Cymedrolwr: gronw
Rhodri Nwdls a ddywedodd:1. Mae'n anochel fod rhifau'n isel pan mae bron yn amhosib dod o hyd i'r rhifau a gwasanaethau Cymraeg.
2. Mae disgwyliadau siaradwyr Cymraeg mor isel o ran bod darpariaeth Cymraeg yn bodoli o gwbl gan gwmni nad ydyn nhw'n meddwl chwilio.
3. Mae'r ffaith fod angen chwilio yn y lle cyntaf yn rwystr enfawr.
4. Anghysondeb rhifau - dwi wedi cael ar wybod nôl yn 2005 fod rhif Cymraeg Nwy Prydain ddim yn bodoli. Pam faswn i'n meddwl trio eto tasan nhw' wedi ei atgyfodi hyd yn oed?
5. 9% o filiau Dŵr Cymru yn Gymraeg - mae hwnna'n ffigwr eitha sylweddol ddwedwn i. Lle da i adeiladu arno.
6. Default = Saesneg - dyw rhan fwyaf o bobol ddim yn edrych ar filiau nac yn gallu bod yn arsd i anfon llythyr/codi'r ffôn i'w newid i'r Gymraeg - a pham ddylsa nhw?
Rhys a ddywedodd:Griff-Waunfach a ddywedodd:http://www.cymorth.com
Ond ble mae Cymroth.com yn cael ei hysbysebu?
Rhys a ddywedodd:Nid nocio cymorth.com ydw i a dwi'n nabod y person wnaeth ei greu, ond mae angen hysbysebion banner i ymddangos ar maes-e, blogiau Cymraeg a Chymreig, papurau bro a chylchgronnau, papurau Cymraeg a Saesneg, hysbsyeb yn nyddiadur y Lolfa (mae'r rhai diwethaf i gyd yn costio £ wrth gwrs)
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai