Tudalen 5 o 7

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2005 11:23 am
gan Rhodri Nwdls
dafydd a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:
Nwy Prydain - 0845 555511


Dyw hwn ddim yn bodoli. :x

0845 603 2300 yn

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2005 5:23 pm
gan gronw
Rhodri Nwdls a ddywedodd:ma'n boen na allai gael rhif uniongyrchol i manc bellach, ond problem i holl gwsmeriaid HSBC ydi hon.

ie, banc lleol y byd my arse :x

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 12:28 am
gan Norman
Llinell gymorth Lwfans Cynhaliaeth Addysg Cymru [neu EMA fel mae rhan fwya'n ei galw hi] yw 0845 601 3636
Mae T

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 12:45 am
gan Tegwared ap Seion
os 'da chi'n ffonio cysdymyr syrfusus O2 o gwbwl, gofynnwch am siaradwr Cymraeg. Mi oedd o "allan o'r adeilad" pan ffonish i nhw, ond dwi'n dal i fyw mewn gobaith ei fod yn bodoli! A mi ffoniodd nw fi'n

PostioPostiwyd: Llun 10 Gor 2006 4:19 pm
gan y mab afradlon
Ga'i newid un o'r rhifau cyswllt?

Treth / Yswiriant gwladol: 0845 302 1489

Wyi newydd ffonio'r rhif sy da ni ar y rhestr a chael Saes, a gorfod aros 'on howld' tra bod ei fos e'n ffindio'r rhif cywir i fi.

PostioPostiwyd: Llun 10 Gor 2006 5:47 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Diolch - wedi ei newid o.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 10:28 am
gan jammyjames60
Wel da iawn wir - wedi ffonio Cyswllt Ymholiada Trenau a mi oedd o'n gyfeillgar iawn. Mae'r edefyn hwn wedi ei ludo ar fy ffefrynau yn sicr! (Yw'r cyswllt yma'n cael ei chargio ar local rate ney ydw i wedi talu trwy'r trwyn am wasanaeth Gymraeg?)

Oes rhif BT i holi am Rhyngrwyd band-eang yn y Gymraeg, dynas drws nesaf isio gwbod? Gwên :)

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 10:39 am
gan Fflamingo gwyrdd
jammyjames60 a ddywedodd:Oes rhif BT i holi am Rhyngrwyd band-eang yn y Gymraeg, dynas drws nesaf isio gwbod? Gwên :)


Go brin. Gesh i drafferth cael rhywun oedd yn siarad Saesneg call. Ar sawl achlysur. Fo ddim yn fy nalld i, a finna ddim yn ei ddallt ynta. :rolio:

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 1:37 pm
gan Gwen
Mae ganddyn nhw rif Gwasanaethau Cwsmeriaid Cymraeg, mae'n siwr, does? Mae'n debyg y bysan nhw'n gallu ateb ymholiadau cyffredinol yn fanno.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 2:23 pm
gan gronw
ie, mae rhif cyffredinol BT ar y rhestr, BT - 0800 800288, siwr fyddan nhw'n gallu helpu.

o ran y boi oedd ddim yn deall saesneg gen ti fflamingo, mae ieithoedd lleiafrifol yn helpu i ffrwyno globaleiddio o ryw fath, chydig bach bach. os ti'n ffonio rhif arferol hsbc ti'n mynd i india, ond os ti'n ffonio'r rhif cymraeg ti'n mynd i abertawe/caerdydd! synnu bo nhw heb drio cael staff ateb ffôns cymraeg yn ariannin!