gan Horwth ap Ffrwchnedd » Sul 08 Gor 2007 9:21 am
Tybed a fyddai'n syniad llunio set o feini prawf yn gyntaf a mesur gwasanaeth pob banc yn eu herbyn e.e. gwasanaeth cownter yn y gangen yn Gymraeg, peiriannau arian yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg, bancio dros y we yn y Gymraeg, gwasanaeth dros y ffôn yn Gymraeg etc. - byddai modd dweud yn weddol wrthrychol pwy sy' cynnig y gwasanaeth gorau, a byddai mwy o hygrededd i'r wybodaeth
Ond, ar ôl bod yn gadarnhaol....mae rhai sectorau e.e. ffonau symudol yn ddi-Gymraeg ar draws y sector i bob pwrpas, rhyw fath o cartel ieithyddol. Beth petai cmwniau A B C D i gyd yn gwrthod darparu unrhyw wasanaeth yn Gymraeg, ond mae D, sy gyda'r gwaethaf o ran gwasanaeth yn gyffredinol ac yn ddrud iawn ar ben hynny, yn penderfynu, am ryw reswm od, falle paned a sgonsen yn y Bwrdd, gwneud un consesiwn bach e.e. rhoi rhai taflenni dwyieithog yn rhai o'u siopau. Faint o bobl sy'n debygl o adael eu darparwyr dibynadwy a rhad (di-Gymraeg) i fynd drosodd at gwmni annibynadwy a drud jest achos bod nhw'n dapraru ychydig o daflenni yn Gymraeg? Nue a ddylen ni fod yn perswadio pobl i gael gwared o'u ffonau symudol yn llwyr?
Beth am fanc sy'n cynnig lot o bethau yn Gymraeg ond buddsoddi mewn busnesau doji yn foesegol ac yn cynnal llywodraethau gorthrymus? Mae'n ddigon teg tynnu sylw pobl at faint o wasanaeth Cymraeg a gaiff dyn gyda chwmniau penodol er mwyn i bobl 'fod ym meddiant yr holl ffeithiau' cyn penderfynu, ond i'r rhan fwyaf dim ond un ffactor ymhlith llawer fydd y Gymraeg.
Pwynt arall yw hyn...os yw carfan sylweddol o bobl yn symud o ddarparwyr A B a C i D, ond nad yw'r nifer yn sylweddol o ran pob cwmni yn unigol, fel all cwmniau A B a C benderfynu nad yw'n werth iddyn nhw wario ar y Gymraeg jest er mwyn ychydig o filoedd, ac aros yn uniaith Saesneg ac felly yr un 'dewis' sydd gan bobl sy'n frwd dros y Gymraeg yw 'D'. Er hynny, bydd y Bwrdd a'i ffrindiau yn gallu dweud, 'Chi'n gweld, mae perswad yn gweithio...mae'r defnyddwyr yn chwarae'r farchnad yn llwyddiannus'. Dyma i raddau yw'r sefyllfa gyda nwy a thrydan, dim ond Nwy Prydain a Swalec/Manweb sy'n cynnig unrhyw fath o wasanaeth yn Gymraeg, dyw'r cmwniau eraill ddim wedi cael eu temtio i bysgota'u cwsmeriaid ar sail y Gymraeg. Gyda chmwniau mawr, dw i ddim yn argyhoeddedig bod y farchnad 'Gymraeg' yn ddigon grymus i fod â dylanwad, ond gobeithio fy mod yn anghywir!
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>