Tudalen 3 o 7

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 2:53 pm
gan S.W.
Gesi daflen yn y Sdeddfod yn hysbysebu gwasanaethau Cymraeg Banc y Barclays

Personol - 08457 44 22 11
Busnes - 08456 01 50 08

Heb ei ddefnyddio eto, felly dwim yn gwybod be di ansawdd y gwasanaeth

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 11:02 am
gan Ray Diota
S.W. a ddywedodd: felly dwim yn gwybod be di ansawdd y gwasanaeth


well na dy Gymraeg di gobeithio :P

safon
y gwasanaeth

ansawdd dillad/defnydd ac ati, rhywbeth diriaethol...

:|

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 2:15 pm
gan carwyn
oes 'na rywun yn gwbod os oes 'na linell gymorth gymraeg ar gyfer Yswiriant Rhyngwladol (national insurance)?

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 2:19 pm
gan Ray Diota
carwyn a ddywedodd:oes 'na rywun yn gwbod os oes 'na linell gymorth gymraeg ar gyfer Yswiriant Rhyngwladol (national insurance)?


Yswiriant Gwladol.

Sori, ond wy mewn ffycin hwylie drwg heddi :x :(

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 2:27 pm
gan carwyn
diolch :wps:

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 2:59 pm
gan Rhys
Ray Diota a ddywedodd:
carwyn a ddywedodd:oes 'na rywun yn gwbod os oes 'na linell gymorth gymraeg ar gyfer Yswiriant Rhyngwladol (national insurance)?


Yswiriant Gwladol.

Sori, ond wy mewn ffycin hwylie drwg heddi :x :(


Mae Yswiriant Gwladol / Cenedlaethol? yn dod o dan Cyllid y Wlad (don't get me started), ac mae wedi ei ganoli yn Newcastle (Longbenton i fod yn fanwl) dwi'n meddwl. I gael unrhywfath o wasaneth Cymraeg, bydd rhaid ti ffonio Llinell Gymorth Cymraeg Cyllid y Wlad sef

carwyn a ddywedodd:
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Cyllid y Wlad - 08457 660 830


ddim hwnna ydy'r rhif erbyn hyn, hwn ydio: 0845 302 1489


Gol.
Gad i ni wybod os nad yw hyn yn gywir.

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 3:06 pm
gan Ray Diota
Rhys a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:
carwyn a ddywedodd:oes 'na rywun yn gwbod os oes 'na linell gymorth gymraeg ar gyfer Yswiriant Rhyngwladol (national insurance)?


Yswiriant Gwladol.

Sori, ond wy mewn ffycin hwylie drwg heddi :x :(


Mae Yswiriant Gwladol / Cenedlaethol?


Gwladol.

Fel wedes i... :drwg:


period, bois, period... :)

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 3:10 pm
gan Rhys
Ti sy'n iawn, dylwn i ddim fod wedi dy gwestiynnu :(

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 3:30 pm
gan S.W.
Ray Diota a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd: felly dwim yn gwybod be di ansawdd y gwasanaeth


well na dy Gymraeg di gobeithio :P

safon
y gwasanaeth

ansawdd dillad/defnydd ac ati, rhywbeth diriaethol...

:|


Sori Yncl Ray

Be am ffonio rhif gyswllt Banc y Bar Clai a gofyn os ydyn nhw'n gwybod y gwahaniaeth rhwng safon ac ansawdd?

Prawf o ansawdd, wps sori SAFON eu gwasnaeth - rhoi prawf Cymraeg i nhw

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 9:57 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Rhys a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:
carwyn a ddywedodd:oes 'na rywun yn gwbod os oes 'na linell gymorth gymraeg ar gyfer Yswiriant Rhyngwladol (national insurance)?


Yswiriant Gwladol.

Sori, ond wy mewn ffycin hwylie drwg heddi :x :(


Mae Yswiriant Gwladol / Cenedlaethol? yn dod o dan Cyllid y Wlad (don't get me started), ac mae wedi ei ganoli yn Newcastle (Longbenton i fod yn fanwl) dwi'n meddwl. I gael unrhywfath o wasaneth Cymraeg, bydd rhaid ti ffonio Llinell Gymorth Cymraeg Cyllid y Wlad sef

carwyn a ddywedodd:
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Cyllid y Wlad - 08457 660 830


ddim hwnna ydy'r rhif erbyn hyn, hwn ydio: 0845 302 1489


Gol.
Gad i ni wybod os nad yw hyn yn gywir.


Ma'nhw'n deud wrtha i mai ym Mhorthmadog mae'r dyn clên sydd ar ben arall y rhif ffôn yma.