Rhifau Ffôn Cyswllt Cymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys » Gwe 14 Gor 2006 3:22 pm

gronw a ddywedodd:
o ran y boi oedd ddim yn deall saesneg gen ti fflamingo, mae ieithoedd lleiafrifol yn helpu i ffrwyno globaleiddio o ryw fath, chydig bach bach. os ti'n ffonio rhif arferol hsbc ti'n mynd i india, ond os ti'n ffonio'r rhif cymraeg ti'n mynd i abertawe/caerdydd!


Mae eisiau i bobl fel Bwrdd yr Iaith neud mwy o'r pwynt yma. nid yn unig byddai deddf iaith i'r sector preifat yn cadw swyddi ym Mhrydain, byddent yn cadw swyddi yng Nghymru!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Rhifau Ffôn Cyswllt Cymraeg

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 30 Awst 2006 5:25 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Llywodraeth Cynulliad Cymru - 029 2082 5355


Nid oes gan y Llywodraeth rhif Cymraeg. Tynnwch hwn o'r rhestyr.

Dyma'r sgwrs ges i pan nes i ffonio'r rhif 'Cymraeg' ar gyfer Llywodraeth Cynthull,ia Crymi....



Fi: Helo, allwch chi rhoi fi drwodd i'r adran gyfieithu?

Gwas Sifyl: Sorry?

Fi: Helo, allwch chi rhoi fi drwodd i'r adran gyfieithu?

Gwas Sifyl: Sorry?

Fi: Helo, allwch chi rhoi fi drwodd i'r adran gyfieithu?

Gwas Sifyl: Sorry?

Fi: Oh! You don't speak Welsh?

Gwas Sifyl: No.

Fi: Can I have a Welsh speaker then?

Gwas Sifyl: We don't have anyone available at the moment. Our Welsh Speaker is off today. Can I help?

Fi: Dosen't the Welsh Assembly Government have a Welsh Language scheme? I thought you were ment to set an example with Iaith Pawb...

Gwas Sifyl: Yes we do have a Welsh language Scheme but our Welsh Speaker is off today. I can get someone to call you back if you want...


:drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Rhifau Ffôn Cyswllt Cymraeg

Postiogan gronw » Mer 30 Awst 2006 8:42 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:our Welsh Speaker

anhygoel!

(tynnwyd o'r rhestr)
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 25 Medi 2006 9:10 am

y mab afradlon a ddywedodd:Ga'i newid un o'r rhifau cyswllt?

Treth / Yswiriant gwladol: 0845 302 1489

Wyi newydd ffonio'r rhif sy da ni ar y rhestr a chael Saes, a gorfod aros 'on howld' tra bod ei fos e'n ffindio'r rhif cywir i fi.


Mi wn i mai edefyn o rifau ffôn ydi hwn i fod, ond mi hoffwn i roi cyfeiriad y swyddfa Gymraeg ym Mhorthmadog yma hefyd (tasa fo 'mond i fi wbod lle i'w gael o tro nesa' bydda i isho fo). Hynna'n ok?! :winc:

Dim ots lle yng Nghymru (ac ella tu hwnt, dwnim...) mae'ch swyddfa leol, hon yw'r swyddfa i lythyru â hi yn Gymraeg -

Ty Moelwyn
Tros y Bont
Porthmadog
Gwynedd
LL49 9AB

Diolch 8)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan gronw » Llun 25 Medi 2006 11:52 am

iawn, diolch Fflamingo, wedi ychwanegu, o dan Cyllid a Thollau.

unrhyw un am ychwanegu at y rhestr neu newid unrhyw fanylion, rhowch nodyn yma, fel bo ni'n cadw'r rhestr mor gyfredol â phosib.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan jammyjames60 » Llun 25 Medi 2006 5:55 pm

NSPCC Cymru: 0808 100 2524
Cyngor chwaraeon: 029 2030 0500
Gwasanaeth Darllen Mesuryddion: 0800 027 1138 (be coblyn di hwn?)
Scottish Power/Manweb: 0845 272 1212
Asiantaeth Safonau Bwyd: 029 2067 8999
Asiantaeth yr Amgylchedd: 08708 506 506
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan løvgreen » Mer 04 Hyd 2006 1:18 pm

jammyjames60 a ddywedodd:Gwasanaeth Darllen Mesuryddion: 0800 027 1138 (be coblyn di hwn?)

Darllen y mitar, de.
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Postiogan jammyjames60 » Iau 08 Chw 2007 10:05 am

Am blydi gwarth, nes i ffonio'r DVLA hanner di naw bora ma, ac eto ar ddeg o'r gloch, a'r cwbwl ges i odd bloody "The Supremes" yn chwara'! Ges i ddynas awtomatig yn deud nad oedd yna rhywun ar gael yn yr adran Gymraeg, ond os oedd eisiau i mi drafod fy musnes dryw'r Saesneg, fe allai neud hynny drwy gwasgu botwm. Ai hyn yw darpariaeth Gymraeg erbyn hyn? :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan jac » Llun 02 Gor 2007 10:23 am

Falle byddai 'Yma o Hyd' wedi bod yn dewis mwy addas :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
jac
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 171
Ymunwyd: Iau 14 Hyd 2004 2:29 pm

Re: Rhifau Ffôn Cyswllt Cymraeg

Postiogan Nanog » Iau 31 Ion 2008 8:22 pm

Byddai'n braf petai'r rhifau 'ma yn bosib eu lawrlwytho er mwyn eu printio a'u dosbarthu i ffrindie.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai