod ar draw gwaith academiaidd arall sy'n credu fod yr ieuthoedd yma'n fyw.
Na, gwleidyddiaeth.
Nid mater o 'gredu' ydi os ydi iaith yn fyw newu beidio ond mater o ffaith. Mi ydw i yn adnabod dau berson sydd wedi eu magu yn y Wyddeleg yn union fel yr wyt tio a mi wedi ein magu yn y gymraeg - un o Cork a'r llall o Ddulyn. Ma S.W yn dod ar draws pobl sy'n siarad Gaeleg yr Alban fel iaith gyntaf pan mae o'n mynd i ymweld a teulu'i gariad bob mis. Mi fedra i a S.W ardystio felly fod y rhain yn iethoedd byw. Iawn, mae yna lai o siaradwyr na'r Gymraeg, ac ella fod y perygl i'w parhad yn fwy - ond mae lot o hynny'n dibynnu ar sut wyt ti'n mesur iechyd iaith - mae' Wyddeleg yn iaith swyddogol yn Iwerddon - ydi hyn yn ei gwneud yn fwy 'byw' na'r Gymraeg?
Eniwe, y pwynt ydi nad ydi rhein yn ieithoedd marw, ma nhw'n fyw. Felly rwyt ti a'r Gwyddel mor euog a'ch gilydd o wneud datganiadau ysgubol heb wybod eich ffeithiau yn iawn gynta.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai