Welsh is a dying language!

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 07 Tach 2007 1:36 pm

Geraint a ddywedodd:Ynlgyn a'r dirywiad yn iaith - ydi hyn yn beth newydd? Mae siaradwyr Cymraeg wedi bod yn defnyddio lot fawr o eiriau Saesneg tra'n siarad Cymraeg am amser hir. Ym mhobman. Dyw e ddim yn rhywbeth newydd. I rhyw raddau efallai fod safon nifer wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar nawr fod fwy o addysg ayb trwy y Gymraeg e.e. mwy o bobl yn dweud 'trwydded' yn lle 'leisans', newid i gyfri yng Ngymraeg yn lle Saeseng, fel roedd y rhan fwyaf arfer gwneud, y ffaith fod nifer o eiriau newydd wedi eu chreu ar gyfer y byd modern ayb ?


Dw i o'r farn bod safon Cymraeg siaradwyr 'rhugl' yn well nac y bu, a dydi'r defnydd o Saesneg (yn enwedig wrth ddod at bethau'n ymwneud â rhifau, yn bur rhyfedd) ddim yn beth newydd o gwbl. Mae fy Nain yn defnyddio llawer iawn o Saesneg pan fydd hi'n siarad Cymraeg (llawer mwy na mi - daeth hithau o aelwyd gwbl Gymraeg). Mae fy modryb, sydd dim ond newydd droi'n 60, yn mynnu bod fy nghenhedlaeth i yn siarad 'Cymraeg posh'.

Os clywch safon y Gymraeg yn rhai o ysgolion penodedig Cymraeg de Cymru mae'n eithriadol o isel (prin y gellir galw nifer o'r disgyblion yn iaith gyntaf - yn ôl fy mhrofiad i, cofiwch) ac yn hanner Saesneg. Ond o ran y Cymry iaith gyntaf mae'r safon yn gwella mymryn, er bod ffordd i fynd.

Dydi'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg iaith gyntaf yn sicr ddim yn siarad bratiaith, mae'n nhw'n siarad yr un Cymraeg y mae eu rhieni a'u neiniau a theidiau wedi gwneud ers blynyddoedd maith, a dw i fy hun yn meddwl fod pethau'n newid er gwell yn ara' deg.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan huwwaters » Mer 07 Tach 2007 1:57 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:
Cytuno. Nid hwn yw'r broblem ond rhieni gwan sy'n cyfaddawdu i siarad Saesneg o hyd ar yr aelwyd. Nifer o rieni sy'n siarad Cymraeg yn priodi rhiant sy'n siarad Saesneg. Saesneg fydd iaith yr aelwyd y mwyafrif o'r amser i'r mwyafrif yn y sefyllfa yma. Mae fy chwaer fel athrawes ysgol yn gweld hyn o hyd. Rhiant yn siarad Saesneg efo'i blant er ei fod yn Gymraeg iaith gyntaf, oherwydd maent wedi arfer siarad Saesneg efo'i gilydd o flaen y rhaint arall gartref.

.


Bydd yn ofalus IAWN gyda datganiadau fel hyn...
Dyma beth yw'r norm yng Nghymru i'r rhan fwyaf o blant Cymraeg, a chofia nad yw gwleidyddiaeth ieithyddol o bwysigrwydd mawr i rai teuluoedd mewn sefyllfaoedd tebyg. Ydy, mae'n anffodus mai'r Saesneg yw'r "dominant gene" ar yr aelwyd pan fo'r potensial i gael cartref gwbl ddwyieithog, ond mae yna ddwy iaith i Gymru. Y tric yw sut mae siarad y ddwy a'u cadw ar wahân ar yr un pryd, i leihau'r cynnydd mewn bratiaith.


Nid sôn am y cartref yn unig ydwyf, ond y rhiant a'i blant yn siarad Saesneg pan fo'r rhaint uniaith Saesneg ddim yn bresennol o gwbwl. Cafodd fy chwaer sioc i glywed rhiant iaith gyntaf Gymraeg yn siarad Saesneg efo'i phlant, sy'n mynd i'r ysgol Gymraeg lleol, a hynny o flaen gyd o'r plantos erill - rhanfwyaf o aelwydydd uniaith Saesneg yn unig.

Gewch chi feio mewnfudwyr, ond os ydi rhywbeth mor egwyddorol a hyn ddim yn digwydd, dim ond ein hunain sydd i feio.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan SerenSiwenna » Mer 07 Tach 2007 2:29 pm

Mae'n od tydi, fod pobl saesneg yn deud hyn o'r hyd......a di o dal ddim yn wir. Swn i yn deud mae oherwydd pobl fel dy ffrind yn deud pethe felly yw'r rheswm na fydd o byth yn marw....mae e'n stopio ni rhag fod yn complacent.

