Postiwyd: Gwe 14 Gor 2006 3:22 pm
gronw a ddywedodd:
o ran y boi oedd ddim yn deall saesneg gen ti fflamingo, mae ieithoedd lleiafrifol yn helpu i ffrwyno globaleiddio o ryw fath, chydig bach bach. os ti'n ffonio rhif arferol hsbc ti'n mynd i india, ond os ti'n ffonio'r rhif cymraeg ti'n mynd i abertawe/caerdydd!
Mae eisiau i bobl fel Bwrdd yr Iaith neud mwy o'r pwynt yma. nid yn unig byddai deddf iaith i'r sector preifat yn cadw swyddi ym Mhrydain, byddent yn cadw swyddi yng Nghymru!