Siec Cymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Siec Cymraeg

Postiogan -Anhysbys- » Maw 09 Awst 2005 11:40 am

A all rhywun ddeud wrthaf os oes hawl gan Fanc (gyda'r gangen yn Lloegr) wrthod siec wedi sgrennu yn gymraeg er i'w cwsmer nhw dderbyn y siec fel taliad.

Diolch
-Anhysbys-
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Maw 07 Meh 2005 3:08 pm
Lleoliad: Yn y Niwl

Postiogan Rhys » Maw 09 Awst 2005 12:14 pm

Hmm, ddim yn siwr. Dwi ddim yn meddwl bod o'n orfodol i unrhyw fanc dderbyn siec Cymraeg, ond bod y prif fanciau HSBC, Barclays ayyb wedi cytuno i dderbyn sieciau Cymraeg.
Os mai cangen i un o'r prif fanciau ydi o, efallai nad ydynt yn ymwybodol o'r cytundeb.
Pa fanc ydi o? Mae gan HSBC ac un neu ddau arall aelod staff sy'n gyfrifol am wasanaeth Cymraeg. Dwi'n gwbod ei fod yn anodd weithiau ond paid rhoi mewn rhy hawdd. Hefyd cysyllta gyda'r Bwrdd Iaith a dy aelod Cynullid/ Alun Pugh AC i ddangos anhawsterau mae rhywun yn ei gael i ddefnyddio Cymraeg yn eu bywyd pob dydd. (dylai'r ffaith mai cangen yn Lloegr wyt ti'n ddefnyddio ddim gwneud dim gwahaniaeth dyddiau hyn)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Barbarella » Maw 09 Awst 2005 12:25 pm

Os dwi'n cofio'n iawn, dwi'n meddwl mai'r sefyllfa gyfreithiol ydi hyn:

Y swm sy'n ddyledus ar siec yw'r swm <b>mewn rhifau</b> bob tro.

Pwrpas y geiriau ydi i gynorthwyo wrth ddarllen y rhifau (e.e. os ydynt yn aneglur). Nid oes unrhyw arwyddocâd pellach i'r geiriau, na grym cyfreithiol (er gellid eu cymryd i ystyriaeth os oes dadl ynglyn â'r rhifau).

Yn fyr, os wyt ti'n sgrifennu siec am "£10.--" ac yn ysgifennu "Mickey Mouse Mickey Mouse Mickey Mouse" yn lle mae'r geiriau i fod, mae'r siec dal yn ddilys am ddecpunt. Felly dyw e ddim tamaid o ots pa iaith mae'r geiriau, heb sôn am beth mae'n nhw'n dweud go iawn.

Wedi dweud hynny, am wn i mae hawl gan fanc i wrthod y siec, am resymau eu hunain, hyd yn oed os nad oes sail i'r rhesymau yna.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan S.W. » Maw 09 Awst 2005 12:29 pm

Mae'n gymhelth pan mae'n mynd tu allan i Gymru. Cwbl ydy siec ydy math o voucher rhwng perchenog y cyfrif a'r banc - h.y. ti'n rhoi'r siec fel addewid dy fod yn caniatau i'r banc tynnu'r swm penodol hynny allan o dy fanc a'i rhoi o i'r person sydd a'i enw ar dop y siec (sef ti yn y sefyllfa yma).

Felly maen rhaid i'r banc allu deallt yr ysgifen a'r iaith mewn theory. Ond wedi dweud hynny does bosib bod pob aelod staff mewn banciau yng Nghymru yn deallt yr iaith ond yn ei dderbyn ar y dealltwriaeth bod y geiriau yn gywir. Os yw'r banciau wedi dweud eu bod dim ond am dderbyn sieciau Cymraeg yng Nghymru yna maen debyg nad oes angen iddynt ei dderbyn.

Roedd ne eitem ar hwna r raglen Sian Thomas ychydig yn nol! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dili Minllyn » Maw 09 Awst 2005 3:05 pm

Mae cyfrif banc gyda fi efo'r Co-op yn Kingston Upon Thames, ger Llundain, a hyd yn hyn maen nhw wedi bod yn gwbl barod i dderbyn sieciau Cymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan bartiddu » Maw 09 Awst 2005 3:13 pm

Dwi ddim yn siwr os yw hyn yn berthnasol i'r cwestiwn uchod, ond nag yw'ch siec yn cael ei danfon nol i'ch banc chi cyn sicrhau fod e'n weddus? Hynny yw, os yw eich banc yng Nghymru ma'r siec yn cael ei danfon nol i'ch banc personol, dim ots lle bynnag chi wedi danfon neu trosglwyddo'r siec i yn y lle cynta', os dwi wedi deall yn iawn. :?:
Falle ar rhaglen S.T. clywais i hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 09 Awst 2005 3:18 pm

Cywir Barti.

Ma Babs yn gywir hefyd.

Dwi'n neud taliadau yn y gwaith ac yn sgrifennu sieciau i nifer fawr o gwmnioedd yn Lloegr a'r Alban a WASTAD yn eu sgrifennu'n Gymraeg.

Dim ond un cwmni sydd wedi cael siec wedi ei wrthod gan fanc mewn 12 mis o sgrifennu miloedd o sieciau. Roedd y banc nath wrthod y siec Gymraeg yn un bach Twrceg yn Llundain ac ar ol galwad ffon fe gymron nhw'r siec.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan nicdafis » Maw 09 Awst 2005 4:35 pm

Yr unig tro dw i'n sgwennu siec Saesneg yw os ydw i'n prynu rhywbeth gan rywun di-Gymraeg ar eBay (dw i'n hala ebost dwyieithog atyn nhw yn gyntaf) er mwyn peidio creu hasl - er mod i'n gwybod y bydd eu banc yn derbyn y siec, dydyn nhw ddim yn gwybod hynny, a dyw e ddim werth creu drwgdeimlad mewn sefyllfa felly. Mewn siop/garej yn Lloegr fyddwn i'n wneud yr un peth, mae'n debyg, er mwyn osgoi trafferth esbonio. Mewn siop yng Nghymru, siec Cymraeg ta waeth pa mor ddi-Gymraeg yw'r busnes.

Yn ddifyr digon, yr unig tro dw i wedi cael trafferth gyda banc yn wneud ffys am siec Gymraeg oedd pan halais i siec gan Mihangel Macintosh at fy nghymdeithas adeiladu. Ces i nodyn bach swta "we'll accept it this time, but watch yourself taffboy", ond ar ôl i mi sgwennu nôl a gofyn am eglurhad o'u polisi gan reolwr y cymdeithas ces i ymddirheuriad llwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Emrys Weil » Maw 09 Awst 2005 9:39 pm

Neges oddi wrthyt ti i dy fanc di dy hun ydi siec, yn cyfarwyddo'r banc i dalu arian i gyfrif y person yr wyt wedi gwneud y siec yn daladwy iddo .

Os yw dy fanc di a'r sawl yr wyt yn ei dalu yn hapus, yna DOES DIM BUSNES gan fanc y sawl yr wyt yn ei dalu i wrthod y siec.

Os ydi'r siec yn bownsio EU CWSMER SYDD AR EI GOLLED / EI CHOLLED.

Dydi'r banc ddim ar ei golled o gwbl. Does dim rheswm dros wrthod heblaw am ragfarn gul a gwrt-Gymreig.

Os nad ydi dy fanc dy hun yn hapus - newidia dy fanc.
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan Mali » Maw 09 Awst 2005 10:15 pm

Barbarella a ddywedodd:Os dwi'n cofio'n iawn, dwi'n meddwl mai'r sefyllfa gyfreithiol ydi hyn:

Y swm sy'n ddyledus ar siec yw'r swm <b>mewn rhifau</b> bob tro.



Dyna'r union ateb gefais i flynyddoedd yn ôl pan oeddwn yn cael trafferthion talu efo siec wedi ei sgwennu yn Gymraeg....y swm mewn rhifau sydd yn cyfri.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron