Gweler stori BBC Yma...
Gweler datganiad Cymdeithas yr Iaith yma...
A gweler yma ddatganiad gan URC nôl yn 2005!!
WRU 2005 a ddywedodd:Heddiw, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru gynlluniau i ddatblygu Polisi Iaith Gymraeg er mwyn cynnwys defnydd helaethach o’r Gymraeg yn ei fusnes.
Mae’r Undeb yn chwilio am ffyrdd i ymgorffori defnydd o’r iaith Gymraeg yn ei waith, a hynny yn enwedig drwy lunio fersiwn Gymraeg o’r wefan http://www.wru.co.uk.
A datganiad Bwrdd yr Iaith nôl yn 2005
Meirion Prys a ddywedodd:Mae Undeb Rygbi Cymru yn gosod enghraifft wych i eraill trwy ei benderfyniad i ehangu ar ei ddefnydd o'r Gymraeg, ac ry'n ni ym Mwrdd yr Iaith wrth ein boddau gyda'i gefnogaeth a'i ymrwymiad amlwg i'r iaith.
Danfonwch eich negeseuon o gwyn at y WRU - info@wru.co.uk
Os chi'n gwybod am agweddau eraill o waith yr Undeb sy'n cael eu rhedeg yn gwbwl Saesneg, danfonwch NB.
Gyda llaw, yn adran 'Gymraeg' gwefan yr Undeb, 9 eitem newyddion Cymraeg yn unig sydd wedi eu cynnwys ers y datganiad yn 2005! - http://www.wru.co.uk/14217_14209.php