Cofia, mond Cymraeg Rhos dwi'n siarad ac mae e'n llawn eiriau di'w dygyd o'r saseneg yn ogystal a geiriau od unigryw....ond mae e dal yn Gymraeg a chreda i wneith o barhau or hyd.

Mae e'n mynd dan fy nghroen innai hefyd weithiau pan dwi'n cael y rwtsh yma gan rhyw sais bach sydd unai yn trio fyn ypsetio fi, neu mae nhw wir yn coelio fo. Y ffefryn dwi di clywed yn fwy aml yw:

(sais) "But do you speak Welsh yourself?"

(Seren) "yes"

(Sais) (mewn syndod) Yes but do you actually speak it?"

(Seren) (braidd yn flin) "yes, yes I do"

(Sais) "but can you communicate in it fully"

(Seren) (yn chwythu fel potel o pop) "Yes, I went to a Welsh school, did all my GCSEs in Welsh, and I am currently working on a Science fiction novel in Welsh"

(Sais) "oh, I've heard that nobody actually speaks it blah (stori digri dros ben am ffrind iddyn nhw yn mynd i'r dafarn yng Nghymru a phawb yn switchio neu cogio siarad Cymraeg fel bo nhw ddim yn dallt be mae nhw'n deud"

(Seren) "Yeah, funny that, I've heard that story hundreds of times and it is always exactly the same - I wonder how true it can be since there surely can't be that many pubs in rural Wales for this to keep happening to so mnay people? And, also, Welsh people tend to speak Welsh to each other because they want to and don't give tupence whether other people can understand them or not!"

(Sais) "Well, the Welsh language is dying anyway isn't it"

(seren) Funny that, people have said that for years but I have never seen any evidence that it is being used less, in fact since I was a child it seems to be used more - especially amongst young people who seem to feel strongly about their right to speak their own language in their own country.

Sais) "hmmmm"

(Seren) "And it seems unlikely that, a language which has been spoken before, during, and after the fall of the roman empire, survived extrodinary circumstances including the Welsh Not..."

(Sais) (Torri ar draw) "the Welsh what?"

(Seren) (esbonio) erm...as I was saying yes, despite all of these things Welsh has survived for all of these years....it seems strange that it should suddenly cease to be spoken at a time when citizens are free to speak it and there are things like thinternet and various other aspects of globalisation which make it easier for Welsh people to connect with each other

(Sais) edrych yn stumped

Sori, o ni mond yn mynd i roid y 4 cyntaf ond ges i fy nghario hefo emosiwn y peth.

Paid a digaloni fy nghyd maeswr, mae'n gallu fod yn flinedig yn delio hefo'r nensens yma - ond be dwi'n dueddi i gwneud yw trio sianeli y dicder i fewn i ysgrifennu barddoniaeth neu storiau Cymraeg - weithiau wedi ei hysbrydoli gan be ddedon nhw - a gaddo i fy hun i wneud be fedrai i sicrhau fod yr iaith yn parhau :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Darth Sgonsan » Iau 08 Tach 2007 12:58 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:"Aye, fi'n mynd i gael driving test fi ar y fourth of March am half past six. So ma' rhyw two weeks 'da fi i reviso. Gyda llaw, ti 'di 'neud essay ti ar T. H. Parry Williams 'to?"


nath dy ddarlithydd basio'i brawf gyrru?
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan SerenSiwenna » Iau 08 Tach 2007 1:15 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:"Aye, fi'n mynd i gael driving test fi ar y fourth of March am half past six. So ma' rhyw two weeks 'da fi i reviso. Gyda llaw, ti 'di 'neud essay ti ar T. H. Parry Williams 'to?"


nath dy ddarlithydd basio'i brawf gyrru?


Mae yna Gerdd sy'n ddisgrifio y phenomenon yma yn wych: Over the llestri, gan Aled Lewis Evans...werth ei ddarllen, mae'n atgoffa fi o fod nol yn yr ysgol :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 14 Tach 2007 7:26 pm

Mae'r sefyllfa'n eitha' gwahanol yma.

Yng Nghanada pan dwi'n clywed am "farwolaeth" yr iaith Gymraeg, dwi'n arfer dweud "na, mae'n fyw" a mae pobl yn fy nghredu heb ddadl. Yn y dosbarth 'ma does gynnon nhw ddim unrhyw gwybodaeth am ei sefyllfa, felly maen nhw'n arfer credu popeth amdani hi (ambell waith dwi ddim yn gwybod os ydy hynny'n ddrwg neu dda).
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan Sili » Mer 14 Tach 2007 7:51 pm

huwwaters a ddywedodd:Nifer o rieni sy'n siarad Cymraeg yn priodi rhiant sy'n siarad Saesneg. Saesneg fydd iaith yr aelwyd y mwyafrif o'r amser i'r mwyafrif yn y sefyllfa yma. Mae fy chwaer fel athrawes ysgol yn gweld hyn o hyd. Rhiant yn siarad Saesneg efo'i blant er ei fod yn Gymraeg iaith gyntaf, oherwydd maent wedi arfer siarad Saesneg efo'i gilydd o flaen y rhaint arall gartref.


Wir? Ma nhad i'n Sais a myddar yn Gymraes a dwi'n siarad mwy o Gymraeg adra na Saesneg o beth wmbrath. Y ffordd dwi'n gweld hi, ma dad di cal cryn dipyn o amser i ddysgu'r Gymraeg yn iawn yn hytrach na'r bits a bobs mae o'n siarad rwan felly bols idda fo os dio'n methu dilyn y sgwrs :P Ma mam wastad di gweld hi r'un fath 'fyd, a'n chwaer. Yr unig amsar dwi'n siarad Saesneg ydi os dwisio dad gyfrannu i'r drafodaeth. Felly ma'n rhyfadd gen i feddwl fod petha'n digwydd yn wahanol mewn teuluoedd tebyg eraill! Ar ben yr holl Saesneg ychwanegol 'ma gesi adra dwi'n cofio mam yn synnu pa mor wael odd safon iaith fy ffrindia o deuluoedd gwbwl Gymraeg pan gychwynais yn yr ysgol gynradd mewn cymhariaeth.

Fodd bynnag, dwi adnabod teuluble mae'r ddau riant yn Gymraeg iaith gyntaf, ac yn mynnu siarad Saesneg efo'u plant am eu bod o'r gred fod hyn yn mynd i fod o fydd i'w plant pan yn hyn. Er hyn, mae'r plant i gyd yn siarad Cymraeg drwy'r adeg!
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Mali » Iau 15 Tach 2007 3:34 am

Gwenci Drwg a ddywedodd:Mae'r sefyllfa'n eitha' gwahanol yma.

Yng Nghanada pan dwi'n clywed am "farwolaeth" yr iaith Gymraeg, dwi'n arfer dweud "na, mae'n fyw" a mae pobl yn fy nghredu heb ddadl. Yn y dosbarth 'ma does gynnon nhw ddim unrhyw gwybodaeth am ei sefyllfa, felly maen nhw'n arfer credu popeth amdani hi (ambell waith dwi ddim yn gwybod os ydy hynny'n ddrwg neu dda).


Y tro diwethaf i mi glywed rhywun yn dweud eu bod nhw'n meddwl fod yr Iaith Gymraeg yn /wedi marw oedd ar long ar y ffordd adref o Alaska. Dim person o Ogledd America ddwedodd hyn , ond gwraig o Loegr oedd ar ei gwyliau ar Ynys Vancouver . :ofn:
Dwi'n meddwl fod pobl sy'n byw yn agosach at Gymru yn fwy debygol o ddweud fod yr Iaith Gymraeg wedi / yn marw . Mae gen i ffrindiau yma sy'n meddwl fod pawb , neu y rhan fwyaf o bobl Cymru yn medru siarad Cymraeg. Ond ella fod hyn gan ein bod ni'n siarad Cymraeg! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Welsh is a dying language!

Postiogan Ray Diota » Iau 15 Tach 2007 5:49 am

xxglennxx a ddywedodd: Beth dach chi’n deud wrth pobl pan maen nhw’n gofyn chwestiynau fel hynny?


correct
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 15 Tach 2007 2:43 pm

Dwi'n meddwl fod pobl sy'n byw yn agosach at Gymru yn fwy debygol o ddweud fod yr Iaith Gymraeg wedi / yn marw

Anghytunais i ddim...

Ond o leiaf mae ychydig o Canadiaid wedi clywed amdani hi yn y lle cyntaf, ceisiwch i egluro i rhywun ym mhobman allan o Brydain Fawr* fod yr iaith Fanawaidd yn gael ei siarad ("ond be ydy "Ynys Manaw"? etc). Hyd yn oed roedd fy athro astudiaethau Celtaidd yn feddwl nad oes un siaradwr yn y byd pan mae tipyn bach o ymchwil ar-lein yn digon i feindio'r gwir. Credwch fi, mae gynnoch chi lai o broblemau 'na dach chi'n meddwl...iaith anferth ydy'r Gymraeg yn fy marn i.:)

*ac yn aml iawn, ym Mhrydain Fawr hefyd
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron