Tudalen 4 o 7

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2005 1:08 pm
gan carwyn
:drwg: os ydech chi ishe rhwbeth wedi gneud yn iawn, ffoniwch y rhif saesneg! :drwg: :x

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 2:12 pm
gan margiad ifas
Reit, am unwaith yn 'y mywyd dwi am gytuno hefo carwyn. :rolio:

Newy ffonio llinell Gymraeg HSBC. Sôn am strach, hogan ifanc o Dde Cymru atebodd y ffôn yn amlwg wedi cofio am ei Chymraeg wrth weld hysbyseb am swydd. Wel wir, doeddwn i ddim yn deall hi a doedd hi'm yn fy neall i (sgen i'm byd yn erbyn hwntws cofiwch, hwntws di'n ffrindia penna i). Dwi'n siwr y bydda petha di bod llawer rhwyddach petawn i di ffonio y rhif Saesneg a chael siarad â rhywun o Japan ne ryw bellafion felly.
Ar ôl i'r hogan ddalld be oni isho dyma'r beudan yn troi rownd a deud - "Regarding that enquiry, i'll have to put you through to another line, which is an english line, ok??"
Dwi'n flin 'tha tincar wan! :drwg:

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 2:26 pm
gan Rhys
Rhaid i mi ddweud mod i'n defnyddio llinell ffôn Gymraeg HSBC (sy'n Abertawe dwi'n mwddwl) ac mae'r gwasaneth wedi bod yn ardderchog pob tro. Os rhywbeth mae eu Cymraeg yn well na un fi (er nid cystadleuaeth ydi o). Mae'n gwneud chi orfod meddwl am y termau cywir, fel debyd uniongyrchol neu archeb sefydlog.

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 5:20 pm
gan margiad ifas
wel wir mashwr mod i di bod yn anffodus 'lly! Oni di gwylltio gymaint, so eshi draw i'r banc yng Nghaernarfon ar fy niwrnod ffwr' :x

PostioPostiwyd: Llun 10 Hyd 2005 8:10 pm
gan Dafydd Hywel
Cyngor Sir G

PostioPostiwyd: Sad 15 Hyd 2005 11:48 am
gan jiw jiw!
Dries i ga'l gafel yn y ASG yn Gymraeg i archebu prawf gyrru Cymraeg, gofynnes i am brawf da arholwr Cymraeg ond Sais ges i! Ffaeles i :( Yr ail waith wedyn fues i'n ffono yn hwyr yn y prynhawn rhyw nosweth a drw'r bore wedyn a ffaeles i ga'l gafel ynddyn nhw! Roies i lan yn diwedd :wps:

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2005 10:04 am
gan Ray Diota
Nwy Prydain - 0845 555511


Dyw hwn ddim yn bodoli. :x

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2005 10:11 am
gan dafydd
Ray Diota a ddywedodd:
Nwy Prydain - 0845 555511


Dyw hwn ddim yn bodoli. :x

0845 603 2300 yn ôl Bwrdd yr Iaith

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2005 10:42 am
gan Twyllwr Rhinweddol
Di newid o.

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2005 11:23 am
gan Rhodri Nwdls
dafydd a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:
Nwy Prydain - 0845 555511


Dyw hwn ddim yn bodoli. :x

0845 603 2300 yn