Geraint a ddywedodd:Ynlgyn a'r dirywiad yn iaith - ydi hyn yn beth newydd? Mae siaradwyr Cymraeg wedi bod yn defnyddio lot fawr o eiriau Saesneg tra'n siarad Cymraeg am amser hir. Ym mhobman. Dyw e ddim yn rhywbeth newydd. I rhyw raddau efallai fod safon nifer wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar nawr fod fwy o addysg ayb trwy y Gymraeg e.e. mwy o bobl yn dweud 'trwydded' yn lle 'leisans', newid i gyfri yng Ngymraeg yn lle Saeseng, fel roedd y rhan fwyaf arfer gwneud, y ffaith fod nifer o eiriau newydd wedi eu chreu ar gyfer y byd modern ayb ?
Dw i o'r farn bod safon Cymraeg siaradwyr 'rhugl' yn well nac y bu, a dydi'r defnydd o Saesneg (yn enwedig wrth ddod at bethau'n ymwneud â rhifau, yn bur rhyfedd) ddim yn beth newydd o gwbl. Mae fy Nain yn defnyddio llawer iawn o Saesneg pan fydd hi'n siarad Cymraeg (llawer mwy na mi - daeth hithau o aelwyd gwbl Gymraeg). Mae fy modryb, sydd dim ond newydd droi'n 60, yn mynnu bod fy nghenhedlaeth i yn siarad 'Cymraeg posh'.
Os clywch safon y Gymraeg yn rhai o ysgolion penodedig Cymraeg de Cymru mae'n eithriadol o isel (prin y gellir galw nifer o'r disgyblion yn iaith gyntaf - yn ôl fy mhrofiad i, cofiwch) ac yn hanner Saesneg. Ond o ran y Cymry iaith gyntaf mae'r safon yn gwella mymryn, er bod ffordd i fynd.
Dydi'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg iaith gyntaf yn sicr ddim yn siarad bratiaith, mae'n nhw'n siarad yr un Cymraeg y mae eu rhieni a'u neiniau a theidiau wedi gwneud ers blynyddoedd maith, a dw i fy hun yn meddwl fod pethau'n newid er gwell yn ara' deg.