Mewnlifiad (o Gymry Cymraeg....?)

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mewnlifiad (o Gymry Cymraeg....?)

Postiogan CaptainBrugge » Sul 17 Chw 2008 9:27 am

Mae'n amlwg fod mewnlifiad wedi cael effaith ofnadwy ar statws yr iaith yng ngymru. Ond hefyd, maen amlwg fod alltudiaeth yr ifanc i ddinasoedd Lloegr a De Cymru hefyd wedi cael effaith.

Y gobaith ydy fod y Cymry Cymraeg sydd wedi bod i ffwrdd yn dychwelyd ar ol cyfnod.

A oes tystiolaeth fod hyn yn digwydd ac ar gynydd? A fedrwn ni un diwrnod weld mewnlifiad o Gymry Cymraeg...?
"I feel like a pig shat in my head"
CaptainBrugge
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 29 Mai 2006 11:33 am

Re: Mewnlifiad (o Gymry Cymraeg....?)

Postiogan Griff-Waunfach » Llun 18 Chw 2008 11:15 am

Ond os yw'r pobl ifanc yma wedi cyfarfod partner / magu plant yn Lloegr / ardaloedd di-Gymraeg, y siawns yw nid y Gymraeg byddai iaith y Teulu sy'n symud nol.
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Mewnlifiad (o Gymry Cymraeg....?)

Postiogan pigynclust » Gwe 16 Mai 2008 9:59 pm

pigynclust
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Llun 27 Awst 2007 9:23 pm

Re: Mewnlifiad (o Gymry Cymraeg....?)

Postiogan S.W. » Sad 17 Mai 2008 8:20 am

Gallwch chi ddim gorfodi pobl ifanc rhag gadael cymunedau Cymraeg i fynd i ddinasoedd mawr. Mae pobl isio profiadau a gall rhywle fel tref yn y Fro Gymraeg ddim cystadlu a Chaerdydd. Y camp ydy bod rheswm a cyfle iddynt wedyn dod yn nol. O ran datblygu perthynas a person Saesneg neu di-Gymraeg wel sori ond dyna bywyd. Dydy fy ngwraig i'm yn Gymraeg ond mai'n byw yma yng Nghymru hefo fi ac yn dysgu Cymraeg. Dwi'n gweld hynny fel ffordd o ehangu'r iaith, eto y gamp ydy rhoi'r cyfle i'r bobl hynny ddod yn nol i fagu eu teuluoedd yma. Bydd rhai yn siwr o gael eu colli ond bydd rhai hefyd yn gallu cael eu hennill.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Mewnlifiad (o Gymry Cymraeg....?)

Postiogan Sosban Fach » Sad 17 Mai 2008 3:21 pm

Tydi'r ffaith bod bobol ifanc cymraeg yn mynd i'r de a'i chymreigio hi ddim o fantais o gwbwl? Man wir bo pawb isho mund i gaerdydd a Abertawe ond fanno sydd angen bob help i'w chymreigio mwy na nunlla de?
Sosban Fach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 02 Maw 2008 8:24 pm


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron