Reit, am unwaith yn 'y mywyd dwi am gytuno hefo carwyn.
Newy ffonio llinell Gymraeg HSBC. Sôn am strach, hogan ifanc o Dde Cymru atebodd y ffôn yn amlwg wedi cofio am ei Chymraeg wrth weld hysbyseb am swydd. Wel wir, doeddwn i ddim yn deall hi a doedd hi'm yn fy neall i (sgen i'm byd yn erbyn hwntws cofiwch, hwntws di'n ffrindia penna i). Dwi'n siwr y bydda petha di bod llawer rhwyddach petawn i di ffonio y rhif Saesneg a chael siarad â rhywun o Japan ne ryw bellafion felly.
Ar ôl i'r hogan ddalld be oni isho dyma'r beudan yn troi rownd a deud - "Regarding that enquiry, i'll have to put you through to another line, which is an english line, ok??"
Dwi'n flin 'tha tincar wan!