Tudalen 1 o 7

Rhifau Ffôn Cyswllt Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 11:41 am
gan Twyllwr Rhinweddol
Wn i ddim ai maes-e yw'r lle i arddangos y rhain, ond mae'n werth i ni eu cofnodi nhw yn rhywle a'u defnyddio nhw, neu fel arall byddai cred y mwyafrif nad oes angen rhoi statws i'r Gymraeg yn cael ei chadarnhau.

Diolch a ffoniwch :)

Swyddfa’r Post - 08457 468469
Parcelforce - 08007 313428
Ffôn Testun y Post Brenhinol ar gyfer cwsmeriaid â nam ar eu clyw - 08456 030800
Nwy Prydain - 0845 603 2300
Trwyddedu Teledu - 0870 601 1130
BT - 0800 800288
Ymholiadau rhifau ffôn - 118404
Dwr Cymru - 0800 052 6058
Traveline Cymru - 0870 6082 608
DVLA (Gyrwyr) - 0870 2400009
DVLA (Cerbydau) - 0870 2400010
Prawf Gyrru - 0870 0100372
Llysoedd – Cyffredinol - 0800 212368
Llysoedd – Rheithgorau - 0800 590416
Yswiriant Gwladol - 0845 302 1489
Cynilon Cenedlaethol - 0845 6033410
Treth ar Werth - 029 2038 6001
Y Gwasanaeth Pensiwn - 0845 60 60 275
Cyllid a Thollau - 0845 302 1489
Cyllid a Thollau (cyfeiriad): Tŷ Moelwyn, Tros y Bont, Porthmadog, Gwynedd LL49 9AB
Adran Gwaith a Phensiynau - 0845 601 4441
Heddlu Gogledd Cymru - 0845 607 1001
Llinell Gynghori Gwasanaeth Tân y Canolbarth a’r Gorllewin - 0800 389 9297
Asiantaeth Cynnal Plant - 08457 138 091
Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr - 0845 6067 890
Galw Iechyd Cymru - 0845 464748
Swyddfa Cofnodion Troseddol - 0870 90 90 223
Arolwg Ordnans - 08456 05 05 04
Pasbort - 0870 5210410
BBC - 08703 500 600
S4C (Gwifren Gwylwyr) - 0870 600 4141
ITV Cymru - 029 20 590590?
Barclays - 08457 442211 (cwsmeriaid personol)
0845 6015008 (cwsmeriaid busnes)
HSBC - 08457 030304
NatWest – 01248 671222
Lloyds TSB – 0845 0728003
Llinell Gyswllt Bwrdd yr Iaith Gymraeg - 0845 6076070
Welsh for Adults Information Line - 0871 230 0017
Ymholiadau trenau - 0845 6040500
Gwasanaeth Cyfeirlyfr BT - 118 404
Y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (Office of National Statistics) - 01633 813381
Yr ONS (Office of National Statistics) - 01633 813381
Barclays Personol - 08457 44 22 11 Busnes - 08456 01 50 08
Cyngor Sir Gâr - 01267 234567

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 11:44 am
gan Ifan Saer
Diolch TR. Defnyddiol iawn. Tic Gwyrdd am dy drafferth.

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 11:45 am
gan Mr Gasyth
be di un ymholiadau trenau? allai byth ffeindio'r diawl peth pan dwi angen o!

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 11:47 am
gan Twyllwr Rhinweddol
Mae Traveline Cymru yn rhoi manylion am drenau

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 11:50 am
gan Ifan Saer
Efallai y dylai hwn fod yn ludiog rhywle ar y maes? Mae'r rhifau ffôn yma'n eithriadol o bwysig, deud y gwir.

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 11:53 am
gan Mihangel Macintosh
Mr Gasyth a ddywedodd:be di un ymholiadau trenau? allai byth ffeindio'r diawl peth pan dwi angen o!


0845 6040500

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 12:13 pm
gan Mr Gasyth
Ifan Saer a ddywedodd:Efallai y dylai hwn fod yn ludiog rhywle ar y maes? Mae'r rhifau ffôn yma'n eithriadol o bwysig, deud y gwir.


syniad da, a diolch MM

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 12:32 pm
gan nicdafis
Ychwanegwch at eich ffefrynnau, falle? Hysbysebu ar eich blogiau? Mae yn wybodaeth defnyddiol, a dw i'n siwr bydd pawb yn gwerthfawrogi 'sai Twyllwr Rhinweddol yn ei gadw fe lan. Mae hyn yn rhywbeth all fod yn wefan ynddo ei hun.

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 1:24 pm
gan Mihangel Macintosh
nicdafis a ddywedodd:Ychwanegwch at eich ffefrynnau, falle? Hysbysebu ar eich blogiau? Mae yn wybodaeth defnyddiol, a dw i'n siwr bydd pawb yn gwerthfawrogi 'sai Twyllwr Rhinweddol yn ei gadw fe lan. Mae hyn yn rhywbeth all fod yn wefan ynddo ei hun.


Dwi wedi ychwanegu at fy ffefrynnau yn barod a wedi copi'r wybodaeth ar daflen Word a'i argraffu mas. Ma hwn yn wybodaeth anghenreidiol ar gyfer wal unrhyw swyddfa.

Dwi'n eithaf siwr i mi weld gwefan un o'r mentrau iaith oedd yn cynnwys nifer fawr o rhifau ffon cyswllt Cymraeg yn y gorffennol, ond ma'r wybodaeth hyn yn debygol o fod yn llawer mwy yp tw det. Serch, fydde fe'n syniad da i gynnal gwefan ar ben ei hyn fyddai'n cynnwys y wybodaeth.

Gweinyddwyr - gwnewch hwn yn ludog!

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 4:32 pm
gan Rhys
Hefyd

Gwasanaeth 118 Cymraeg BT: 118404

Llinell Gymraeg Cyngor Sir Caerdydd: 029 2087 2088
(da iawn fel arfer:ofn: oni bai am bore ma, ond y peth cyntaf wnaeth y person oedd ymddiheuro am ei Saesneg)