Tudalen 1 o 1

TalkTalk

PostioPostiwyd: Iau 08 Meh 2006 10:35 am
gan Cardi Bach
Mae cwmni TalkTalk - is gwmni i'r Carphone warehouse rwy'n credu - newydd fod ar y ffon yn cynnig gwasanaeth ffon a Broadband i ni.

Gofynais i'r gwr os oedden nhw'n gallu darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg - pethau syml megis biliau a chyfathrebu dros y ffon - a bu i mi gael fy nhrosglwyddo iw reolwr, a meddai yntau beth bynnag y gall BT wneud ei fod yn argyhoeddiedig y gallan nhw wneud hefyd a hynny'n rhatach.

Efallai fod gobaith - gyda fod nifer o fusnesau ac unigolion yn gwneud yr un cais y gallwn ni ddefnyddio ein grym masnachol i gael cwmni arall i weithredu yn ddwyieithog.

PostioPostiwyd: Mer 21 Meh 2006 9:04 pm
gan Dafydd Hywel
Paid a mentro i Talk Talk. Dw i newydd adael Onetel, sef yr un cwmni a TalkTalk ar ol 2 flynedd o "Hell".

Wyt ti yn nabod rhywun o India sydd yn siarad Cymraeg?

PostioPostiwyd: Sul 09 Gor 2006 9:49 pm
gan y mab afradlon
daeth talk tlk i'r drws rhyw flwyddyn yn ol yn cynnig gwasanaeth ffon i fi.

Ydych chi'n hala biliau yn Gymraeg? medde fi?

Pam? medde fe. Y'ch chi'n siarad Saesneg nag y'ch chi?...

PostioPostiwyd: Gwe 16 Chw 2007 3:55 pm
gan S.W.
Newydd gael yr un alwad yn fy ngwaith wan a ges di Cardi. Wedi cytuno i fynd ymlaen ar yr amod eu bod yn wir yn gallu cynnig gwasnaeth dwyieithog, mae nhw wedi ganddo gallan nhw wneud hynny.

Cawn weld....

PostioPostiwyd: Sad 17 Chw 2007 8:59 pm
gan Mihangel Macintosh
Ges i alwad gan 02 llynedd yn cynnig handset neewydd, 3 miliwn o tectsys y mis am ddim, bla bla bla.

Stopiais y gwr a gweud y byddwn ni a diddordeb os gai siarad gyda siaradwr Cymraeg.

Pasiodd fi ymlaen i'r rheolwr llinell. Dywedodd e nad oedd siaradwr Cymraeg ar gael.

Gofynais iddo os oedden nhw yn darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Dywedodd ei bod.

Gofynais iddo os oedden nhw yn darparu biliau, gwasnaeth cwsmeriaid a gohebiaith yn y Gymraeg.

"Wrthgwrs" dywedodd.

Sut, felly, gofynais nad oedd neb yna ar gael i siarad Cymraeg gyda fi?

Nid oedd ganddo ateb i hyn a dywedodd wrthai am ffonio rhif 02 arall...

felly, fe all Talk Talk fod yn dweud celwydd er mwyn cael cwsmeriaid. Ond ar y llaw arall, efallau ei bod yn bwriad darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Fe gawn weld.

PostioPostiwyd: Sul 18 Chw 2007 12:29 pm
gan S.W.
Mi ddywedodd TalkTalk wrthaf i "Os ydy BT yn neud o, mi rydym ni'n gaddo neud o".

Fel ddudis i, cawn weld. Mae rhan ohonai'n disgwyl derbyn rhywbeth wedi'i gyfieithu trwy rhyw raglen oddi ar y we.

Ond wrach gai fy siomi ar yr ochr orau.

Re: TalkTalk

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 3:20 pm
gan løvgreen
Be ddigwyddodd efo hyn te? Dwi newydd ofyn yr un peth wrth rywun ar y stepen drws, ac ar ol ffonio i holi fe gadarnhaodd hi y gall TalkTalk roi gwasanaeth bilio yn Gymraeg.

Gawsoch chi'ch biliau yn Gymraeg?

Re: TalkTalk

PostioPostiwyd: Maw 12 Ebr 2011 8:26 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ddaru fi gwglo "talk talk" a chael o hyd i'r cwmni. Chwiliais i am "cymraeg" ond ddaeth dim byd i fyny - o fewn Talk Talk (beth oedd yr hit cyntaf - "Learn Welsh with S4C" os dwi'n cofio'n iawn). Clwddgwn?