Cofiwch Dryweryn

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Osian Rhys » Llun 21 Gor 2003 10:57 pm

ie, ysgol gachu ddyle fe fod, ond byddwn yn ddiolchgar bo nhw'n protestio yn gymraeg ynte!
Rhithffurf defnyddiwr
Osian Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 142
Ymunwyd: Mer 04 Meh 2003 10:31 pm
Lleoliad: Pontypridd ac Aberystwyth

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Cardi Bach » Maw 22 Gor 2003 7:40 am

Kymro a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:
Kymro a ddywedodd:On i'n mynd lawr i Abertawe Dydd Sadwrn pan welis i fod rhywyn wedi spreio rwch Saesneg dros y Cofiwch Dryweryn yn Llanrhystud.

Lle mae criw ifanc Cymdeithas yr Iaith? dan ni i gyd yn gwbod na rownd ochrau yna dach chi'n byw tydan. Lle ma ych hunanbarch chi?

Dach chi isho rwbath i neud - wel prynwch bot paent coch, pot paent gwyn ac ewch allan i neud rwbath y ffernols diog. Swn ni'n neud o'n hun os swn i'n byw yn nes.

Ta dio ddim ots gynoch chi?


Croeso nol Kymro! O'n i'n meddwl pryd o'n i'n mynd i weld dy negeseuon godidog a pherseinus unweth eto.

Wyt ti wirioneddol yn poeni am yr arwydd yma ger Llanrhystud?
Wyt wir?

Wel beth yw pellter pan mae cariad yn y cwestiwn? - dere i neud e dy hunan. Esgus yw pellter - sdim unman yn bell yng Nghymru fach.

Ta dio ddim ots gyno chdi? :winc:


Yli washi dwi'n gneud fy rhan yn fy ardal fy hun a lot o bobol fatha fi. Mae be dwi di glwad am bobol Ceredigion yn wir felly. Wbath i neud efo brwydro dros yr iaith a man nw'n gadal i bobol o'r tu allan (gogledd Cymru fel arfer) wneud y gwaith drostyn nw. Y gwir ydi diawl o ots gen y Cardis felly pob lwc i chi yn eich dyfodol Saesneg ei iaith efo'ch bobol drws nesa Saesneg ei iaith ac ych plant Saesneg ei iaith.

Cadranle yr iath Gymraeg - ffyc off!


:lol:
wwwwwww!
Gweriniaeth Annibynol Gwynedd aie Kymro?
:D

Mae ffordd rhagorol gyda geirie gyda ti Kymro yn does? - ti'n gwbod siwd ma 'annwylio' dy hun at rywun yn dwyt? :winc:

At bwynt Nwdls, wy'n credu mai camsillafu wnaeth y sloganwyr gwreiddiol gan roi 'Trewerin' yn lle 'Trywerin'.

Gwych o hanes :)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Gwen » Maw 22 Gor 2003 7:49 am

Cardi Bach a ddywedodd:At bwynt Nwdls, wy'n credu mai camsillafu wnaeth y sloganwyr gwreiddiol gan roi 'Trewerin' yn lle 'Trywerin'.


Neu 'Tryweryn' hyd yn oed :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Cardi Bach » Maw 22 Gor 2003 8:06 am

Gwen a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:At bwynt Nwdls, wy'n credu mai camsillafu wnaeth y sloganwyr gwreiddiol gan roi 'Trewerin' yn lle 'Trywerin'.


Neu 'Tryweryn' hyd yn oed :winc:


:wps: wrth gwrs! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan nicdafis » Maw 22 Gor 2003 8:11 am

Kymro a ddywedodd:Yli washi dwi'n gneud fy rhan yn fy ardal fy hun a lot o bobol fatha fi. Mae be dwi di glwad am bobol Ceredigion yn wir felly.


Gan bwyll, gyfaill. Pobl Ceredigion sy'n rhedeg y wefan hon ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Kymro » Maw 22 Gor 2003 8:18 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:
On i'n mynd lawr i Abertawe Dydd Sadwrn pan welis i fod rhywyn wedi spreio rwch Saesneg dros y Cofiwch Dryweryn yn Llanrhystud.


Ai honna oedd yr un efo'r camdreiglad ynddo? A wedyn nath ei athrawes Gymraeg roi row iddo, ag ath o nol ag ychwanegu

"...Sori Miss!


Os na plant ysgol ddaru tro cynta be sy na i stopio Rhys Llwyd a'i gell Mickey Mouse o gids ysgol fynd allan efo potiau coch a gwyn i spreio drost y Saesneg tro yma?

Dach chi gyd yn amddiffin ych Ceredigion yn yn erbyn i ond ddim digopn o dan yn y bolia i fynd allan i gal gwarad ar ryw Jockey uffar.

Be sy matar efo chi? Ta fasa well gynoch chi i fi ddechra siarad Saesneg i chi gal teimlo'n gartrefol?

Dim Jockey a ballu dan ni'n gael yn yn ardal i ond swasticas a diom ots gynnon ni fynd allan i llnau nhw.
Ffwliad gwirion ma nw'n ddeud
Ond ni di'r rhei sy'n cal hwyl a sbri!
Rhithffurf defnyddiwr
Kymro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Llun 02 Meh 2003 11:06 am

Postiogan Cardi Bach » Maw 22 Gor 2003 8:39 am

Kymro a ddywedodd:Os na plant ysgol ddaru tro cynta be sy na i stopio Rhys Llwyd a'i gell Mickey Mouse o gids ysgol fynd allan efo potiau coch a gwyn i spreio drost y Saesneg tro yma?

Dach chi gyd yn amddiffin ych Ceredigion yn yn erbyn i ond ddim digopn o dan yn y bolia i fynd allan i gal gwarad ar ryw Jockey uffar.

Be sy matar efo chi? Ta fasa well gynoch chi i fi ddechra siarad Saesneg i chi gal teimlo'n gartrefol?

Dim Jockey a ballu dan ni'n gael yn yn ardal i ond swasticas a diom ots gynnon ni fynd allan i llnau nhw.


Ie na fe Kymro, siarada'n Sisneg gyda ni - lot gwell yn amlwg :rolio:

Pam na wneu di beintio 'Cofiwch Drewerin - wps sori Mis - Cofiwch Dryweryn' ar y wal ar ochr dy gartref yng Ngwynedd a'i gynnal a'i gadw?

Yr hyn sydd yn anffodus gyda'r arwydd yna yw fod y wal bellach yn cwmpo lawr ac mae diwedd y 'Cofiwch' a'r 'Tryweryn' yn cwmpo bant. Tir preifat yw e a dyw'r perchennog ddim am dalu i gynnal adfail sy'n werth dim iddo fel amaethwr - canlyniad hyn yw fod yr adeilad a'r Slogan yn mynd a'i phen iddi. Treni.

Ma Rhys, er chware teg iddo fe, yn gwitho'n galed iawn er lles dyfodol y Gymraeg. Mae'n anheg beirniadu a phwyntio bys yn hyn o beth.

Wy ddim yn gwbod pwy wyt ti Kymro - a wy ddim yn gwbod be ddiawl wyt ti rioed wedi neud er lles dy genedl - sori, Gweriniaeth Annibynol Gwynedd - cyn belled ag ydw i'n gwbod mi wyt ti wedi neud dim - eto falle mae ti yw Meseia yr iaith. Ond yr hyn fi wedi ffindo o brofiad yw mae'r rhai hynny sy'n cwyno ac yn cyhuddo pawb arall sydd fel rheol yn gwneud y lleia eu hunen.

Beirniadaeth deg? Beirniadaeth hallt?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Kymro » Maw 22 Gor 2003 8:47 am

Dos i beintio drost y Saesneg gwarthus a stopio malu cachu. Mae o'n edrach yn ddrwg a dio'm yn gwneud lot i enw da cenedlaetholwyr colegaidd Aberystwyth.

Dach chi'n dda im byd ond siarad.

Neu profwch fi'n rong.
Ffwliad gwirion ma nw'n ddeud
Ond ni di'r rhei sy'n cal hwyl a sbri!
Rhithffurf defnyddiwr
Kymro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Llun 02 Meh 2003 11:06 am

Postiogan Kymro » Maw 22 Gor 2003 8:49 am

Newydd feddwl.

Beryl James, gai sgwenu erthygl am y bobol yma i Lol flwyddyn yma? beth di'r cyfeiriad?
Ffwliad gwirion ma nw'n ddeud
Ond ni di'r rhei sy'n cal hwyl a sbri!
Rhithffurf defnyddiwr
Kymro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Llun 02 Meh 2003 11:06 am

Postiogan nicdafis » Maw 22 Gor 2003 8:57 am

Wel Kymro, wyt ti mor rong am y Cardi Bach ag o't ti am y Rhys Llwyd. Wyt ti'n hefyd ar gerdyn felyn gyda'r nicfais, ac os dwyt ti ddim yn gallu cyfrannu 'ma heb ymosod ar bobl mi gei di dy anfon i'r gell gywilydd am sbel.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron