Mr Gasyth a ddywedodd: Mae'r ffaith fod angen gwneud y fath beth yn dangos pa mor anodd ydi dod o hyd i'r rhifau Cymraeg yn y lle cynta.
O ia, wnes i'm darllen hwnna'n iawn tro cyntaf
Cymedrolwr: gronw
Mr Gasyth a ddywedodd: Mae'r ffaith fod angen gwneud y fath beth yn dangos pa mor anodd ydi dod o hyd i'r rhifau Cymraeg yn y lle cynta.
Mr Gasyth a ddywedodd:Rhys a ddywedodd:Nid nocio cymorth.com ydw i a dwi'n nabod y person wnaeth ei greu, ond mae angen hysbysebion banner i ymddangos ar maes-e, blogiau Cymraeg a Chymreig, papurau bro a chylchgronnau, papurau Cymraeg a Saesneg, hysbsyeb yn nyddiadur y Lolfa (mae'r rhai diwethaf i gyd yn costio £ wrth gwrs)
Dwi'm yn nocio cymorth chwaith - deud dwi na fyddia angen gwefan fel cymorth (heb son am ei hysbysebu) petai rhifau ffon cymraeg yn cael eu hysbysebu i'r un graddau a'r rhai saesneg gan y cwmniau yn y lle cynta.
Ymateb i Arolwg Dragon's Eye - Yr Angen am Ddeddfwriaeth Newydd
Wrth ymateb i ganlyniadau arolwg diweddar gan raglen BBC Dragon's Eye a oedd yn honni bod nifer isel iawn o Gymry Cymraeg yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg y sectorau preifat a chyhoeddus, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod hyn yn brawf pendant o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Maent yn dadlau bod gwasanaethau Cymraeg tocenistig rhai cwmnïau a sefydliadau, fel y rhai a enwir yn yr arolwg, yn golygu ei bod yn aml yn haws i dderbyn y gwasanaethau Saesneg na mynnu gwasanaeth Cymraeg.
Dywedodd y Swyddog Ymgyrchoedd Cenedlaethol, Sioned Haf,
"Y rheswm pam nad yw pobl yn defnyddio unrhyw wasanaethau Cymraeg sydd ar gael yw bod y gwasanaethau ar draws y sector breifat yn ddarniog ac anwadal, ac mae disgwyliadau pobl Cymru o'r hyn sydd ar gael iddynt yn eu hiaith yn ofnadwy o isel. Pe bai Deddf Iaith Newydd yn sicrhau bod gwasanaethau o safon uchel, o'r un safon ac yr un mor hygyrch a gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg, yna byddai'r ffigyrau yma yn codi yn sylweddol."
"Yn aml iawn un siaradwr Cymraeg sydd gan y cwmnïau yma yn eu swyddfeydd i ateb eich galwad, os yw'n digwydd bod i ffwrdd, neu ddim yn arbenigo yn eich maes, yna does gennych chi ddim gwasanaeth cyfrwng Cymraeg. Mae pobl felly yn derbyn y gwasanaeth Saesneg, sydd yn llai o drafferth."
Dywedodd Hywel Griffiths, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r broblem yn deillio o'r ffaith bod yn rhaid i bobl ddewis derbyn gwasanaeth Cymraeg fel rhyw fath o opsiwn ychwanegol, yn hytrach na bod y gwasanaeth Cymraeg yn cael ei gynnig fel mater o hawl sylfaenol. Mae 1% yn gofyn am wasanaeth Cymraeg y Principality er enghraifft, ond does dim rhaid i rywun sydd yn siarad Saesneg ofyn am wasanaeth Saesneg o gwbwl. Mae'r hyn sydd yn cael ei awgrymu yn yr arolwg gyfystyr a siop yn gosod teganau ar silff uchel tu ôl i gownter mewn ystafell wedi'i chloi, ac yna cwyno bod gwerthiant teganau yn isel."
"Mae haeriad y CBI bod busnesau yn cael eu gyrru gan bwerau cwsmeriaid yn unig yn anghywir - mae mater o hawliau eraill fel isafswm cyflog a'r hawl i weithwyr ymuno ag undeb yn hawliau sylfaenol sydd yn cael eu darparu gan
ewyllys wleidyddol. Dylai'r hawl i dderbyn gwasanaethau Cymraeg gael ei thrin yn union yr un modd"
Bydd nifer o gynigion yn ymwneud â Deddf Iaith Newydd, gan gynnwys galwadau ar y sector breifat, yn cael eu trafod yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am 10 o'r gloch yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, dydd Sadwrn yr 2il o Chwefror.
Rhys a ddywedodd:118 404 BT- Dim ond ar ôl rhaglenni Cymraeg ar y teledu dwi wedi gweld rhain
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai