Siec Cymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 13 Tach 2005 8:51 pm

iei ai lyf iw!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan gronw » Sul 13 Tach 2005 9:03 pm

waw, dyna i gyd oedd o. fydda i'n anfon bil atat ti am fwy na hynna am fy nghyngor doeth... welsh language consultancy fee neu wbeth (bydd y bil yn uniaith saesneg, yn naturiol).

Tegwared ap Seion a ddywedodd:iei ai lyf iw!

amhrisiadwy! ond dwi newydd feddwl am rwbeth - ydy'r sieiciau yn dal i gael eu hanfon i'ch cangen leol er mwyn cael eu dilysu? fyswn i'n meddwl falle bo nhw ddim bellach, bo nhw i gyd yn cael eu prosesu mewn rhyw le enfawr afiach tebyg i...
Delwedd

rhywun yn gwbod? dydy hyn ddim yn effeithio dim ar dy gwestiwn achos os mai mewn ffatri yn hull mae popeth yn cael ei neud beth bynnag maen nhw wedi arfer gweld sieciau cymraeg. hwr
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Rhys » Maw 03 Ebr 2007 10:19 am

Newydd dderbyn siec yn ôl gan Amazon (y cwmni sydd ar fîn derbyn £9 miliwn o arian cyhoeddus i sefydlu yng Nghymru)

Dear Customer,

Please find enclosed your cheque for £22.93 as the words are written in Welsh. Sorry to ask but could you please amend and return to us so we may proceed with your order, as the bank may not be able to read it.

Kind regards
Billing Dept.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Maw 03 Ebr 2007 10:25 am

Rhys a ddywedodd:Newydd dderbyn siec yn ôl gan Amazon (y cwmni sydd ar fîn derbyn £9 miliwn o arian cyhoeddus i sefydlu yng Nghymru)

Dear Customer,

Please find enclosed your cheque for £22.93 as the words are written in Welsh. Sorry to ask but could you please amend and return to us so we may proceed with your order, as the bank may not be able to read it.

Kind regards
Billing Dept.


Ateb yn deud y bydd y banc yn gallu dderbyn o, a dy fod wedi dweud wrth dy fanc di i beidio awdurdodi unrhyw sieciau Saesneg er mwyn atal twyll.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Ari Brenin Cymru » Maw 03 Ebr 2007 2:51 pm

Rhys a ddywedodd:Newydd dderbyn siec yn ôl gan Amazon (y cwmni sydd ar fîn derbyn £9 miliwn o arian cyhoeddus i sefydlu yng Nghymru)



Gai ofyn pam yn y byd wyt ti'n talu efo siec :?:
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan Rhys » Maw 03 Ebr 2007 4:06 pm

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:
Gai ofyn pam yn y byd wyt ti'n talu efo siec :?:


Cei, â chroeso.

Roeddwn i ar y gliniadur lawr grisiau ac roedd fy ngherdyn credyd yn fy lloft. Roeddwn i'n rhy ddiog i'w nôl felly dyma fi'n archebu'r llyfryn ac argraffu'r anfoneb diwrnod wedyn a phostio'r siec. Uffern o beth gwirion i wneud wedi meddwl am y peth achos roedd yn fwy o hassle yn y pendraw dod o hyd i'r llyfr siec a phrynu stamp ond un gwirion ydw i.

Ond nid dyna'r pwynt :winc:

Hefyd, roedd yn lyfr byddai'n debygol o ddefnyddio yn y gwaith rhan fwyaf, felly petawn i eisiau ei brynu trwy'r gwaith, byddwn wedi gorfod defnyddio siec gan nad oes cerdyn credyd busnes gyda ni.

Reit a'i i archebu'r llyfr rwan yn fy siop lyfrau annibynol lleol..........erm does dim un felly Waterstones amdani felly :(
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mali » Maw 03 Ebr 2007 4:39 pm

Barbarella a ddywedodd:Os dwi'n cofio'n iawn, dwi'n meddwl mai'r sefyllfa gyfreithiol ydi hyn:

Y swm sy'n ddyledus ar siec yw'r swm <b>mewn rhifau</b> bob tro.



Iawn ....dyma'r neges gefais inna hefyd tua ugain mlynedd yn ôl!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dafydd Hywel » Gwe 06 Ebr 2007 8:21 pm

Well mi ddeallodd Amazon y siec, oherwydd roeddent yn gwybod ei fod wedi ei ysgrifenny yn Gymraeg.
Cofiwch Cayo
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd Hywel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 155
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:26 am
Lleoliad: Glanaman

Postiogan fisyngyrruadre » Iau 12 Ebr 2007 8:19 am

Dim ond pythefnos yn ol, roeddwn i ym Manceinion. Roedd rhaid i mi ysgrifennu siec i unigolyn am swm eitha sylweddol. Ysgrifennaid y swm yn Gymraeg. Wnaeth hi sylwi hyn, a gofynnodd, 'This will be okay, won't it?'

Esboniais (ond efallai, ar ol darllen y sylwadau uchod, roeddwn i'n anghywir!) fod o'n anghyfreithlon i fanc Prydeinig gwrthod siec Cymraeg. Dyna beth oedd fy nealltwriaeth. Beth bynnag, cafodd y siec ei dderbyn gan ei banc hi, achos nad ydw i wedi clywed dim byd mwy amdano.

Oes gan y deddfwriaeth iaith Gymraeg unrhyw beth i ddweud am y sefyllfa yma? :?:
fisyngyrruadre
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 311
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 7:52 am
Lleoliad: Gogledd Cymru

Postiogan Rhys » Iau 12 Ebr 2007 2:31 pm

Wedi cael ymateb cadarnhaol o'r diwedd gan Amazon

Firstly please accept our apologies for the delay in resolving this issue for you
and thank you for your patience.

Having advised our Management team of the issue you have encountered, we have
reviewed our policy regarding the receipt of cheque's written in Cymraeg, and are
pleased to advise you we are more than happy to accept cheque's from our customers
written in Cymraeg.

We do sincerely apologise for your original cheque being returned to you and would
ask you to resend the cheque to us and we will fulfill your order.


A dyma'r bit gorau
Due to this inconvenience we will certainly refund you for any postage costs incurred for returning the cheque to us.


Gyda stampaiu'n costio 32c dwi ddim yn dallt sut mae'r cwmniau yma'n gwneud elw a bod mor hael!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron