Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 12:53 pm
gan Aran
HuwJones a ddywedodd:Oes siawns i Gadw Cwmni a Dime Goch dod at eu gillyd i greu rhywbeth mwy?


Efallai byddai cydweithio lle bod modd yn fwy ymarferol - a dw i'n siwr y digwyddith hynny...:D

Diolch i Jac a Horwth am eu pwyntiau diddorol. Bydd llawer, wrth gwrs, yn dibynnu ar faint o bobl wneith gefnogi DimeGoch.com - os bydd rhoi pob ceiniog yn ôl i fewn i hysbysebu yn galluogi'r prosiect i gyrraedd rhyw fath o 'critical mass', yna pwy a wyr?

PostioPostiwyd: Llun 19 Tach 2007 11:02 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: DimeGoch.com - Prynu ar y cyd er mwyn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 07 Awst 2008 4:42 pm
gan Aran
Diolch i'r stondinau sydd yn dosbarthu taflenni DimeGoch.com yn y Steddfod, sef: Cymdeithas yr Iaith, Cymuned, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Cronfa Glyndwr, Tŷ Newydd, a Kathy Gittins...:D

Mae 10,000 o daflenni bellach wedi'u hargraffu. Byddai'n braf iawn eu gweld ar gael mewn siopau gwahanol (a llefydd cymunedol eraill) trwy Gymru gyfan.

Os ydych chi'n fodlon gofyn wrth siopau ayyb yn lleol i chi eu dosbarthu (neu os fyddech chi'n barod i ddosbarthu rhai i'ch teulu a ffrindiau), anfonwch ebost at gwas[at]dimegoch.com, ac mi gewch hynny o daflenni dach chi isio...:D