Wel, a chithau meddwl fod gennych broblemau yng Ngymru! Ar hyn o bryd rydw i' wrthi'n dysgu Gaeleg, gan mod i'n byw yn Nheyrnas Ffeiff. Efallai tipyn fel y Drenewydd - does dim lot o Aeleg yn Ffeiff (ac, dro diwetha i mi fynd yno, doedd na ddim lot o Gymraeg yn y Drenewydd). Ond o leiaf mae na arwyddion dwyieithol yn y Drenewydd, ymddengys fod na ysgol uwchradd efo ffrwd Cymraeg - ac ymlaen. Yna yn Ffeiff does na ddim un arwydd efo Gaeleg arno, does na ddim un ysgol sy'n darparu Gaeleg - hyd yn oed yn yr un ffasiwn a Ffrangeg, Sbaeneg ayb.
Eniwe, dydw i ddim yn sicr am arwyddion dwyieithol. Os ysych chi'n mynd i Wlad Belg, rydych chi'n gweld arwyddion unieithol ymhobman - ac eithrio Brwssel ei hun - hanner y wlad yn y Ffrangeg a'r hanner arall yn y Fflemeg. Beth am drefnu profiad rhywle yng Nghymru, rhywle sy'n cynnwys priffordd lle bydd teithwyr o bob man yn mynd, a chael arwyddion uniaith Cymraeg yno?
Croeso o Deyrnas Ffeiff - Fàilte à Rìoghachd Fìobha - ac beth bynnag ydy o yn hen iaith y Pictiaid.