Cofiwch Dryweryn

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cardi Bach » Maw 22 Gor 2003 9:06 am

Kymro a ddywedodd:Dos i beintio drost y Saesneg gwarthus a stopio malu cachu. Mae o'n edrach yn ddrwg a dio'm yn gwneud lot i enw da cenedlaetholwyr colegaidd Aberystwyth.

Dach chi'n dda im byd ond siarad.

Neu profwch fi'n rong.


:lol:

Ma ishe stand - yp comidian fel Jack Dee ar Gymru!

:lol:
Jiawl ti'n strab, Kymro.
Reial strab a reial Cymro a chenedlaetholwr. Lot fwy na unrhyw un arall ohono ni, sori :crio:

Tro nesa fydda i o flan y llys na i gynnig ail beintio'r slogan fel 'community service' yn lle wynebu carchar, dife? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Kymro » Maw 22 Gor 2003 9:12 am

OK OK mond deud.

Dwi'n cael laff, yndw, ond chydig o ddifri hefyd achos mae'n biti gweld petha fel hyn yn digwydd. Gai jyst deud bo fi'n gobeithio neith rywyn weld yn dda i spreio drost y Saesneg. Ag wrth bod lot o genedlaetholwyr yn byw fforna...

So dan ni'n dallt yn gilydd unwaith eto. :D

A cofiwch dydi pot paent ddim byd i fod ofn chi.
Ffwliad gwirion ma nw'n ddeud
Ond ni di'r rhei sy'n cal hwyl a sbri!
Rhithffurf defnyddiwr
Kymro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Llun 02 Meh 2003 11:06 am

Postiogan eusebio » Maw 22 Gor 2003 11:44 am

Cafodd y sloganau gorau eu peintio ar waliau'r Faenol, ger Felinheli flynyddoedd yn ôl:

Cyfiawnder i'r Iaith ac yna rhywun wedi ychwanegu ar ei ôl - is fab!

ac ar ôl Hogia'r Werin roedd rhywun wedi ychwanegu ddim cystal a Hogia Llandegai


:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 22 Gor 2003 12:45 pm

Rhywun wedi 'sgrifennu ar dalcen chwarel ger Bronwydd:

JESUS SAVES

rhywun arall wedi ychwanegu

GREEN STAMPS

:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Kymro » Maw 22 Gor 2003 1:38 pm

eusebio a ddywedodd:Cafodd y sloganau gorau eu peintio ar waliau'r Faenol, ger Felinheli flynyddoedd yn ôl:

Cyfiawnder i'r Iaith ac yna rhywun wedi ychwanegu ar ei ôl - is fab!

ac ar ôl Hogia'r Werin roedd rhywun wedi ychwanegu ddim cystal a Hogia Llandegai


:lol:


Odd o'n deud Hogia Llanbabo yn fana am oes hefyd doedd. Cofio hynna drwy mhlentyndod pan fyddan ni'n mynd i Fangor. Wedyn mi llneuon nw fo cyn i'r blydi Cwin ddwad cofn i'r gotsan gymyd offens! :drwg: Cyngor Gwynedd, be newch chi efo nw wir ddyn?
Ffwliad gwirion ma nw'n ddeud
Ond ni di'r rhei sy'n cal hwyl a sbri!
Rhithffurf defnyddiwr
Kymro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Llun 02 Meh 2003 11:06 am

Postiogan huwwaters » Maw 22 Gor 2003 1:42 pm

Dwi hefyd yn cytuno dylai'r darn o gelf 'Cofiwch Dryweryn' cael ei edrych ar ôl a'r Saesneg wedi ei ddileu oddi arno. Byswn i'n neud hwne fy hun, ond os ti ddim digon hen i adael cartref na gyrru car, tydi hi ddim yn hawdd. Ond! Nai weld yn yr wythnos nesaf ma! :winc:
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Aelod Llipa » Maw 22 Gor 2003 1:54 pm

Tydw i ddim yn pwyntio bys at neb yma, dim ond dweud fy mod yn rhanu'r un brwdfrydedd a Kymro pan mae'n dod at waith "cywiro".
Dwi fy hyn yn diawlio weithiau pam nad yw mwy o bobl ifanc yn "helpu yn y nos", ond rwy'n gwybod fod pawb a'i gryfderau gwahanol e.e. llythyru, helpu dysgwyr, picedu, ffonio ayb.
Gwnewch y pethau bychain :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Kymro » Maw 22 Gor 2003 1:57 pm

Top boi Huw waters! Mwy tha chdi sydd isho.

(A sylwch na Gogleddwr ydi o plis Nic a Cardi. :D )

Mae o yn warthus, go iawn rwan hogia. Peidiwch a seuthu fi, mond deud ydw i. Seuthwch y bastads saeson sy'n gneud hyn.

Nath rhwyun weld y rhaglan na wsnos dwytha am Tryweryn? Sut fedrwch chi y Cardis adael iddyn nw spreio rwch Saesnegdros y wal ar ol gweld rhaglan fela? Mar ffernols yn downsio ar ych bedda chi a dio ffwc ots gynoch chi.

A dyma fi yn sin bin ar mhen rwan ond dio'r ots os neith rwun blydi sylwi a mynd allan i beintio dros y bastad peth!!!!!
Ffwliad gwirion ma nw'n ddeud
Ond ni di'r rhei sy'n cal hwyl a sbri!
Rhithffurf defnyddiwr
Kymro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Llun 02 Meh 2003 11:06 am

Postiogan Kymro » Maw 22 Gor 2003 2:01 pm

Aelod Llipa a ddywedodd:Tydw i ddim yn pwyntio bys at neb yma, dim ond dweud fy mod yn rhanu'r un brwdfrydedd a Kymro pan mae'n dod at waith "cywiro".
Dwi fy hyn yn diawlio weithiau pam nad yw mwy o bobl ifanc yn "helpu yn y nos", ond rwy'n gwybod fod pawb a'i gryfderau gwahanol e.e. llythyru, helpu dysgwyr, picedu, ffonio ayb.
Gwnewch y pethau bychain :winc:


Diolch diolch diolch. Meddwl bora ma bod hi di cachu arna i am syport o nunlla ond da di'r ogia (gogleddwyr bob tro ond mond observation ydi hynnu Nic a Cardi :winc: ).

Un peth ddo Aelod Llipa, dydi mynd allan efo brwsh paent ddim yn ryw gythral o beth mowr nachdi. Dio'm fatha fedar neb ei neud o neu bod isho bod ofn. Asu dwi rioed di bpd adra ar ol sesh yn dre heb beintio rwbath nei gilidd, wel dim llawar, mond pan mai'n piso bwrw a dwi'n fastad diog yn cal tacsi. :wps:

Newch o unwaitha fyddwch chi'm yn duall pam odd isho bod ofn yn lle cynta !! Haws fatha caws gyfeillion.
Ffwliad gwirion ma nw'n ddeud
Ond ni di'r rhei sy'n cal hwyl a sbri!
Rhithffurf defnyddiwr
Kymro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Llun 02 Meh 2003 11:06 am

Postiogan Cardi Bach » Maw 22 Gor 2003 2:20 pm

Kymro a ddywedodd:Diolch diolch diolch. Meddwl bora ma bod hi di cachu arna i am syport o nunlla ond da di'r ogia (gogleddwyr bob tro ond mond observation ydi hynnu Nic a Cardi :winc: ).



Wedi gwneud ac yn dal i wneud.
Wedi mynd o flaen llys am bethau mwy ac wedi treilio amser yn y celloedd, ac yn debygol o wneud eto.
Wedi derbyn dirwyon mawr.
Wedi gwneud hyn a Chardi's a gogs a phobl o ogledd ddwyrain Cymru a phobl o Gymoedd Cymru ac o bob cwr. Wy ddim yn ffindo, o brofiad, fod monopoli gyda un ardal ar weithredu uniongyrchol :winc:

Digwydd bod, ar y pwnc yma, oni'n timlo fod y neges wreiddiol braidd yn ymosodol pan fo blaenoriaethau eraill yn bodoli, a pheintio pwysicach, os lici di, a gwahanol weithredu pwysicach iw wneud na rhoi ail got o baent i furlun.

Dyna pam y bu i mi gynnig dy fod ti Kymro yn ei wneud os oedd yr amser gyda ti.

Os wyt ti mofyn paent neu sprei ma digon gyda fi yn y gegin i ti ac eraill ddefnyddio. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai