Welsh is a dying language!

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 14 Chw 2008 10:14 pm

Wel, a chithau meddwl fod gennych broblemau yng Ngymru! Ar hyn o bryd rydw i' wrthi'n dysgu Gaeleg, gan mod i'n byw yn Nheyrnas Ffeiff. Efallai tipyn fel y Drenewydd - does dim lot o Aeleg yn Ffeiff (ac, dro diwetha i mi fynd yno, doedd na ddim lot o Gymraeg yn y Drenewydd). Ond o leiaf mae na arwyddion dwyieithol yn y Drenewydd, ymddengys fod na ysgol uwchradd efo ffrwd Cymraeg - ac ymlaen. Yna yn Ffeiff does na ddim un arwydd efo Gaeleg arno, does na ddim un ysgol sy'n darparu Gaeleg - hyd yn oed yn yr un ffasiwn a Ffrangeg, Sbaeneg ayb.

Eniwe, dydw i ddim yn sicr am arwyddion dwyieithol. Os ysych chi'n mynd i Wlad Belg, rydych chi'n gweld arwyddion unieithol ymhobman - ac eithrio Brwssel ei hun - hanner y wlad yn y Ffrangeg a'r hanner arall yn y Fflemeg. Beth am drefnu profiad rhywle yng Nghymru, rhywle sy'n cynnwys priffordd lle bydd teithwyr o bob man yn mynd, a chael arwyddion uniaith Cymraeg yno?

Croeso o Deyrnas Ffeiff - Fàilte à Rìoghachd Fìobha - ac beth bynnag ydy o yn hen iaith y Pictiaid.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan Positif80 » Iau 14 Chw 2008 10:53 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Wel, a chithau meddwl fod gennych broblemau yng Ngymru! Ar hyn o bryd rydw i' wrthi'n dysgu Gaeleg, gan mod i'n byw yn Nheyrnas Ffeiff. Efallai tipyn fel y Drenewydd - does dim lot o Aeleg yn Ffeiff (ac, dro diwetha i mi fynd yno, doedd na ddim lot o Gymraeg yn y Drenewydd). Ond o leiaf mae na arwyddion dwyieithol yn y Drenewydd, ymddengys fod na ysgol uwchradd efo ffrwd Cymraeg - ac ymlaen. Yna yn Ffeiff does na ddim un arwydd efo Gaeleg arno, does na ddim un ysgol sy'n darparu Gaeleg - hyd yn oed yn yr un ffasiwn a Ffrangeg, Sbaeneg ayb.

Eniwe, dydw i ddim yn sicr am arwyddion dwyieithol. Os ysych chi'n mynd i Wlad Belg, rydych chi'n gweld arwyddion unieithol ymhobman - ac eithrio Brwssel ei hun - hanner y wlad yn y Ffrangeg a'r hanner arall yn y Fflemeg. Beth am drefnu profiad rhywle yng Nghymru, rhywle sy'n cynnwys priffordd lle bydd teithwyr o bob man yn mynd, a chael arwyddion uniaith Cymraeg yno?

Croeso o Deyrnas Ffeiff - Fàilte à Rìoghachd Fìobha - ac beth bynnag ydy o yn hen iaith y Pictiaid.


Jest i fynd off-messge am eiliad, oes enghreifftiau o iaith y Pictiaid i'w gael yn rywle? Wrth son am hanes Prydain, mae pobl yn tueddol o son am y Pictiaid, ac yna mynd ymlaen i'r Celtiaid a'r Rhufeiniaid ayyb.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 15 Chw 2008 8:49 pm

Bydda i'n ceisio dechrau pwnc am Iaith y Pictiaid yn "ieithoedd eraill" ymhen dipyn.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan mabon-gwent » Gwe 21 Maw 2008 8:52 pm

Dyw'r Gymrâg ddim yn mynd i farw, ych chi'n gallu gweld e'n tyfi eto yn Sir Drefynwy.

Y problem yw yn Bro Hwntw (Y Dde, os mae'r gogledd wedi cymryd yr enw y bro cymraeg) mae llawer o bobl yn casáu'r iaith. Dyw y rheini ddim yn bobl â rhieni cymreig, neu hanes cymreig yn eu teulu, maen nhw'n bobl sy wedi symud mewn. Wrth gwrs dyn nhw ddim yn gweld pwynt amddiffyn yr iaith, maen nhw'n hapus yn defnyddio'r saesneg bob tro.

Wi ddim yn gweud bod y Cymry isio dysgu a'r saison ddim, mae lot o'r cymry ddim yn lico eistedd yn ngwersi cymrâg am awr bob wythnos. Y gwahaniaeth yw, hoffai'r cymry siarad y gymrâg mewn byd perffaith (nid mynd i'r trwbwl o ddysgu ond dyma ni) ac dyw'r saison ddim. Yn gweud hwn mae lot o oedolion saesnig yn dysgu'r iaith, yn gweld mae'n bwysig i weithio yng Nghymru, gawn ni weld am eu plant.

Dyna'r sefyllfa yn Sir Drefynwy unrhyw ffordd.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan Gari Mynach » Sad 22 Maw 2008 12:10 am

Dwi wedi newydd ddechrau cadw cysylltiad gyda hen ffrind wnaeth adael ysgol i fynd i coleg. Mae hi am ddechrau siarad Cymraeg eto felly rydw i'n siarad efo hi ar Bebo yn Gymraeg. Mae'na rywun dwi wedi gweld o gwmpas, enwog gan ei fod yn stoned bob dydd, wedi gadael sylwad yn dweud: hello. sut wyt i? lmfao

:rolio:

Pan mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg mewn ffordd eironig mae'n mynd ar fy nerfau. Er mewn ffordd mae'n dangos fod yr iaith ddim yn marw oherwydd mae'n gwybod gymaint a hynny o Gymraeg er mi fysai o yn meddwl fod yr iaith yn marw siwr o fod.
Gari Mynach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Gwe 21 Maw 2008 9:21 pm

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron