Siec Cymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Fatbob » Mer 10 Awst 2005 9:57 am

Newydd anfon siec i dalu am ddirwy parcio ym Mirmingham yng Nghymraeg. Gaw ni weld nawr os wneith y cyngor i dderbyn ai peidio. I ddweud y gwir dwi'n aml yn anfon siecie Cymraeg i dalu am bethe ar E-bay, yn rhannol gan fod sgwennu siecie yn Gymraeg yn dod yn reddfol, dwi'm di cal problem hyd yn hyn.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan y mab afradlon » Iau 11 Awst 2005 7:27 pm

Ai chi sy'n ceisio talu'r siec i'r banc, person anhysbys?

Os felly, mewn i'r 'bin talu mewn' a hi, a gadael iddyn nhw gysylltu a chi i esbonio pam nad yw'r siec wedi'u derbyn.

Wedyn mae gyda chi lythyr swyddogol gan reolwr (yn hytrach na merch / dyn y cownter) yn esbonio polisi'r banc. Mae'n rhoi siawns iddyn nhw ymchwilio i'r gyfraith os oes eisiau, mae'n osgoi dadl wrth y cownter, ac o gael llythyr yn esbonio, os oes problem / dirmyg / ayb, mae'r tystiolaeth gyda chi'n barod i hala at bawb a chodi stwr go iawn!!!
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Postiogan Dafydd Hywel » Iau 25 Awst 2005 11:09 pm

Mae'n rhaid i nhw dderbyn y siec yn Gymraeg.

Os wyt ti yn cael trafferth, dwed wrthynt na allyt ti ysgrifennu mewn Saesneg!
Cofiwch Cayo
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd Hywel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 155
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:26 am
Lleoliad: Glanaman

Siecs Cymraeg

Postiogan Defi » Llun 05 Medi 2005 8:25 pm

Fi wastod yn ysgrifenu siecs fi yn Nghymraeg, hyd yn nod os fi yn Lloegr, a ni chefais fi trafferth byth am fe. Mae bawb yn dweud i fi nad nhwy yn deall fi anyway, dim ond bod y figures yn iawn a ni all neb gwneud dim am fe.
Defi wyf i, o Drefernar - yn dysgu Cymraeg ac yn ymweld a gwefannau diddorol. Fy niddordebau yw hanes Cymru a'i llenyddiaeth.
Defi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 80
Ymunwyd: Maw 21 Meh 2005 8:58 pm
Lleoliad: Trefernar

Re: Siecs Cymraeg

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 05 Medi 2005 10:34 pm

Defi a ddywedodd:Fi wastod yn ysgrifenu siecs fi yn Nghymraeg, hyd yn nod os fi yn Lloegr, a ni chefais fi trafferth byth am fe. Mae bawb yn dweud i fi nad nhwy yn deall fi anyway, dim ond bod y figures yn iawn a ni all neb gwneud dim am fe.


Snap. Erioed wedi cael trafferth

(arwahan i AMBELL i berson isho bod yn chwithig wrth y cownter (yng Nghymru) ac yn gofyn petha twp fel "what language is this?...Ooo, I don't think we can accept this...". "Yes, you can" oedd f'ateb, a dyna ddiwedd y drafferth)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 12 Tach 2005 4:38 pm

Dau gwestiwn:

1. neith banc yn Lloegr dderyn y siec os yw'r dyddiad wedi'i ysgrifennu

8fed o Dachwedd 2005


2. wna nw dderbyn siec yn Gymraeg os yw cangen y person sydd yn talu'r siec yn Lloegr?

Diolch x
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 13 Tach 2005 8:12 pm

*bwp*

hehe, dwi angen yr arian!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan gronw » Sul 13 Tach 2005 8:42 pm

gwnawn tegwared, dwi ddim wedi clywed am fanc yn gwrthod derbyn siec gymraeg, yn yr ugen mlynedd dwetha beth bynnag. mae'r banciau mawr i gyd wed ymrwymo'n swyddogol i dderbyn sieciau cymraeg, cofio'r peth cheque-mate na nath bwrdd yr iaith rwbryd? mae miloedd o bobl yn sgwennu eu sieciau i gyd yn gymraeg lle bynnag maen nhw'n eu hanfon ac er bod rhai busnesau yn lloegr yn amheus ohonyn nhw does dim problem efo'r banciau eu hunain (cafodd banciau eu targedu'n galed gan gymdeithas yr iaith yn yr 80au/90au, felly maen nhw'n fwy sensitif am y gymraeg na'r rhan fwya o gwmniau).
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 13 Tach 2005 8:44 pm

hyd yn oed os yw'r dyddiad yn deud "Tachwedd"?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan gronw » Sul 13 Tach 2005 8:50 pm

gwnawn siwr, felna dwi wastad yn sgwennu'r dyddiad, wel, yn ystod mis - dwi ddim yn meddwl (ond ddim yn gwbod chwaith) bod banciau'n boddyrd ofnadwy am bethe felna bellach. hefyd, i dy fanc di fydd y siec yn mynd i gael ei 'awdurdodi' neu beth bynnag felly os ydy hwnnw yng nghymru gore oll. ond hydnoed os nacydy, fydd o ddim yn broblem. dwi'n siwr.

gobeithio bo fi'n iawn!
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron