Menter Patagonia

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Menter Patagonia

Postiogan Menter Iaith Conwy » Mer 13 Chw 2008 11:05 am

Menter Patagonia

Bydd cynllun newydd cyffrous yn cychwyn yn y Wladfa yn Mis Ebrill, cynllun a fydd yn adeiladau ar y gwaith mae’r raglen dysgu Cymraeg wedi bod yn ei gyflawni dros y ddegawd diwethaf. Ia, bydd rhwydwaith y mentrau iaith yn ehangu tu hwnt i diroedd Cymru er mwyn cryfhau’r Cymraeg fel iaith gymunedol yn y Wladfa. Mae nifer o fudiadau wedi dod at ei gilydd i wireddu’r cynllun sydd yn cynnwys Mentrau Iaith Cymru, yr Urdd, Cymdeithas Cymru Ariannin, Y Cyngor Prydeinig. Mae nawdd hefyd wedi ei ddenu gan gwmni preifat sef Nos Da, Caerdydd.

Yn dilyn adroddiad Robert Owen Jones (Prifysgol Caerdydd) ar raglen dysgu Cymraeg y Wladfa, mae’n amlwg fod angen cynyddu’r ddarpariaeth yn ogystal â chynnig cyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio’r Gymraeg yno. Heb wneud hynny, ni fydd modd o sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhugl eu Cymraeg, nac o gynnal Cymraeg y rhai sydd yn ei arddel o hyd. Ond fe fydd y rhaglen yn un ehangach na Menter Iaith arferol gan hyrwyddo cynllun cyfnewid rhwng y ddwy wlad. Prif amcanion y cynllun fydd;


• Cyfleoedd i Gymdeithasu trwy’r Gymraeg

Mae hyn yn hanfodol i ddatblygiad y rhai sy’n dysgu Cymraeg a’r rhai sy’n parhau i’w arddel. Heb ddigwyddiadau o’r math nid oes gan y Gymraeg ddyfodol fel iaith fyw.

• Cyfleoedd i unigolion astudio a gweithio yng Nghymru.

Gall hyn roi cyfleoedd i unigolion ddod yn rhugl yn y Gymraeg ac arfer â’i ddefnyddio’n feunyddiol. Bydd hefyd yn creu mwy o ddiddordeb yn y Gymraeg yn y Wladfa, os oes cyfleoedd i ddod i Gymru. Rydym yn ymwybodol o sawl busnes sy’n awyddus i gyflogi siaradwyr Cymraeg ond sy’n cael trafferth cael hyd iddyn nhw. Mae rhestr o sefydliadau eisoes ar gael.


• Cyfleoedd i unigolion o Gymru wneud gwaith Gwirfoddol yn y Wladfa gyda’r Cynllun Dysgu Cymraeg a gyda’r Fenter Iaith arfaethedig.

Credwn ei fod yn bwysig cynnig cyfleoedd i bobl o Gymru wneud gwaith gwirfoddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn clymu i fewn gyda strategaeth y Cynulliad i ddarparu mwy o gyfleoedd i’r ifanc cael defnyddio’r Gymraeg. Efalle bydd cyfle i artistiad o Gymru teithio yno hefyd.


I Gloi

Tra fod llawer o waith da wedi ei wneud eisoes yn y Wladfa, heb y cynllun dysgu Cymraeg presennol a gwaith unigolion o Gymdeithas Cymru Ariannin mae’n debyg y buasai cyflwr y Gymraeg yn y Wladfa wedi dirywio y tu hwnt i achubiaeth. Credwn felly mai gwireddu’r cynllun yma ydi’r cam naturiol nesaf yn y broses o ddiogelu’r Gymraeg fel iaith fyw y tu hwnt i lannau Cymru.

Mae’n gynllun sydd yn ceisio cyfuno nifer o gynlluniau yn y Wladfa er mwyn creu continuwm iaith fydd yn creu siaradwyr Cymraeg newydd a chyfleoedd go iawn i ddefnyddio’r Gymraeg. Ar ben hyn yr ydym yn gobeithio fydd y Gymraeg yn dod yn ased economaidd i’r ardal a’u phobl. Bydd hefyd yn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru wrth i ni allu cynnig cyfleoedd cyffrous i siaradwyr Cymraeg wneud gwaith gwirfoddol trwy’r Gymraeg tu hwnt i Gymru.

Credwn yn gryf fod potensial i ddod â budd mawr i Gymru a’r rhan yma o’r Ariannin drwy’r cynllun yma. Mae sawl agwedd cadarnhaol iddo:

Trosglwyddo Sgiliau – e.e. Arbenigedd cynllunio ieithyddol unigryw Cymru

Rhannu Sgiliau – e.e. dysgu Sbaeneg trwy’r Gymraeg

Budd Economaidd – e.e. Cynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynnal gwasanaethau trwy’r Gymraeg, hybu twristiaeth i’r Wladfa, hybu brand Cymru dramor.

Hyrwyddo’r Gymraeg – Bydd y cynllun yn rhoi hwb sylweddol i’r Gymraeg yn y Wladfa ond hefyd yn ehangu defnydd y Gymraeg yng Nghymru a chreu nifer o gyfleoedd newydd ac unigryw i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r ffaith eich bod yn gallu siarad y Gymraeg mewn rhannau eraill o’r Byd yn rhoi hygrededd gwerthfawr iddi fel iaith fyw.

Mae 2 weithiwr (James Williams a Dyfed Sion) am fynd i'r Wladfa ym mis Ebrill ( er ein bwriad hir dymor yw cyflogi pobl lleol i neud y gwaith). Rydym hefyd yn gobeithio gyflogi sywddog i hyrwyddo'r cynllun yma(ond heb siechau'r cyllid eto).

Bydd James yn cesio codi mwy o arian i'r cynllun trwy rhedeg marathon Llundain. Mae modd ei gefnogi;

Os hoffech chi ddangos eich cefnogaeth tuag at y fenter newydd yma, yna plîs cyfrannwch wrth ymweld ag http://www.justgiving.com/jameswilliams2
Menter Iaith Conwy
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Gwe 13 Ion 2006 9:46 am
Lleoliad: yn y Swyddfa

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron