xxglennxx a ddywedodd:Hefyd, pan mae pobl yn deud “Why should the government spend thousands of pounds on things like bilingual road signs and translation when only about 50% of Wales speaks Welsh?” A dwi bob amser yn deud yn ôl “Because they have a f*****g obligation to because we live in Wales where we have a dual nationality and language. (er sai’n cytuno efo hyn)”
Wel, fel sydd wedi cael ei nodi'n barod mae siaradwyr Cymraeg yn gorfod talu trethi yn ogystal, felly mae gofyn am bethau syml yn ymwneud â thanadeiledd y wlad yn gorfodol.
A cyn iddyn nhw fynd ymlaen am y gost, mae'r wlad i'w weld efo digon i'w wastraffu ar ryfeloedd a cadw trident, a peidio casglu trethi corfforaeth gan nifer o gwmnioedd mawrion sy'n rhedeg o fewn y wlad. Dwi'n meddwl fod gofyn am haenen o fetel gyda feinyl arno ddim yn gofyn lot.
Dwi'n meddwl bod yr iaith Gymraeg yn ffab, ond alla' i ddim dioddef y rhan fwyaf o Gymry. Ffaith trist.
Peth arall sy'n fy nghynddeiriogi yw pobl yn gwneud randibw bod yr iaith o dan fygythiad yn ei chadarnleoedd, ac mai dyma'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r iaith Gymraeg.
Cytuno. Nid hwn yw'r broblem ond rhieni gwan sy'n cyfaddawdu i siarad Saesneg o hyd ar yr aelwyd. Nifer o rieni sy'n siarad Cymraeg yn priodi rhiant sy'n siarad Saesneg. Saesneg fydd iaith yr aelwyd y mwyafrif o'r amser i'r mwyafrif yn y sefyllfa yma. Mae fy chwaer fel athrawes ysgol yn gweld hyn o hyd. Rhiant yn siarad Saesneg efo'i blant er ei fod yn Gymraeg iaith gyntaf, oherwydd maent wedi arfer siarad Saesneg efo'i gilydd o flaen y rhaint arall gartref.
Y broblem fwyaf yw safon yr iaith a siaredir gan y rhan fwyaf o bobl iaith cyntaf. Mae ond rhaid i chi wylio rhifyn o Bandit i wybod am beth dwi'n sôn. Roedd rhywbeth eithaf torcalonnus o fod mewn dosbarth prifysgol yn llawn o Gymry iaith cyntaf a nhwythau ddim hyd yn oed yn gallu dweud pethau sylfaenol fel 'penwythnos', 'pum punt', 'gwenu', 'tri o'r gloch' a nifer o ymadroddion pob dydd syml yn Gymraeg. A'r rheiny oedd yn weithredol gyda Chymdeithas yr Iaith ayb
Fel un sy'n siarad efo'r bobol yma, ac eraill o bryd i'w gilydd dwi wedi cywiro un o'u geiriau Saesneg - gair sydd ddim ar ddefnydd bob dydd, ond dal yn bwysig mewn geirfa rhyw un - dwi'n derbyn "sut ti'n gwbad hwne?" (wedi hyd yn oed derbyn "ti rhy Gymraeg" !) ac yn gorfod egluro fod o'n neud synnwyr fy mod yn gwybod os dwi am alw fy hun yn rhugl. Tydio ddim yn neud synnwyr bod pobol yn gwbad gair yn y Saesneg ond ddim yn y Gymraeg. Mae'r codi'r pwynt wnaeth Sais gyda fi, fod nifer o'r siaradwyr Cymraeg - Cymraeg yw'r mamiaith, ond nid y iaith gyntaf bellach.
Dw i o'r farn y dylid siarad iaith yn gywir neu beidio â'i siarad o gwbl. Mae'r gystrawen Gymraeg, yr arddodiaid ac idiomau yn brysur ddiflannu o'r iaith, ac mae'r rhan fwyaf o Gymry yn siarad Saesneg gyda geiriau Cymraeg erbyn hyn.
Cytuno'n llwyr efo hwn. Byse Emrys ap Iwan yn falch ohonat.
Wikipedia - Emrys ap Iwan a ddywedodd:Gwawdiodd ei gyd-wladwyr am eu difaterwch tuag at yr iaith ac am ddynwared diwylliant a moesau Lloegr. Beirniadodd ddylanwad Saesneg ar ysgrifennu a phregethu ei gyfnod, gan annog ysgrifennwyr i ddefnyddio arddull plaen a naturiol Cymraeg. Dymunodd iddynt ddilyn enghraifft awduron clasurol yr Almaen, Lloegr a Ffrainc, oedd wedi datblygu eu ieithoedd hwythau yn eu dydd, yn enwedig y Ffrancod Blaise Pascal a Paul-Louis Courier. Gallai ei feirniadaeth fod yn llym, ond hefyd yn ddoniol, fel y dengys y cyngor canlynol ar sut i ddeall papurau newydd a chylchgronau Cymraeg:
Yn gyntaf oll, tynner allan yr holl eiriau llanw a'r holl ymadroddion chwyddedig; ac os bydd ar ôl hynny ryw nifer o eiriau'n aros ar y papur, troer hwynt o air i air, ac o sillaf i sillaf, i'r Saesneg. Hyn heb newid dim ar drefn y geiriau a wna Saesneg gweddol. Yna troer yr ymadroddion drachefn i'r Gymraeg yn ôl deddfau ac anian yr iaith. Fe welir oddi wrth hyn mai'r cwbl sy'n angenrheidiol tuag at ddeall Cymraeg newyddiadurol ydyw amser, amynedd, a gwybodaeth o'r Saesneg. (Erthyglau a llythyrau Emrys ap Iwan ii.110–11)
http://cy.wikipedia.org/wiki/Robert_Ambrose_Jones_%28Emrys_ap_Iwan%29Dwi'n parchu'r ffaith bod ieithoedd yn newid - dyna sut mae ieithoedd yn gweithio - ond pan dwi'n clywed safon iaith cynddrwg ymhlith pobl iaith gyntaf, dwi wir yn dechrau cwestiynu 'a oes pwynt' i'r holl beth.
Pan fo iaith yn newid trwy ddatblygiad naturiol, nid ar raddfa fel sy'n cael ei weld yma ydyw.