Jon Bon Jela a ddywedodd:Y peth arall sy'n fy mhoeni i - petai polisi iaith o ryw fath yn cael ei weithredu a bod rhaid cyfieithu pob dim, ai dim ond y cwmniau cyfieithu crachaidd fydd yn elwa?
Dwi'n cytuno â ti i raddau. Dwi'm isio gweld sector gyfieithu enfawr sydd ond yn leinio pocedi ambell un.
Un ateb: cyflogi mwy o siaradwyr Cymraeg fel nad oes rhaid cyfieithu yn y lle cyntaf NEU roi cyfleoedd i staff ddysgu Cymraeg. Sa trio cael plant yn gadael ysgol yn gallu'r Gymraeg yn iawn yn fan cychwyn reit dda...
Mae'n rhaid cael tu hwnt i'r diwylliant cyfieithu. Mae'n angenrheidiol ar ryw lefel wrth gwrs, ond dim hwnnw ydy'r end game fel petai.
Yng Ngwlad y Basg mae'n rhaid i bob gwas sifil siarad yr iaith Fasgeg a Sbaeneg. Dylen ni anelu at hyn yma hefyd, gan roi adnoddau call i'r rhai sydd eisau dysgu'r iaith.