Welsh is a dying language!

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Welsh is a dying language!

Postiogan xxglennxx » Llun 05 Tach 2007 4:50 pm

Reit, dwi’n gwybod cafodd y pwnc hon ei godi cyn nawr (falla), ond pan mae pobl yn deud honna wrtha i, dwi wedi stympio fel beth i ddeud yn ôl. Ges i’r sgwrs hon efo un o’m ffrindiau i (sy’n Sais), a phobl eraill (sy ddim yn siarad Cymraeg), a dwi go wir ddim yn gwybod be i ddeud yn ôl. Ddwedodd o “Welsh is a dying language, and it’s going to be extinct before to long.” Ond wedyn, triais i ddeud wrtho fo pe tawn ni yn y Gogledd, byddwn ni ddim yn cael y sgwrs hon, oherwydd mae rhaid i di ei weld yn y lle ti’n siarad amdano – oherwydd does na ddim lawer o bobl yn y Dde sy’n siarad Cymraeg, a mae’n yr iaith gyntaf o’r Gogledd. A dwedais i “It’s because of people like you that the Welsh language will die out, because not enough of our generation speak it consciously. If Wales didn’t speak Welsh, it would be just another part of England. And I strongly believe that people in Wales should speak Welsh. Everyone.” Hefyd, pan mae pobl yn deud “Why should the government spend thousands of pounds on things like bilingual road signs and translation when only about 50% of Wales speaks Welsh?” A dwi bob amser yn deud yn ôl “Because they have a f*****g obligation to because we live in Wales where we have a dual nationality and language. (er sai’n cytuno efo hyn)”

Beth ydi eich barnau chi am y dyfodol yr iaith? Dach chi’n meddwl bydd yr iaith yn farw os byddi hi ddim yn cael ei siarad? Beth dach chi’n deud wrth pobl pan maen nhw’n gofyn chwestiynau fel hynny?
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan m.c.macrall » Mer 07 Tach 2007 10:01 am

xxglennxx a ddywedodd:Why should the government spend thousands of pounds on things like bilingual road signs and translation when only about 50% of Wales speaks Welsh?


Yn sylfaenol yr ydym ni y siaradwyr Cymraeg (sydd yn oleiaf 20% o boblogaeth y wlad) hefyd yn talu trethi. Felly mae gennym hawl i ddisgwyl gwariant ar yr iaith a gwasanaethau trwy'r Gymraeg. Os rhywbeth ni sydd ddim yn cael gweth ein trethi.
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 1:02 pm

Postiogan Jon Bon Jela » Mer 07 Tach 2007 10:29 am

Dwi'n meddwl bod yr iaith Gymraeg yn ffab, ond alla' i ddim dioddef y rhan fwyaf o Gymry. Ffaith trist.

Peth arall sy'n fy nghynddeiriogi yw pobl yn gwneud randibw bod yr iaith o dan fygythiad yn ei chadarnleoedd, ac mai dyma'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r iaith Gymraeg.

Bolycs.

Y broblem fwyaf yw safon yr iaith a siaredir gan y rhan fwyaf o bobl iaith cyntaf. Mae ond rhaid i chi wylio rhifyn o Bandit i wybod am beth dwi'n sôn. Roedd rhywbeth eithaf torcalonnus o fod mewn dosbarth prifysgol yn llawn o Gymry iaith cyntaf a nhwythau ddim hyd yn oed yn gallu dweud pethau sylfaenol fel 'penwythnos', 'pum punt', 'gwenu', 'tri o'r gloch' a nifer o ymadroddion pob dydd syml yn Gymraeg. A'r rheiny oedd yn weithredol gyda Chymdeithas yr Iaith ayb :rolio:

Dw i o'r farn y dylid siarad iaith yn gywir neu beidio â'i siarad o gwbl. Mae'r gystrawen Gymraeg, yr arddodiaid ac idiomau yn brysur ddiflannu o'r iaith, ac mae'r rhan fwyaf o Gymry yn siarad Saesneg gyda geiriau Cymraeg erbyn hyn.

Dwi'n parchu'r ffaith bod ieithoedd yn newid - dyna sut mae ieithoedd yn gweithio - ond pan dwi'n clywed safon iaith cynddrwg ymhlith pobl iaith gyntaf, dwi wir yn dechrau cwestiynu 'a oes pwynt' i'r holl beth.
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 07 Tach 2007 10:50 am

Jon Bon Jela a ddywedodd:pan dwi'n clywed safon iaith cynddrwg ymhlith pobl iaith gyntaf, dwi wir yn dechrau cwestiynu 'a oes pwynt' i'r holl beth.


Diddorol. Mi fedra'i bin-pointio'r ecsact funud pan benderfynnish i gyfamodi efo'm hunaniaeth fel person a fagwyd yn siarad y Gymraeg: nid dim a ddywedwyd gan y Gymdeithas; nid ryw hen gerdd; nid lansiad S4C ... ond clywed Twm Morys yn odli "hen oferols" efo "clamp o gi misgrall yn llyfu ei fols", ac mi feddylish "Ia, dyna chdi pam dwisho siarad Cymraeg."

Wythnos nesaf fe fydd Jon Bon Jela yn trafod ei lyfr newydd "Its, Rwt's a Lifs" gyda John Humphreys a'r boi od yna o Dde Affrica sydd eisiau creu heddlu gramadeg o fewn y BiBiSi.

[golygwyd oherwydd sbelio a crap gramadeg]
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Jon Bon Jela » Mer 07 Tach 2007 10:56 am

Gei di gopi wedi'i lofnodi wrtho'i, calon. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Macsen » Mer 07 Tach 2007 11:08 am

Dwi'n cytuno gyda Jon Bon Jela! :ofn:

Falle bod Rooney yn iawn, a bod y byd yn dod i ben.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan huwwaters » Mer 07 Tach 2007 11:54 am

xxglennxx a ddywedodd:Hefyd, pan mae pobl yn deud “Why should the government spend thousands of pounds on things like bilingual road signs and translation when only about 50% of Wales speaks Welsh?” A dwi bob amser yn deud yn ôl “Because they have a f*****g obligation to because we live in Wales where we have a dual nationality and language. (er sai’n cytuno efo hyn)”


Wel, fel sydd wedi cael ei nodi'n barod mae siaradwyr Cymraeg yn gorfod talu trethi yn ogystal, felly mae gofyn am bethau syml yn ymwneud â thanadeiledd y wlad yn gorfodol.

A cyn iddyn nhw fynd ymlaen am y gost, mae'r wlad i'w weld efo digon i'w wastraffu ar ryfeloedd a cadw trident, a peidio casglu trethi corfforaeth gan nifer o gwmnioedd mawrion sy'n rhedeg o fewn y wlad. Dwi'n meddwl fod gofyn am haenen o fetel gyda feinyl arno ddim yn gofyn lot.

Dwi'n meddwl bod yr iaith Gymraeg yn ffab, ond alla' i ddim dioddef y rhan fwyaf o Gymry. Ffaith trist.

Peth arall sy'n fy nghynddeiriogi yw pobl yn gwneud randibw bod yr iaith o dan fygythiad yn ei chadarnleoedd, ac mai dyma'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r iaith Gymraeg.


Cytuno. Nid hwn yw'r broblem ond rhieni gwan sy'n cyfaddawdu i siarad Saesneg o hyd ar yr aelwyd. Nifer o rieni sy'n siarad Cymraeg yn priodi rhiant sy'n siarad Saesneg. Saesneg fydd iaith yr aelwyd y mwyafrif o'r amser i'r mwyafrif yn y sefyllfa yma. Mae fy chwaer fel athrawes ysgol yn gweld hyn o hyd. Rhiant yn siarad Saesneg efo'i blant er ei fod yn Gymraeg iaith gyntaf, oherwydd maent wedi arfer siarad Saesneg efo'i gilydd o flaen y rhaint arall gartref.

Y broblem fwyaf yw safon yr iaith a siaredir gan y rhan fwyaf o bobl iaith cyntaf. Mae ond rhaid i chi wylio rhifyn o Bandit i wybod am beth dwi'n sôn. Roedd rhywbeth eithaf torcalonnus o fod mewn dosbarth prifysgol yn llawn o Gymry iaith cyntaf a nhwythau ddim hyd yn oed yn gallu dweud pethau sylfaenol fel 'penwythnos', 'pum punt', 'gwenu', 'tri o'r gloch' a nifer o ymadroddion pob dydd syml yn Gymraeg. A'r rheiny oedd yn weithredol gyda Chymdeithas yr Iaith ayb


Fel un sy'n siarad efo'r bobol yma, ac eraill o bryd i'w gilydd dwi wedi cywiro un o'u geiriau Saesneg - gair sydd ddim ar ddefnydd bob dydd, ond dal yn bwysig mewn geirfa rhyw un - dwi'n derbyn "sut ti'n gwbad hwne?" (wedi hyd yn oed derbyn "ti rhy Gymraeg" !) ac yn gorfod egluro fod o'n neud synnwyr fy mod yn gwybod os dwi am alw fy hun yn rhugl. Tydio ddim yn neud synnwyr bod pobol yn gwbad gair yn y Saesneg ond ddim yn y Gymraeg. Mae'r codi'r pwynt wnaeth Sais gyda fi, fod nifer o'r siaradwyr Cymraeg - Cymraeg yw'r mamiaith, ond nid y iaith gyntaf bellach.

Dw i o'r farn y dylid siarad iaith yn gywir neu beidio â'i siarad o gwbl. Mae'r gystrawen Gymraeg, yr arddodiaid ac idiomau yn brysur ddiflannu o'r iaith, ac mae'r rhan fwyaf o Gymry yn siarad Saesneg gyda geiriau Cymraeg erbyn hyn.


Cytuno'n llwyr efo hwn. Byse Emrys ap Iwan yn falch ohonat.

Wikipedia - Emrys ap Iwan a ddywedodd:Gwawdiodd ei gyd-wladwyr am eu difaterwch tuag at yr iaith ac am ddynwared diwylliant a moesau Lloegr. Beirniadodd ddylanwad Saesneg ar ysgrifennu a phregethu ei gyfnod, gan annog ysgrifennwyr i ddefnyddio arddull plaen a naturiol Cymraeg. Dymunodd iddynt ddilyn enghraifft awduron clasurol yr Almaen, Lloegr a Ffrainc, oedd wedi datblygu eu ieithoedd hwythau yn eu dydd, yn enwedig y Ffrancod Blaise Pascal a Paul-Louis Courier. Gallai ei feirniadaeth fod yn llym, ond hefyd yn ddoniol, fel y dengys y cyngor canlynol ar sut i ddeall papurau newydd a chylchgronau Cymraeg:
Yn gyntaf oll, tynner allan yr holl eiriau llanw a'r holl ymadroddion chwyddedig; ac os bydd ar ôl hynny ryw nifer o eiriau'n aros ar y papur, troer hwynt o air i air, ac o sillaf i sillaf, i'r Saesneg. Hyn heb newid dim ar drefn y geiriau a wna Saesneg gweddol. Yna troer yr ymadroddion drachefn i'r Gymraeg yn ôl deddfau ac anian yr iaith. Fe welir oddi wrth hyn mai'r cwbl sy'n angenrheidiol tuag at ddeall Cymraeg newyddiadurol ydyw amser, amynedd, a gwybodaeth o'r Saesneg. (Erthyglau a llythyrau Emrys ap Iwan ii.110–11)


http://cy.wikipedia.org/wiki/Robert_Ambrose_Jones_%28Emrys_ap_Iwan%29

Dwi'n parchu'r ffaith bod ieithoedd yn newid - dyna sut mae ieithoedd yn gweithio - ond pan dwi'n clywed safon iaith cynddrwg ymhlith pobl iaith gyntaf, dwi wir yn dechrau cwestiynu 'a oes pwynt' i'r holl beth.


Pan fo iaith yn newid trwy ddatblygiad naturiol, nid ar raddfa fel sy'n cael ei weld yma ydyw.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan Jon Bon Jela » Mer 07 Tach 2007 12:49 pm

huwwaters a ddywedodd:
Cytuno. Nid hwn yw'r broblem ond rhieni gwan sy'n cyfaddawdu i siarad Saesneg o hyd ar yr aelwyd. Nifer o rieni sy'n siarad Cymraeg yn priodi rhiant sy'n siarad Saesneg. Saesneg fydd iaith yr aelwyd y mwyafrif o'r amser i'r mwyafrif yn y sefyllfa yma. Mae fy chwaer fel athrawes ysgol yn gweld hyn o hyd. Rhiant yn siarad Saesneg efo'i blant er ei fod yn Gymraeg iaith gyntaf, oherwydd maent wedi arfer siarad Saesneg efo'i gilydd o flaen y rhaint arall gartref.

.


Bydd yn ofalus IAWN gyda datganiadau fel hyn...
Dyma beth yw'r norm yng Nghymru i'r rhan fwyaf o blant Cymraeg, a chofia nad yw gwleidyddiaeth ieithyddol o bwysigrwydd mawr i rai teuluoedd mewn sefyllfaoedd tebyg. Ydy, mae'n anffodus mai'r Saesneg yw'r "dominant gene" ar yr aelwyd pan fo'r potensial i gael cartref gwbl ddwyieithog, ond mae yna ddwy iaith i Gymru. Y tric yw sut mae siarad y ddwy a'u cadw ar wahân ar yr un pryd, i leihau'r cynnydd mewn bratiaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Geraint » Mer 07 Tach 2007 1:27 pm

Ynlgyn a'r dirywiad yn iaith - ydi hyn yn beth newydd? Mae siaradwyr Cymraeg wedi bod yn defnyddio lot fawr o eiriau Saesneg tra'n siarad Cymraeg am amser hir. Ym mhobman. Dyw e ddim yn rhywbeth newydd. I rhyw raddau efallai fod safon nifer wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar nawr fod fwy o addysg ayb trwy y Gymraeg e.e. mwy o bobl yn dweud 'trwydded' yn lle 'leisans', newid i gyfri yng Ngymraeg yn lle Saeseng, fel roedd y rhan fwyaf arfer gwneud, y ffaith fod nifer o eiriau newydd wedi eu chreu ar gyfer y byd modern ayb ?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Jon Bon Jela » Mer 07 Tach 2007 1:36 pm

Geraint a ddywedodd:Ynlgyn a'r dirywiad yn iaith - ydi hyn yn beth newydd? Mae siaradwyr Cymraeg wedi bod yn defnyddio lot fawr o eiriau Saesneg tra'n siarad Cymraeg am amser hir. Ym mhobman. Dyw e ddim yn rhywbeth newydd. I rhyw raddau efallai fod safon nifer wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar nawr fod fwy o addysg ayb trwy y Gymraeg e.e. mwy o bobl yn dweud 'trwydded' yn lle 'leisans', newid i gyfri yng Ngymraeg yn lle Saeseng, fel roedd y rhan fwyaf arfer gwneud, y ffaith fod nifer o eiriau newydd wedi eu chreu ar gyfer y byd modern ayb ?


Cytuno. Does dim ots gyda fi os yw rhywun yn camdreiglo neu'n dweud "cutlery" yn lle "cyllellyddiaeth", ond alla' i ddim cyfiawnhau sgyrsiau fel y canlynol fel un Gymraeg.

"Aye, fi'n mynd i gael driving test fi ar y fourth of March am half past six. So ma' rhyw two weeks 'da fi i reviso. Gyda llaw, ti 'di 'neud essay ti ar T. H. Parry Williams 'to?"
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron