Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 3:17 pm
gan Emrys Weil
SerenSiwenna a ddywedodd:I ddweud y gwir, does dim pwynt trafod o o gwbl - achos does dim i drafod. Dweud o ni fod yn eironig bod gwyddel yn trio hioni bod ei hiaith nhw yn fyw tra bod y gymraeg yn marw


Y gwir cas yw bod nifer o Gymry sy'n fodlon dweud yr un fath o beth.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 3:24 pm
gan Mr Gasyth
Teimlo'n euog wan, sori Seren :wps:

mae' Gwyddel yn dwat di-gywilydd mae hynny'n saff. On i jest isho gneud yn siwr fod dy ffeithiau di'n gywir cyn i ti dechrau dadlau efo fo!

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 3:37 pm
gan HenSerenSiwenna
Mr Gasyth a ddywedodd:Teimlo'n euog wan, sori Seren :wps:

mae' Gwyddel yn dwat di-gywilydd mae hynny'n saff. On i jest isho gneud yn siwr fod dy ffeithiau di'n gywir cyn i ti dechrau dadlau efo fo!


:winc: O, mae hynnan iawn Mr Gasydd, paid a poeni, dwi yn deall be sy' gen ti - i ddweud y gwir o ni'n teimlon ddreng hefo'n hun am cholli'n tymer a dweud y fath beth - fel arfer dwi'n llawer fwy call a diplomatig - jest gwylltio wnes i (dwi'n meddwl dwi angen wyliau yng nghymru neu rywbeth - wedi bod yn byw fel alltud yn rhu hir 'ma raid.)

O ni'n fwy siomedig gan fod y gwyddel yma fel arfer yn boi hyfryd ac o ni feili dallt pam oedd on gwneud ei gorau glas i fod yn ddigwylydd (does neb yn hoffi clywed rhywbeth fellu am ei hiaith).

Eniwe, wedi dysgu'r wers a wedi cael hyn oddi ar fym mrest - gobeithio bod ni'n ffrindiau x

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 10:11 pm
gan garathsheli
Ond er nad yw Gwyddelig yn cael ei siarad gan gymaint o bobl a Chymraeg (tua 50,000 mae'n debyg) mae'r hawliau swyddogol sy ganddo yn anhygoel. Yn sicr yn fwy na beth sydd gan y Gymraeg. Arwyddion, gwybodaeth cyhoeddus, hysbysebion i gyd yn Wyddelig (rhan fwyaf o'r amser yn gyntaf).

ANGEN DEDDF IAITH NEWYDD FAMA!

Ond na, di Gwyddelig heb farw. Bues yn Iwerddon bythefnos nol (yn y gorllewin) a glywais hen bobl ar fws yn ei siarad. Mae hefyd Gaeltacht's neu Gaelic Tacts lle mae canran sylweddol o'r pentref/dref yn medru'r Gwyddelig.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 10:21 pm
gan nicdafis
[Dw i wedi newid teitl yr edefyn o "ffycin gwyddelod, grrrrrrrrrr". Diddorol doedd neb wedi cwyno amdano - 'sai fe wedi bod yn "ffycin saeson" fyddwn i wedi cael llond mewnflwch o gwynion erbyn hyn. Tebyg bod rhai o'n cymdogion yn fwy cyfartel na'r lleill.]

Re: Gwyddelod wrth-Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 05 Hyd 2011 1:35 pm
gan tommybach
Yn anffodus dwi wedi ddod ar draws lot fawr o Wyddelod ac Albanwyr ifanc sy'n hynod o wrth-Gymraeg (Dubs neu Central Belters fel arfer). Pobl dosbarth canol sy'n siarad gydag acenion Americanaidd ydyn nhw fel arfer.

Re: Gwyddelod wrth-Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 05 Hyd 2011 1:39 pm
gan Josgin
Gwyddel yn brifathro Coleg Bangor , ac Albanes yn brifathrawes Coleg Aberystwyth.
Cawn weld os mai coch yw eu gwaed !

Re: Gwyddelod wrth-Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 23 Tach 2011 1:24 pm
gan prypren
Well gennai saeson na gwyddelod. Mae pob gwyddel dwi erioed wedi ei gyfarfod yn wrth gymraeg a chymreig tra'n pedlo rhyw nonsens rhamantus a hunandosturiol am eu hanes eu hunain

A na, dwi erioed wedi cyfarfod gwyddel sy'n siarad gwyddeleg, dan nhw'n ddim mwy na saeson annifyr hefo acen od yn fy marn i

Re: Gwyddelod wrth-Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 24 Tach 2011 3:34 pm
gan Pethe Coll
dwi ddim yn meddwl fod on deg barnu gwlad gyfan ar sail profid personol.
ond fel nifer o wledydd mae gwyddelod yn gallu bod yn ddiymwybod am ddiwyllianau eraill.
fel ma spaenwyr,ffrancwyr,catalans,americanwyr,cymru,albanwyr,saeson ayyb.pawb bron on mhrofiad i.
ond y gwahaniaeth mawr ydi tydi gwyddelod erioed wedi gwneud difrod i'n diwylliant ni.
ma gan y cymru lot mwy o barch at y syniad o werddon na sy gan werddon at y syniad o gymru.
a ma hynu yn wych o beth dwi meddwl.
ac ma reit gyffoes rili bod cymru yn mynd i dyfu a dod mwy ir amlwg i bawb dros amser.

ma lot or rhagrith yn ddibynol ar le yn gymru a lle yn iwerddon ma rwyn di bod.

Re: Gwyddelod wrth-Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 24 Tach 2011 4:55 pm
gan prypren
Wel dimond ar sail personol y medraf ymateb

Ond rhaid anghytuno 'nad yw'r gwyddelod wedi neud dim drwg i'n diwylliant ni'. yn hanesyddol bu'r gwyddelod yn arfer ysbeilio a rheibio a cheisio goresgyn tir Cymru am ganrifoedd lawer ( e.e hanes Bendigeidfran) a roedden ni'n gorfod amddiffyn Prydain rhag ein 'so called' brodyr celtaidd tra roedd cenhedloedd eraill yn ymosod o'r dwyrain.

MAe'n rhaid fod y gwyddelod wedi llofruddio miloedd o bobol Cymru dros y canrifoedd