Taflu allan o dafarn Dinbych achos siarad Cymraeg...

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 27 Mai 2007 4:31 pm

Dwi'n credu nad yw'r stori yn wir. Er dwi rioed yn bersonol di bod yn y Kings Arms pan roeddwn ni adref, felly dwi ddim yn gwybod sut fath o le yw hi.

Wrth ddweud hynny, roeddwn yn edrych ar y wefan Denbighweb ar y tafarndai sydd yna. Dwi'n gwybod bod na tair ohonynt wedi'w cau lawr, ar ol i nhw canfod y perchennog wedi crogi ei hun mewn un o'i dafarndai. :ofn:

Mae pethau yn Dinbych wedi mynd lawr yn ddiweddar. Mi es am dro cwpl o fisoedd yn ol ac wedi syfrdannu pa mor wael ma pethau yn edrych i'r lle. Mae siopau canol dref wedi bod yn stryglo ers blynyddoedd.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan S.W. » Llun 28 Mai 2007 7:41 am

Does wbod os dio'n wir neu beidio. Fy nghefnder ddudodd wrthai mae'r Kings oedd yn gyfrifol, a mae o di bod yn deud wrth bawb yn ei waith i beidio a mynd ar gyfyl y lle. Mae'r gwr sydd bia'r Kings yn Gymro Di Gymraeg o Abertawe mae'n debyg ond y teulu wedi symud yma o Ormskirk. Dwi wedi bod yno o'r blaen yn siarad Cymraeg a heb gael unrhyw helynt ond does wbod be sydd wedi digwydd i eraill.

Mae'n lle digon rough rhaid dweud. Oedd on ddadfail am rhyw 5 mlynedd oedd on rough cyn hynny ac ymddengys bod ye hen clientel wedi dod nol allan o'r gwaith coed wan bod y lle di ail agor.

A Madrwyddygryf, mae'r Eagles a'r Vaults bellach wedi ail agor. Newid trawiadol er gwell yn yr Eagles, oeddwn i yno ddoe a ges i sioc. Dim ond y Crown sydd dal ar gau. Mae nhw'n trio cael caniatad cynllunio i droi'r lle'n fflats ond mae'n edrych yn eitha tebygolgeith hwnne ei wrthod.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Llyfwr Pwdin Blew » Llun 11 Meh 2007 9:08 am

Dywedodd ffrind imi bod ei dad wedi bod yn yfed yn dafarn y Kings pan ddigwyddodd hyn, ac oherwydd y Gymraeg cafodd y 2 berson eu taflu allan.

A pwynt arall hoffwn ei wneud am rhan arall o erthygl y Free Press:

Denbigh High School has come under the spotlight after former deputy head teacher Einir Owen claimed the education site was depriving pupils
of the skills to live in a bi-lingual culture.

The school issued a statement revealing that the level of Welsh taught was greater than any other English medium school in the county, but there had been a slight reduction in the teaching of Welsh at Key Stage Four due to budget pressures.

Cllr Hughes called for every effort to be made to help youngsters learn Welsh to encourage them to stay and work in the area

"We do want to equip our children to stay around here, otherwise they will go over the border," he said.

But Cllr Emrys Williams called for the council not to be quick in criticising the school's reduction in Welsh teaching on the back of budget pressures.

He added: "Cllr Raymond Bartley and myself are governors of that school, there has been some changes in Welsh teaching. I can't condemn them but I think we should be saying we are a bit concerned as a town council."


Lle ddiawl mae arweiniad y Blaid Lafur ar hyn oll?
Os ydy nhw o ddifri am 'iaith pawb', dylai pob ysgol Saesneg ei hiaith yng Nghymry ddysgu Cymraeg i lefel derbyniol, gan gychwyn dysgu o oedran ifanc os oes rhaid. Nid hawl yr ysgolion i benderfynu ar bolisi dylai fod!

Ni fyddai'n dderbyniol i unrhyw ysgol ostwng eu lefelau dysgu o Saesneg neu mathemateg, felly sut bod hi'n dderbyniol trin y Gymraeg fel gwers rhydd di-angen, pan all hyn effeithio dyfodol y plant wrth iddynt ymgeisio am swyddi yn y dyfodol?

Mae ysgol Brynhyfryd, Rhuthun hefyd a polisi Cymraeg ail iaith gwarthus ar gyfer plant sydd ddim yn dod o aelwyd Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Llyfwr Pwdin Blew
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 239
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 10:43 am
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan S.W. » Llun 11 Meh 2007 11:44 am

Llyfwr Pwdin Blew a ddywedodd:Dywedodd ffrind imi bod ei dad wedi bod yn yfed yn dafarn y Kings pan ddigwyddodd hyn, ac oherwydd y Gymraeg cafodd y 2 berson eu taflu allan.

A pwynt arall hoffwn ei wneud am rhan arall o erthygl y Free Press:

Denbigh High School has come under the spotlight after former deputy head teacher Einir Owen claimed the education site was depriving pupils
of the skills to live in a bi-lingual culture.

The school issued a statement revealing that the level of Welsh taught was greater than any other English medium school in the county, but there had been a slight reduction in the teaching of Welsh at Key Stage Four due to budget pressures.

Cllr Hughes called for every effort to be made to help youngsters learn Welsh to encourage them to stay and work in the area

"We do want to equip our children to stay around here, otherwise they will go over the border," he said.

But Cllr Emrys Williams called for the council not to be quick in criticising the school's reduction in Welsh teaching on the back of budget pressures.

He added: "Cllr Raymond Bartley and myself are governors of that school, there has been some changes in Welsh teaching. I can't condemn them but I think we should be saying we are a bit concerned as a town council."


Lle ddiawl mae arweiniad y Blaid Lafur ar hyn oll?
Os ydy nhw o ddifri am 'iaith pawb', dylai pob ysgol Saesneg ei hiaith yng Nghymry ddysgu Cymraeg i lefel derbyniol, gan gychwyn dysgu o oedran ifanc os oes rhaid. Nid hawl yr ysgolion i benderfynu ar bolisi dylai fod!

Ni fyddai'n dderbyniol i unrhyw ysgol ostwng eu lefelau dysgu o Saesneg neu mathemateg, felly sut bod hi'n dderbyniol trin y Gymraeg fel gwers rhydd di-angen, pan all hyn effeithio dyfodol y plant wrth iddynt ymgeisio am swyddi yn y dyfodol?

Mae ysgol Brynhyfryd, Rhuthun hefyd a polisi Cymraeg ail iaith gwarthus ar gyfer plant sydd ddim yn dod o aelwyd Gymraeg.


Dim cweit yn wir mae arnai ofn. I'r ysgol yno fuais i, ac yn sgil y ffraeo ynglyn a phenderfyniad Ysgol Uwchradd Dinbych i beidio chynng Cymraeg Iaith Gyntaf bellach mae un neu ddau o lythyrau yn y Denbighshire Free Press di bod yn cwyno am Brynhyfryd hefyd.

Ond, yn Ysgol Brynhyfryd mi oedd gennyt ti ddau 'form' Cymraeg ymhob blwyddyn - h.y. mi oedden ni'n neud pob pwnc yn Gymraeg oni bai am y rhai oedd yn dewis neud Mathematics a Science yn lle Mathemateg a Gwyddoniaeth. Roedd y 'forms' yma yn cynnwys pobl o aelwydydd Cymraeg, dwyieithog a diGymraeg. Roedd pob un ohonom yn y dosbarthiadau hyn, ag eithrio 1 neu 2 yn siarad Cymraeg trwy'r amser - yn wahanol i sawl ysgol uwchradd Cymraeg yn anffodus!

Doedd dim polisi wedi ei seilio ar iaith dy aelwyd di yn sicr. Dwi wedi gadael yno ers 6 mlynedd ond mi oedd genai deulu yno (a dan ni i gyd yn Gymry Cymraeg) tan llynedd a doedd dim son o polisi o'r fath.

Iaith yr ysgol gynradd oedd yn penderfynu os oeddech chi'n mynd i'r fforms yma neu beidio nid iaith eich aelwyd.

Mi oedd yna hefyd dosbarth ar gyfer dysgwyr da - pobl oedd efallai o aelwydydd oedd yn gallu siarad Cymraeg ond heb dderbyn llawer o addysg Gymraeg yn yr ysgol Gynradd.

Dyma ble oedd y methiant - mi oedd y rhai yma wedyn yn troi allan i fod yn fwy Saesneg na Chymraeg o ran eu defnydd o'r iaith. Yn bersonol dwi'n credu y dylsai'r fform yma dim ond wedi bodoli am dymor cyntaf yr ysgol uwchradd fel modd o pontio rhwng addysg cynradd ail iaith ac addysg uwchradd cyfrwng Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 12 Meh 2007 9:42 am

Llyfwr Pwdin Blew a ddywedodd:Lle ddiawl mae arweiniad y Blaid Lafur ar hyn oll?
Os ydy nhw o ddifri am 'iaith pawb',


AC Llafur a ddywedodd:"Iaith Pawb" di Saesneg. Tria ddallt.
:winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Re: Taflu allan o dafarn Dinbych achos siarad Cymraeg...

Postiogan Alarth » Iau 03 Gor 2008 7:54 pm

Sut nad yw digwyddiad fel hyn yn anghyfreithlon?
Alarth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Mer 28 Mai 2008 9:59 pm

Re: Taflu allan o dafarn Dinbych achos siarad Cymraeg...

Postiogan LLewMawr » Iau 28 Awst 2008 4:49 pm

wel dyma esiample wych o beth mae imegresion yn wneud i Gymru, mae rhywbeth yn niwylliant y saes sy'n gwrth unrhyw iaith da nhw ddim yn deall. wrth gwrs mae'r diwylliant yma yn gael ei drosglwyddo i nifer o gymry di-gymraeg sydd wedyn yn wneud gwaith y saes drostyn nhw. blydi bradwrod.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Taflu allan o dafarn Dinbych achos siarad Cymraeg...

Postiogan GutoRhys » Sad 30 Awst 2008 7:47 pm

O ni wedi clywed mae'r Kings oedd hi hefyd, felly es i a fy ffrind i fewn i sgwrsio o flaen y bar ar nos wener yn gymraeg. Yn amlwg dim y perchnogion oedd yno
ac i fod yn onest dwi'n meddwl cymraeg/digymraeg roedd nhw'n falch i weld dau arall yno am ei bod bron yn wag.
Rhithffurf defnyddiwr
GutoRhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 192
Ymunwyd: Iau 10 Chw 2005 7:23 pm
Lleoliad: Fry yn y ne, neu ar y llawr

Re: Taflu allan o dafarn Dinbych achos siarad Cymraeg...

Postiogan celt86 » Sul 31 Awst 2008 6:37 pm

Scouse land di Clwyd...
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron