Mae cwmni TalkTalk - is gwmni i'r Carphone warehouse rwy'n credu - newydd fod ar y ffon yn cynnig gwasanaeth ffon a Broadband i ni.
Gofynais i'r gwr os oedden nhw'n gallu darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg - pethau syml megis biliau a chyfathrebu dros y ffon - a bu i mi gael fy nhrosglwyddo iw reolwr, a meddai yntau beth bynnag y gall BT wneud ei fod yn argyhoeddiedig y gallan nhw wneud hefyd a hynny'n rhatach.
Efallai fod gobaith - gyda fod nifer o fusnesau ac unigolion yn gwneud yr un cais y gallwn ni ddefnyddio ein grym masnachol i gael cwmni arall i weithredu yn ddwyieithog.